#WalesWeek / #WythnosCymru yn fyw
Ymunwch â'r ymgyrch a rhoi'r neges ar led am Gymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ei hymgyrch #WalesWeek / #WythnosCymru.
Mae #WalesWeek / #WythnosCymru yn ymgyrch draws-lywodraethol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a grëwyd i hyrwyddo Cymru i’r byd. Gyda Dydd Gŵyl Dewi ar y gorwel, bydd #WalesWeek / #WythnosCymru yn defnyddio’r saith diwrnod sy’n arwain at y diwrnod cenedlaethol, a’r diwrnod ei hun, fel cyfle i hyrwyddo a dathlu Cymru.
Rydyn ni am i chi ein helpu i ddangos Cymru ar ei gorau gan ddweud beth sy’n ei gwneud yn wlad mor wych i ymweld â hi, gweithio ynddi a chynnal busnes ynddi.
Mae gennym ni draethau a threfi sydd wedi ennill gwobrau, busnesau rhyngwladol yn gweithredu yma a diwylliant ac iaith i ymfalchïo ynddynt.
Gan ddefnyddio #WalesWeek / #WythnosCymru byddem wrth ein bodd pe baech yn rhannu lluniau, ffeithiau a straeon am Gymru yn y cyfryngau cymdeithasol i ddangos i’r byd beth sy’n gwneud Cymru yn arbennig.
I gael y diweddaraf am yr ymgyrch ac i glywed beth mae pobl eraill yn ei ddweud am #WalesWeek / #WythnosCymru dilynwch @UKGovWales a @LlywDUCymru ar Facebook , Twitter / Trydar and LinkedIn