Cymru mewn sefyllfa dda i elwa ar fwy o wariant ar amddiffyn
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwario £290 y pen am bob unigolyn yng Nghymru.

Wales Office Minister Dame Nia Griffith at Teledyne Qioptiq.
- Mae Cymru’n chwarae rhan allweddol yn y diwydiant amddiffyn, gan ddarparu arloesedd a thechnoleg hanfodol
- Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwario £290 y pen am bob unigolyn yng Nghymru ac yn cefnogi dros 7,000 o swyddi’n uniongyrchol
- Mae’r cynnydd mewn gwariant ar amddiffyn a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog y DU yn ddiweddar yn rhoi hwb i ddiogelwch cenedlaethol ac yn sbarduno twf economaidd
Yn ystod ymweliad Gweinidog Llywodraeth y DU â Gogledd Cymru, tynnwyd sylw at y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan gwmnïau’r sector amddiffyn yng Nghymru.
Bu Gweinidog Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith, yn ymweld â Teledyne Qioptiq Ltd yn Llanelwy heddiw (dydd Iau 3 Ebrill).
Mae’r cwmni’n arbenigo mewn technoleg electro-optig uwch sy’n rhan annatod o amrywiaeth eang o raglenni amddiffyn, gan gynnwys yr awyren Eurofighter Typhoon a thanciau Challenger 2. Mae’r cwmni hefyd yn chwarae rôl gefnogol allweddol i droedfilwyr drwy’r contract STAS.
Dywedodd y Fonesig Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Mae’r diwydiant amddiffyn yn gonglfaen i’n diogelwch gwladol a’n ffyniant economaidd.
Mae gan bob un o bum prif gyflenwr y Weinyddiaeth Amddiffyn ôl troed yng Nghymru ac felly rydym mewn sefyllfa dda i elwa ar gynnydd mewn gwariant ar amddiffyn.
Yn ogystal â sbarduno arloesedd, mae cwmnïau fel Qioptiq yn darparu swyddi o ansawdd uchel ac yn cyfrannu’n sylweddol at ein heconomi leol a chenedlaethol.
Prif genhadaeth Llywodraeth y DU yw rhoi hwb i dwf economaidd. Drwy fuddsoddi yn y sector amddiffyn, rydym yn gwarchod ein diogelwch gwladol, yn creu swyddi newydd ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Dywedodd Peter White, Rheolwr-Gyfarwyddwr Qioptiq:
Mae’n fraint cael parhau i chwarae ein rhan i gadw ein milwyr a’n cymdeithas yn ddiogel.
Mae Cymru’n chwarae rhan allweddol yn niwydiant amddiffyn y DU gyda dros 160 o gwmnïau’n cyflogi dros 20,000 o bobl, ac mae mewn sefyllfa dda i elwa ar gynnydd mewn gwariant ar amddiffyn.
Fis diwethaf, ymrwymodd y Prif Weinidog i gynyddu gwariant amddiffyn y DU i 2.5% o gynnyrch domestig gros (GDP) o fis Ebrill 2027 ymlaen.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, fe wnaeth Gweinyddiaeth Amddiffyn Llywodraeth y DU wario £914 miliwn gyda diwydiant a masnach yng Nghymru yn 2023-24 (cynnydd o £86 miliwn ers 2022-23), a chefnogi 7,700 o swyddi’n uniongyrchol yn y wlad.
Yng Nghyllideb yr Hydref, ymrwymodd y Canghellor £975 miliwn i’r sector awyrofod dros y pum mlynedd nesaf, gyda £49 miliwn eisoes wedi’i gadarnhau ar gyfer prosiectau yng Nghymru.
Yn ystod ei chyfnod yng Ngogledd Cymru, bu’r Fonesig Nia hefyd yn ymweld â Wagtail UK ym Mostyn.
Mae Wagtail yn gwmni arobryn sy’n darparu cŵn synhwyro a sesiynau ar drin cŵn i hyfforddwyr cŵn, ac mae’n cyflenwi cyrff fel Llu’r Ffiniau’r DU, Cyllid a Thollau EF, yr Heddlu, Safonau Masnach a’r Lluoedd Arfog.