Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu fframwaith polisi cynllunio symlach
Heddiw, 27 Mawrth 2012, croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru gyhoeddi Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol. Mae’r fframwaith cynllunio newydd…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Heddiw, 27 Mawrth 2012, croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru gyhoeddi Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol. Mae’r fframwaith cynllunio newydd hwn wedi symleiddio’r polisi a etifeddwyd o dros 1,300 o dudalennau mewn 44 dogfen i ddogfen 50 tudalen a fydd yn cefnogi twf yn well ac yn helpu i greu’r cartrefi a’r swyddi sydd eu hangen.
Yn un o’r newidiadau mwyaf erioed i bolisi cynllunio, bydd yn rhoi grym nas gwelwyd ei debyg o’r blaen, yn nwylo cymunedau, ac yn ceisio helpu i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol a hanesyddol ar yr un pryd. Bydd y newidiadau yn effeithio ar bolisi cynllunio yn Lloegr, ac mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu’r mesurau hyn i sicrhau bod Cymru hefyd yn elwa o drefn gynllunio symlach.
Dywedodd Mr Jones:
“Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer canllawiau cynllunio yn Lloegr yn arwain at ddatblygiadau mwy cynaliadwy. Nid yn unig bydd yn gwarchod cefn gwlad, ond bydd hefyd yn rhoi mwy o rym i gymunedau, gan greu’r cartrefi a’r swyddi sydd eu hangen hefyd.
“Mae Llywodraeth y DU yn credu y bydd rhannau eraill yn y DU yn gweld beth yw buddiannau posib y dull gweithredu symlach hwn, ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio mabwysiadu’r mesurau hyn.
”Gallai peidio a chael gwared ar faich rheoleiddio yn y maes hwn fod yn anfantais i ddatblygiadau yng Nghymru yn y dyfodol. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r model Ardal Fenter yng Nghymru, byddai newid eu canllawiau cynllunio o fwy o fudd i’r ardaloedd hynny sy’n dibynnu ar ganiatad cynllunio hyblyg,”