Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu rhwydweithiau teledu newydd: cyfnod newydd i raglenni cymunedol Cymru

Heddiw [13eg Rhagfyr] mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [13eg Rhagfyr] mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, bod 34 o rwydweithiau teledu lleol newydd yn mynd i gael eu cyflwyno ledled y Deyrnas Unedig, gyda thri wedi’u clustnodi ar gyfer Gogledd a De Cymru. 

 Mae’r rhwydweithiau yn cael eu sefydlu yn dilyn ymgynghoriad ar deledu lleol dan arweiniad Ofcom, a oedd yn nodi blas am raglenni lleol a chymunedol mewn nifer o ranbarthau yng Nghymru.   Heddiw, fe wnaeth yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi y bydd Caerdydd ac Abertawe yn y rownd gyntaf o rwydweithiau i gael eu sefydlu, a bydd yr Wyddgrug, yng Ngogledd Cymru, yn yr ail rownd.  

Dywedodd Mr Jones: “Rwy’n croesawu’r cam nesaf yn nod y Llywodraeth i hyrwyddo diwydiant cryf o ran y cyfryngau lleol, ac mae hyn yn flaenoriaeth allweddol i ni: sicrhau bod y galw am gynnwys a newyddion lleol yn cael ei fodloni mewn ffordd sy’n fasnachol hyfyw.    Bydd yn gyfnod newydd i raglenni cymunedol yng Nghymru, ac yn gyfle go iawn i hybu ymgysylltiad a chefnogi democratiaeth leol. 

“Mae pobl am weld rhaglenni sy’n ymwneud yn uniongyrchol a nhw a’u profiadau, a gall teledu lleol helpu i chwarae rol bwysig wrth hybu cyflogaeth, lles a sgiliau yn yr ardaloedd hyn.  Mae gennym ni gyfryngau Cymraeg cryf a chreadigol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y genhedlaeth newydd hon o wasanaethau teledu lleol trwyddedig yn dechrau ffurfio.” 

Yn 2011, fe wnaeth y Llywodraeth lansio dogfen ymgynghori ‘Fframwaith Newydd ar gyfer Teledu Lleol’ (New Framework for Local Television), ac fe wnaeth yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gynnal nifer o ‘uwchgynadleddau’ o amgylch y wlad er mwyn pennu dyfodol teledu lleol yn y DU yn y tymor hir.  Fe wnaeth yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ymgynghori ar 65 o drefi a dinasoedd arloesol ledled y DU lle mae’r ddarpariaeth sbectrwm yn dda, gan ystyried ystod o feini prawf gan gynnwys darpariaeth sbectrwm a maint y boblogaeth, yn ogystal a lefel y diddordeb gan weithredwyr posib a’r cyhoedd, ardal ddaearyddol ac amrywiaeth y cymunedau ledled gwledydd a rhanbarthau’r DU.   

Nodiadau i olygyddion:

  • Bydd gan deledu lleol y gallu i gyrraedd lleoliadau eraill drwy wasanaethau protocol y rhyngrwyd (IPTV), sy’n cael ei hwyluso gan strategaeth band eang cyflym iawn y Llywodraeth. Y bwriad yw cyrraedd 90% o’r boblogaeth erbyn 2015.
  • Yn amodol ar gyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol mewn amser, bydd y trwyddedau teledu lleol cyntaf yn cael eu rhoi o haf 2012 ymlaen, sy’n golygu y dylai’r gorsafoedd teledu lleol cyntaf ddechrau darlledu o 2013 ymlaen.
  • Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cymryd camau i alluogi’r fframwaith hwn i greu trefn drwyddedu newydd ar gyfer sbectrwm a chynnwys, gan roi cyfle i’r farchnad ddatblygu modelau busnes newydd i ddarparu cynnwys a newyddion lleol yn eang am y tro cyntaf.
  • Fel rhan o setliad ffi’r drwydded ym mis Hydref 2010, fe wnaeth y BBC gytuno i ddarparu arian cyfalaf o hyd at £25m ar gyfer gwasanaethau teledu lleol, a £15m yn rhagor ar gyfer sicrhau cynnwys teledu lleol.  Bydd y broses drwyddedu ar gyfer y sbectrwm yn cael ei chynllunio i gymell y rheini sy’n gwneud bid i sicrhau’r nifer fwyaf o safleoedd sbectrwm ar gyfer teledu lleol am y gost isaf er mwyn cael gwerth am arian o gyfraniad y BBC.
Cyhoeddwyd ar 13 December 2011