Croeso i gartref newydd Swyddfa Cymru ar y we
GOV.UK yw’r lle newydd i gael gwybodaeth gorfforaethol a gwybodaeth am bolisïau gan Swyddfa Cymru.
Mae Swyddfa Cymru wedi symud ei chynnwys i’r wefan newydd, GOV.UK. Dylai pob adran weinidogol arall symud yn ystod y misoedd nesaf. Mae GOV.UK yn ei gwneud yn haws, yn gliriach ac yn gyflymach i gael gwybod:
- sut mae’r llywodraeth yn gweithio
- beth mae’r llywodraeth yn ei wneud
- sut gallwch chi ddod yn gysylltiedig
Pynciau
Nawr gallwch weld gwybodaeth o sawl adran yn y llywodraeth yn ôl pwnc. Er enghraifft, gallwch weld sut mae polisïau Swyddfa Cymru ac adrannau eraill yn cyfrannu at sicrhau bod y setliad datganoli yng Nghymru yn gweithio’n ddidrafferth.
Polisïau clir
Mae’r adrannau a’r asiantaethau sydd wedi symud i GOV.UK yn cyhoeddi gwybodaeth am eu polisïau yn ôl y canlyniad y mae’r llywodraeth yn ceisio ei gyflawni.
Er enghraifft, mae Swyddfa Cymru yn cyfrannu at bolisïau ar:
- Helpu’r economi yng Nghymru i dyfu
- Cynnal a chryfhau’r setliad datganoli yng Nghymru
Gallwch weld yr holl hysbysiadau, ymgynghoriadau a chyhoeddiadau ar gyfer pob polisi mewn rhestr a elwir yn ‘Crynodeb Diweddaraf’. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i chi weld beth sy’n digwydd gyda’r polisïau sydd o ddiddordeb i chi, er enghraifft, ‘Asesiad Ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006’.
Rhagor o wybodaeth am Inside Government a GOV.UK
Mae Inside Government yn dal i gael ei ddatblygu, a dim ond rhai sefydliadau sy’n weithredol. Bydd gwaith yn parhau wrth i adrannau a sefydliadau eraill, rhai cannoedd i gyd, drosglwyddo eu gwybodaeth i GOV.UK. Bydd hyn yn digwydd bob yn dipyn a bydd y gwaith wedi’i gwblhau yn 2014.