Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Cymru yn cynnal Seminar y Gymdeithas Fawr gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd

O gwmniau cenedlaethol mawr fel John Lewis, i fentrau cymunedol bach fel Banc Bwyd Caerdydd, mae mentrau cymdeithasol o bob lliw a llun ar gael…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

O gwmniau cenedlaethol mawr fel John Lewis, i fentrau cymunedol bach fel Banc Bwyd Caerdydd, mae mentrau cymdeithasol o bob lliw a llun ar gael ond mae gan bob un ohonynt ran bwysig i’w chwarae yng Nghymdeithas Fawr Cymru.

Heddiw [5 Tachwedd] bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, a’r Is-ysgrifennydd Gwladol, y Farwnes Randerson, yn cynnal yr ail Seminar Cymdeithas Fawr Cymru ar y cyd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.  Yn y seminar bydd cyfle iddynt gwrdd a grwpiau cymunedol, mudiadau lleol a busnesau i drafod syniadau a dulliau gweithredu newydd a allai hybu a chefnogi twf partneriaethau a mentrau cymdeithasol yn eu hardaloedd.

Bydd y rheini a fydd yn bresennol yn cael clywed gan yr Athro Brian Morgan, Athro Mentergarwch a Chyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth Greadigol a Menter ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, Jon Penfold o Social Investment a’r Big Society Capital, Ian Courtney o’r Banc Elusennau ac Adele Blakeborough o’r Social Business Trust.

Bydd pob un yn rhoi ei safbwyntiau ei hun ynghylch sut mae creu cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid cymdeithasol ac yn hwyluso trafodaethau o amgylch bwrdd ynghylch y ffordd orau o ddatblygu a gwella arweinyddiaeth a rheolaeth mewn mentrau cymdeithasol.

Dywedodd David Jones , Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

“Mae’r Gymdeithas Fawr yn ymwneud a newid diwylliannol - o weithredu gan y llywodraeth i weithredu lleol.

“Ers ei lansio rydym wedi gweld ystod eang o ddigwyddiadau amrywiol a diddorol, fel hwn heddiw, ac mae’r cyfan yn rhannu’r un diben - dod a phobl ynghyd a’u grymuso i fynd ati eu hunain i wneud gwahaniaeth go iawn.

“Roeddwn wedi cynnal y Seminar Cymdeithas Fawr gyntaf yng Nghasnewydd fis Medi diwethaf gyda’r Gweinidog dros Gymdeithas Sifil, Nick Hurd. Ers hynny rwyf wedi achub ar bob cyfle i weld Cymdeithas Fawr Cymru ar waith ac rwyf wedi cael fy nharo gan amrywiaeth a hyd a lled y prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ar draws y wlad.

“Bydd y seminar hwn heddiw yn canolbwyntio ar un o’r sialensiau mwyaf sy’n ein hwynebu - sicrhau adferiad economaidd sy’n cael ei gefnogi gan fuddsoddiad cymdeithasol cynaliadwy ac sy’n cael ei ddarparu gan ac ar gyfer pobl Cymru.

“Fy ngweledigaeth i yw cymuned sy’n gweithio’n ddi-dor ar draws ei hun, gyda sectorau gwirfoddol a menter gymdeithasol law yn llaw a’r sectorau cyhoeddus a phreifat, unigolion a theuluoedd yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i chwarae rhan lawn yn eu cymunedau.”

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

“Mae’r digwyddiad heddiw ar y cyd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn ein galluogi i ymgysylltu a chymunedau, busnesau a mentrau cymdeithasol a chymryd rhan mewn trafodaethau defnyddiol gyda nhw ynghylch sut gall Llywodraeth y DU helpu.

“Ar ol y digwyddiad heddiw, hoffwn weld tri chanlyniad clir; dymuniad a momentwm a rennir ar gyfer twf yn y farchnad buddsoddiad cymdeithasol yng Nghymru, llunio cysylltiadau newydd, ac ennill syniadau ar gyfer gwella sgiliau ein rheolwyr yn y sector menter gymdeithasol.

“Nid yw’r syniad o Gymdeithas Fawr yn rhywbeth newydd yng Nghymru - mae nifer o bobl ar hyd a lled y wlad sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb ac yn gwneud ein cymunedau yn llefydd gwell i fyw, a gwneud cyfraniad allweddol at dwf economi Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at glywed am y sialensiau a’r profiadau mae ein mentrau cymdeithasol yn eu hwynebu, ac i glywed eu safbwyntiau ynghylch yr hyn sydd ei angen yng Nghymru. Mae arnom eisiau eu helpu i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau a chodi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.”

Dywedodd yr Athro Brian Morgan:

“Mae’r digwyddiad Big Society Capital yn gyfle unigryw i helpu i greu sector menter gymdeithasol sy’n ariannol iach yng Nghymru a rhoi mynediad i’r sector at gyllid i fuddsoddi mewn cyfleoedd newydd - yn enwedig y rheini sy’n canolbwyntio ar annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn well. Ar ben hynny, mae’r digwyddiad yn cyflwyno arweinwyr sector cymdeithasol i gyfryngwyr ariannol yn y farchnad buddsoddiad cymdeithasol sydd mewn sefyllfa dda i drefnu’r cyllid ar gyfer prosiectau newydd.

“Bydd y digwyddiad proffil uchel hwn yn helpu i ddatblygu’r cysylltiadau gyda Big Society Capital i alluogi sectorau cymdeithasol i ffynnu drwy ddarparu benthyciadau ac adnoddau eraill - gan gynnwys hyfforddiant arweinyddiaeth a chyngor ariannol - wedi’u teilwra yn ol y sector.”

“Bydd y bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Big Society Capital yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu mynediad at gyfryngau newydd i gyllido twf y sector yng Nghymru.”

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 November 2012