Rhybudd o honiadau ffug
Byddwch yn ymwybodol o honiadau ffug am derfynau amser i apelio yn erbyn rhestrau 2023 ar gyfer ardrethi busnes.
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/6670272ea471d1f120195ac1/s300_Scam_Warning_GOVUK.jpg)
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn ymwybodol o honiadau ffug mai’r dyddiad cau ar gyfer apeliadau i restrau ardrethu 2023 yw 30 Mehefin.
Nid yw hyn yn wir. Dylech fod yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n gwneud yr honiad hwn.
Yn gyffredinol, gallwch herio prisiad eich eiddo ar restr 2023 ar unrhyw adeg tan fis Mawrth 2026.
Dylech fod yn ofalus o unrhyw asiant sydd:
- yn ceisio rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad neu lofnodi cytundeb
- gwneud honiadau am ‘gredydau heb eu hawlio’ neu debyg
- yn dweud eu bod yn gweithredu ar ran y VOA
- yn mynnu symiau mawr o arian ymlaen llaw
Cofiwch – nid oes rhaid i chi ddefnyddio asiant i reoli eich ardrethi busnes.
Os ydych am i asiant reoli eich ardrethi busnes, defnyddiwch ein rhestr wirio i ddewis asiant. Peidiwch â gadael i asiant eich dewis chi.
Mae gennym hefyd ganllawiau newydd ar gadw’n ddiogel rhag sgamwyr.
Mae safonau asiant y VOA yn nodi disgwyliadau clir ar gyfer asiantwyr o ran:
- eu hymddygiad
- eu hymarfer proffesiynol
- y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i’w cwsmeriaid
Mae mwyafrif helaeth yr asiantwyr ag enw da ac yn darparu gwasanaeth da. Ond mae lleiafrif bach yn gweithredu’n amhriodol.
Rydym yn casglu tystiolaeth o ymddygiad ac arferion gwael asiantwyr yn ystod ein gwaith. Mae’r dystiolaeth hon yn ein galluogi i fynd i’r afael yn rhagweithiol â materion neu bryderon.
Os ydych yn pryderu am gamliwio posibl gan asiantwyr, anfonwch unrhyw dystiolaeth i ccaservice@voa.gov.uk.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 June 2024 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
First published.