Gweinidog Swyddfa Cymru yn nodi cyfraniad Cyfamod at gymuned Lluoedd Arfog Cymru
Heddiw bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn gweld sut mae aelodau presennol a chyn-filwyr Cymuned y Lluoedd Arfog ledled Cymru…
Heddiw bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn gweld sut mae aelodau presennol a chyn-filwyr Cymuned y Lluoedd Arfog ledled Cymru’n cael eu cefnogi.
Bydd Mr Crabb yn ymweld a chanolfan wasanaethu yn y Barri, a weithredir gan Gyngor Bro Morgannwg, cyn teithio i Sain Tathan i weld cynllun chwarae gan Gynllun Grantiau’r Cyfamod Cymunedol ar waith.
Mae’r ymweliad yn cyd-fynd a chyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf y Weinyddiaeth Amddiffyn ar Gyfamod y Lluoedd Arfog. Nod y cynllun yw sicrhau bod y personel presennol, eu teuluoedd a chyn-filwyr yn cael defnyddio’r gwasanaethau a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen wrth iddynt wasanaethu gyda’r lluoedd arfog ac ar ol i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
Mae’r adroddiad yn nodi’r cyfraniad pwysig sy’n cael ei wneud er mwyn cyflwyno darpariaethau i’r gymuned yng Nghymru, a’r perthnasoedd da sydd wedi’u meithrin gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cyflwyno gwasanaethau gofal iechyd, tai ac addysg. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y meysydd ble mae angen gwneud rhagor o waith.
I nodi’r cyhoeddiad pwysig hwn, bydd Mr Crabb yn ymweld heddiw a phrosiectau ym Mro Morgannwg sydd eisoes yn darparu cefnogaeth hanfodol i bersonel milwrol sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd ac i gyn- bersonel.
Cyngor Bro Morgannwg oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog. Mae’r cynllun yn darparu cefnogaeth ariannol i brosiect lleol sy’n cryfhau’r cwlwm neu’r gyd-ddealltwriaeth rhwng aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog a’r gymuned ehangach y maent yn byw ynddi.
Bydd Mr Crabb yn ymweld a chanolfan Holwch Un Fro yn Swyddfeydd Dinesig y Cyngor yn y Barri, ble bydd yn cyfarfod y Cynghorydd Gwyn John, a Tony Curliss, Rheolwr Gweithredol y ganolfan.
Mae’r cyngor wedi cyflwyno polisi newydd o ofyn i gwsmeriaid a oes ganddynt gysylltiad a’r Lluoedd Arfog pan maent yn cysylltu a’r cyngor. Mae hyn wedi galluogi i staff adnabod a chofnodi’r galw a geir yng nghymuned y Lluoedd Arfog, yn enwedig mewn perthynas a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cyngor wedi gweithio hefyd gyda phartneriaid allanol er mwyn darparu bas data ar-lein o’r gefnogaeth sydd ar gael i’r gymuned.
Yna bydd Mr Crabb yn teithio i Sain Tathan ble bydd yn gweld sut mae cyllid Cynllun Grantiau’r Cyfamod Cymunedol wedi helpu i gyllido cynllun chwarae yng Nghanolfan Wybodaeth HIVE ar y safle.
Llwyddodd meithrinfa Little Rascals i sicrhau £32,888 gan y cynllun ym mis Tachwedd 2011, i gyllido man chwarae newydd ble gall plant aelodau’r lluoedd arfog a phlant y gymuned leol chwarae gyda’i gilydd.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:
“Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn nodi cam arwyddocaol ymlaen yn ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi ein cymuned o aelodau’r Lluoedd Arfog. Mae ein personel, boed wedi ymddeol neu’n gwasanaethu, yn wynebu anawsterau yn aml o ran sicrhau tai a gofal iechyd. Bwriad y Cyfamod yw gofalu am hyn ac mae’r cynllun yn chwarae rhan allweddol mewn cryfhau ein cymunedau yng Nghymru.
“Mae’n glir mai nid rol i’r Llywodraeth yn unig yw anrhydeddu’r Cyfamod. Mae gan Lywodraeth Leol ac, yn bwysicach na hynny, cymunedau lleol, ran bwysig i’w chwarae ac rwy’n hynod falch o glywed bod cysylltiadau cryf yn cael eu datblygu ym Mro Morgannwg.
“Mae nifer o’r meysydd yn y Cyfamod, fel tai ac iechyd, yn gyfrifoldeb y gweinyddiaethau datganoledig ac mae’n galonogol gweld ymrwymiad mor gryf gan Lywodraeth Cymru i bersonel y lluoedd arfog yng Nghymru.
“Mae’r adroddiad blynyddol cyntaf ar Gyfamod y Lluoedd Arfog wedi dangos bod cynnydd da wedi’i wneud o ran cyflwyno darpariaethau ar gyfer y gymuned yng Nghymru a ledled y DU.
“Er hynny, mae llawer o waith i’w wneud o hyd, ac mae’r Llywodraeth hon yn parhau’n ymroddedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru’n parhau i dderbyn y gefnogaeth a’r manteision y mae ganddi hawl iddynt.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor y Fro, y Cynghorydd Neil Moore:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein cymuned leol o aelodau’r Lluoedd Arfog. O ganlyniad i gefnogi cynllun y Cyfamod Cymunedol, mae Cyngor y Fro wedi cyflwyno mesurau cadarnhaol sydd eisoes yn gwneud byd o wahaniaeth i gymuned y Lluoedd Arfog yn lleol ac i bobl eraill y gymuned yn gyffredinol. Rwy’n gobeithio y bydd awdurdodau lleol eraill yn gallu dysgu oddi wrth yr hyn rydyn ni wedi’i weithredu yn y Fro.”
Dywedodd Comander Gorsaf y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan, yr Is-Gyrnol Paul Regan:
“Mae uned y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan yn ffodus o fod wedi’i lleoli yng nghymuned eithriadol gefnogol Bro Morgannwg, ac rwy’n gwybod bod hyn yn golygu llawer iawn i’r personel sy’n gwasanaethu yn yr Uned eithriadol brysur yma, a’u teuluoedd.
“Roedd y ffaith bod Cyngor Bro Morgannwg wedi ffurfioli’r gefnogaeth hon ym mis Mehefin 2011, drwy lofnodi Cyfamod Cymunedol cyntaf y Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn foment hynod arwyddocaol a gallwn weld canlyniadau hyn yma heddiw, yn y cyfleuster chwarae gwych yma yng nghanolfan HIVE y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan.
“Drwy hybu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o’r materion sy’n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog, bydd y Cyfamod yn sicrhau bod yr aberth a wynebir gan y Lluoedd Arfog yn cael ei gydnabod ac nad yw’r personel sy’n gwasanaethu, na’u teuluoedd, yn wynebu unrhyw anfantais.”
NODIADAU I OLYGYDDION
• Ym mis Mehefin 2011, lansiodd Llywodraeth y DU y cynllun Cyfamod Cymunedol, sy’n ddatganiad gwirfoddol o gefnogaeth i’w gilydd rhwng Cymuned leol y Lluoedd Arfog a’r gymuned o bobl leol.
• Lansiwyd Pecyn Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog ym mis Tachwedd 2011. Mae hwn yn datgan ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar faterion datganoledig.
• Mae saith awdurdod lleol yng Nghymru wedi llofnodi Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog - Bro Morgannwg, Ynys Mon, Powys, Casnewydd, Sir Benfro, Sir Fynwy ac, yn fwyaf diweddar, Rhondda Cynon Taf ym mis Tachwedd 2012.