Rydym wedi newid ein llythyron rhybudd o ddileu
O heddiw rydym wedi newid sut yr ydym yn anfon llythyron rhybudd o ddileu a’u cynnwys.
Rydym wedi rhoi’r gorau i anfon llythyron rhybudd o ddileu trwy’r post at gwsmeriaid proffesiynol pan nad ydynt wedi ymateb yn llawn i ymholiad o fewn 15 diwrnod.
Rydym bellach yn anfon y llythyron hyn trwy ebost yn unig ac ni fydd y llythyr yn nodi pwyntiau’r ymholiad sy’n weddill.
Nid yw’r newid hwn yn effeithio ar geisiadau gan gwsmeriaid sy’n ddinasyddion.
Yr hyn y mae angen i gwsmeriaid proffesiynol ei wneud
Er mwyn parhau i dderbyn y llythyron atgoffa hyn, rhaid i chi:
- gynnwys eich cyfeiriad ebost yn y panel priodol ar ein ffurflenni cais
- sicrhau bod eich ffurflenni cais templed sydd wedi’u llenwi’n rhannol yn cynnwys cyfeiriad ebost yn y panel priodol
Caiff holl ohebiaeth y Gofrestrfa Tir ei anfon trwy ebost lle y bo’n bosibl os bydd cyfeiriad ebost wedi’i gynnwys ar y ffurflen gais.
Mae dileu papur o’r broses hon yn rhan o’n gwaith o ddigideiddio ein systemau a’n prosesau. Mae hyn yn creu trywydd archwilio ar-lein ar gyfer ein cwsmeriaid ac ar ein cyfer ni ac mae’n galluogi pob un ohonom i weithio’n fwy effeithlon. Yn ogystal, mae’n ein helpu i baratoi i ddod yn sefydliad mwy digidol ac i gyflwyno’r gwasanaethau ar-lein newydd rydym yn eu datblygu, megis Digital Register a Digital Mortgage.
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y newid hwn, cysylltwch â’ch tîm cwsmer neu defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol ar-lein.