Cymdeithas Dyfrlliw Cymru yn cael sêl frenhinol
Ysgrifennydd Cymru a Phrif Weinidog Cymru yn mynychu digwyddiad ‘Cymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru’ yng Nghaerdydd
Heddiw (21 Hydref) cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David Jones a Phrif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, yn swyddogol bod Cymdeithas Dyfrlliw Cymru wedi cael y fraint o arddel y gair Brenhinol yn ei henw.
Rhoddodd Ei Mawrhydi y Frenhines sêl ei bendith i Gymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru ddefnyddio’r teitl. Bu Tywysog Cymru’n Noddwr y Gymdeithas er 2007, ac mae wedi arddangos rhai o’i luniau ei hun gyda’r Gymdeithas yn weddol ddiweddar.
Yn ymuno â’r Gweinidogion yr oedd Cadeirydd y Gymdeithas, Henry Stephens a’i aelodau mewn digwyddiad i nodi’r achlysur ar gampws Gerddi Howard yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Ffurfiwyd Cymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru ym 1959 gan chwe artist a oedd yn byw yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, a’i nod yw rhoi cyfleoedd rheolaidd i’w haelodau arddangos paentiadau o ansawdd uchel a pherthnasedd cyfoes mewn orielau arobryn.
Bydd y Gymdeithas yn cynnal dwy arddangosfa bob blwyddyn mewn lleoliadau ledled Cymru, yn dangos tirlun a bywyd Cymru yn ei holl ffurfiau. Cynhaliwyd ei harddangosfa gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ym 1959. Heddiw, mae gan y Gymdeithas oddeutu 40 o aelodau, bob un yn artist proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Dywed Ysgrifennydd Gwladol, David Jones:
Mae ychwanegu’r gair Brenhinol i enw’r Gymdeithas yn anrhydeddu’r traddodiad hir o baentio dyfrlliw yng Nghymru, a’r rôl bwysig y mae ei haelodau’n ei chwarae o ran diogelu’r traddodiad hwn. Yr wyf fy modd yn nodi’r achlysur pwysig hwn ar ran Llywodraeth y DU, a charwn ddymuno pob llwyddiant i Gymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru i’r dyfodol.
Dywed Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
Mae’r teitl Brenhinol yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr y Gymdeithas i wead diwylliannol Cymru ers dros hanner canrif. Mae’r fraint yn gwbl haeddiannol ac ar ran pobl Cymru, hoffwn longyfarch y Gymdeithas ar y garreg filltir arbennig hon.
Dywed Henry Stephens, Cadeirydd Cymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru:
Mae’n fraint anhygoel i aelodau hen a newydd bod y Gymdeithas hon yn cael ei galw’n Gymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru o hyn ymlaen. Mae’n deyrnged i’w creadigrwydd yng Nghymru ers rhagor na 50 o flynyddoedd.