Datganiad i'r wasg

Ymweliad y Gweinidog Nia Griffith â Copenhagen yn rhoi hwb i Ddiwydiant Ynni Glân Cymru

Y Gweinidog yn tynnu sylw at adnoddau naturiol Cymru, ei sector ynni o’r radd flaenaf, a’i gweithlu medrus ar ymweliad â Denmarc.

Wales Office Minister Nia Griffith and His Majesty's Ambassador to Denmark, Joëlle Jenny

  • Cymru ar flaen y gad o ran cenhadaeth ynni glân y DU.
  • Y Gweinidog yn tynnu sylw at adnoddau naturiol Cymru, ei sector ynni o’r radd flaenaf, a’i gweithlu medrus ar ymweliad â Denmarc.
  • Bydd ehangu’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn helpu i sbarduno twf economaidd a gwneud y DU yn archbŵer ynni glân.

Yn ystod ei thaith fasnach i Copenhagen yr wythnos hon, fe wnaeth y Fonesig Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru, dynnu sylw darpar fuddsoddwyr a chwmnïau o Ddenmarc at rôl allweddol Cymru yng nghenhadaeth ynni glân uchelgeisiol y Deyrnas Unedig.

Cynhaliwyd ymweliad tri diwrnod y Fonesig Nia â phrifddinas Denmarc wythnos yn unig ar ôl cyhoeddi cytundeb buddsoddi mawr gwerth £600m mewn prosiectau ynni gwyrdd yng Nghymru – rhwng Partneriaid Seilwaith Copenhagen, Bute Energy a Green GEN Cymru. Y bwriad yw y bydd datblygiad ffermydd gwynt ar y tir newydd Bute Energy ar hyd a lled Cymru yn creu hyd at 2,000 o swyddi.

Roedd yr ymweliad yn tynnu sylw at y cydweithio rhwng Cymru a Denmarc ar brosiectau ynni adnewyddadwy – gan gynnwys cwmnïau o Ddenmarc sydd eisoes yn buddsoddi mewn ynni gwynt ar y môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru, ac yn y gwaith o adeiladu tyrbinau a ddefnyddir mewn prosiectau ar y tir ac ar y môr ar hyd a lled Cymru.

Ar hyn o bryd, mae 50 y cant o’r trydan yn Nenmarc yn cael ei gyflenwi gan ynni gwynt a solar, ac mae gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân yn un o brif genadaethau Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y diwydiant i ddatblygu gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd. Byddai hyn yn golygu adeiladu tyrbinau gwynt ar lwyfannau arnofiol i fanteisio ar gyfeiriad y gwynt, a byddai’n chwarae rhan hollbwysig yng nghenhadaeth Llywodraeth y DU i wneud Prydain yn archbŵer ynni glân.

Gallai’r dechnoleg hon gefnogi hyd at 5,300 o swyddi newydd a chynhyrchu hyd at £1.4bn ar gyfer economi’r DU, gan helpu i sbarduno twf economaidd a chodi safonau byw fel y nodir gan Lywodraeth y DU yn ei Chynllun ar gyfer Newid. 

 Yn ystod ei hymweliad, cynhaliodd y Gweinidog Griffith gyfres o gyfarfodydd gyda’r nod o hybu cydweithrediad ym maes ynni glân ac archwilio cyfleoedd buddsoddi. Roedd yr amserlen yn cynnwys ymweliadau â chwmnïau a sefydliadau blaenllaw yn Nenmarc, trafodaethau ynghylch prosiectau ynni adnewyddadwy, a chymryd rhan mewn digwyddiadau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda ffocws ar hyrwyddo Cymru fel canolbwynt ar gyfer arloesi ym maes ynni glân.

Dywedodd Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae cyfleoedd gwych i bartneriaid a buddsoddwyr yn Nenmarc weithio gyda ni i roi hwb i’r sector ynni glân yng Nghymru.

Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth ynni glân a fydd yn rhoi sicrwydd ynni, yn lleihau biliau ynni, yn creu swyddi da, ac yn helpu i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag costau’r newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Tim Morris, Pennaeth Cyfathrebu Associated British Ports:

Mae porthladdoedd yng Nghymru a Denmarc yn rhannu’r uchelgais i chwarae rhan sylfaenol wrth alluogi’r trawsnewidiad egni.

Roedd yn wych eistedd i lawr gyda gweithredwyr porthladdoedd eraill a rhanddeiliaid allweddol o’r sector ynni ehangach o’r ddwy wlad i rannu gwybodaeth a mewnwelediadau. Mae gan ABP gysylltiadau cryf â sefydliadau Denmarc fel Orsted a Phorthladd Esbjerg ac edrychwn ymlaen at ddyfnhau’r perthnasoedd hyn.

Roedd yr ymweliad yn dangos potensial Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy – yn enwedig mewn gwynt arnofiol ar y môr – ac yn gosod y llwyfan ar gyfer cyfleoedd i gydweithio a buddsoddi yn y dyfodol, a fydd yn sbarduno twf economaidd a chynaliadwyedd amgylcheddol.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mawrth 2025