Diwydiant ynni glân Cymru i ddod yn 'rym pwerus' ar gyfer twf economaidd meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Sir Benfro wedi’i adnabod fel ardal twf allweddol ar gyfer ynni glân yng Nghymru.
- Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gefnogwr brwd o ynni glân yng Ngorllewin Cymru ac mae’n gweld sut bydd y sector yn darparu swyddi yn y dyfodol.
- Cenhadaeth twf economaidd Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru trwy fuddsoddi £26 miliwn yn y Porthladd Rhydd Celtaidd.
- Sir Benfro wedi’i adnabod fel ardal twf allweddol ar gyfer ynni glân.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, wedi dweud wrth arweinwyr y diwydiant ynni glân y byddant yn chwarae rôl hanfodol i helpu i dyfu’r economi yng Nghymru.
Trafodaeth heddiw (30 Ionawr) gydag unigolion allweddol o’r sector yng Ngorsaf Ynni Penfro RWE oedd y drafodaeth ddiweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd o amgylch y bwrdd sydd wedi’u cadeirio gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fel rhan o’i hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru.
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid y diwydiant i ddatblygu ffermydd gwynt arnofiol ar y môr Celtaidd. Byddai hyn yn golygu adeiladu tyrbinau gwynt ar blatfformau arnofiol sy’n eu galluogi i gymryd mantais o gyfeiriad y gwynt.
Bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru glywed am y cynlluniau a sut gallai ffermydd gwynt arnofiol gefnogi hyd at 5,300 o swyddi newydd a chynhyrchu hyd at £1.4 biliwn ar gyfer economi y DU.
Mae Llywodraeth y DU wedi adnabod Sir Benfro fel ardal peilot ar gyfer datblygu gweithlu ynni glân medrus, a allai gynnwys cyllid ar gyfer mesurau wedi’u targedu, fel canolfannau hyfforddi a chyrsiau i uwchsgilio gweithwyr.
Bydd porthladdoedd yn hanfodol ar gyfer cefnogi ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi partneriaeth rhwng Ystad y Goron a Great British Energy, sydd â’r potensial i ddenu hyd at gwerth £60 biliwn o fuddsoddiadau preifat i borthladdoedd a llwybrau cyflenwi ynni glân.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi £26 miliwn yn y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot. Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn annog twf a buddsoddiad trwy greu cymhelliannau trethi a thollau ar gyfer busnesau.
Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae fy ffocws yn glir - cyflawni Cynllun ar gyfer Newid Llywodraeth y DU a fydd yn sbarduno’r economi ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl yng Nghymru.
Mae gennym sector ynni glân o safon fyd-eang yn Nghymru, gyda digonedd o adnoddau naturiol a’r potensial i fod yn rym pwerus ar gyfer twf economaidd.
Rwyf eisiau gweld diwydiant sy’n ffynnu sy’n darparu swyddi gyda chyflogau da ac sy’n cyfrannu i’n cenhadaeth i wneud y DU yn un o gewri’r sector ynni glân erbyn 2030.
Cynhaliwyd trafodaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru gydag arweinwyr y diwydiant ddydd Iau 30 Ionawr yng Ngorsaf Ynni Penfro RWE. Dyma’r un diweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd o amgylch y bwrdd sydd wedi’i cadeirio ganddi fel rhan o’i hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru. Mae Ms Stevens eisoes wedi cwrdd ag arweinwyr o’r diwydiannau digidol a thechnoleg, y sector gweithgynhyrchu uwch a’r diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Ar ddiwedd 2024, bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru lansio Grŵp Ymgynghorol Twf Economaidd Cymru, i helpu i siapio ymdrechion Llywodraeth y DU i hybu twf a rhoi mwy o arian ym mhocedi’r pobl yng Nghymru. Tasg y grwp yw cyfarwyddo Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU i hybu diwydiannau allweddol yng Nghymru a siapio blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr Adolygiad o Wariant nesaf, y disgwylir i’r ddau gael eu cyhoeddi yn ystod Gwanwyn 2025.
Ynghyd â siarad ag arweinwyr y diwydiant, bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymweld â Dragon LNG yn Aberdaugleddau lle dysgodd mwy am eu cynlluniau arloesol i ddatgarboneiddio diwydiannau trwm Cymru.
Meddai Simon Ames, Rheolwr Gyfarwyddwr Dragon LNG:
Roedd yn anrhydedd fawr i groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Dragon ac i arddangos y talent lleol yn y cyfleuster gwych hwn.
Rydym yn darparu 10% o gas y DU, gan sicrhau cadernid ac amrywiaeth o ran y cyflenwad nwy sy’n dod o bob cwr o’r byd.
Trwy’r broses o bontio i ynni gwyrdd, rydym yn gobeithio datblygu ein prosiect ar y cyd gyda RWE ar ddal CO2, ei trosi’n hylif a’i forgludo, fel bod modd darparu pŵer sydd a lefel isel o garbon i’r UK pan fydd galw amdano.”
Bu i Ms Stevens ymweld â Ledwood Mechanical Engineering yn Nociau Penfro hefyd. Mae’r cwmni yn arbenigo mewn dylunio, cynhyrchu a gosod peirianwaith a strwythurau cymhleth ar gyfer y diwydiannau ynni. Wrth ymweld, siaradodd â prentisiaid, sy’n ennill sgiliau a fydd yn werthfawr yn y diwydiant ynni glân, am eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Ledwood Mechanical Engineering, Nick Revell:
Mae cymaint o drafodaeth wedi bod am y potensial i economi Cymru a’r llwybr cyflenwi lleol fanteisio i’r eithaf ar y potensial o ynni gwynt ar y môr a phŵer y llanw, ond y realiti yw bod rhaid i fuddsoddwyr, datblygwyr a phartneriaid llwybrau cyflenwi fod yn hyderus y byddai’r Llywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd yn cefnogi’r diwydiant newydd hwn.
Mae’n hen bryd i roi’r gorau i siarad a chychwyn gwneud rhywbeth fel y gallwn dileu’r rhwystrau a symud yn ein blaenau. Rydym yn croesawu’r ymgysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda hi a Llywodraeth Cymru i helpu i wireddu hyn.
Dywedodd Albie Elliott, prentis yn Ledwood Mechanical Engineering:
Bydd y diwydiant ynni glân yn darparu llwybr gyrfa hirdymor gwych i brentisiaid fel fi, sydd eisiau byw a gweithio’n lleol.
Mae’n gyfnod cyffrous iawn ac rwy’n falch i fod yn gweithio i gwmni fel Ledwood sydd wedi’i leoli yma ym Mhenfro ac sydd ar ben blaen y sector prosesu ynni byd-eang.
DIWEDD