Ymweliad Gweinidogion Llywodraeth Cymru a'r DU â GE Aerospace i dynnu sylw at y gefnogaeth i'r sector awyrofod yng Nghymru
Wnaeth Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffith AS ac Ysgrifennydd Cabinet dros Economi Llywodraeth Cymru Rebecca Evans AS cwrdd â pheirianwyr, prentisiaid ac uwch-reolwyr i drafod uchelgeisiau Llywodraethau Cymru a'r DU i lywio arloesedd a chynaliadwyedd yn y sector awyrofod.

Wales Office Minister Nia Griffith MP with GE Aerospace apprentices.
Heddiw, ymwelodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffith AS, â safle cynnal a chadw, atgyweirio ac ailwampio (MRO) o safon fyd-eang GE Aerospace yn Nantgarw, er mwyn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi swyddi sgiliau uchel, arloesedd blaengar, a thwf economaidd yng Nghymru fel rhan o’i Strategaeth Ddiwydiannol sydd i ddod.
Gyda Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet dros Economi Llywodraeth Cymru, cyfarfu Gweinidogion â pheirianwyr, prentisiaid ac uwch-reolwyr i drafod sut mae buddsoddiad GE Aerospace yn ei alluoedd MRO yn cyd-fynd ag uchelgeisiau ehangach Llywodraethau Cymru a’r DU i lywio arloesedd a chynaliadwyedd yn y sector awyrofod.
Gyda mwy na 1,300 o weithwyr, mae safle Nantgarw GE Aerospace yn un o’r safleoedd MRO injans mwyaf a mwyaf datblygedig yn y byd, gan wasanaethu injans ar gyfer cwmnïau hedfan byd-eang, gan gynnwys y GE90 a’r CFM56, ac yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi hedfan cynaliadwy. Gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru, bydd Nantgarw hefyd yn gartref i injan GE9X pan fydd yn cyrraedd y cam cyflwyno.
Fel rhan o’i ymrwymiad hirdymor i Gymru, cyhoeddodd GE Aerospace fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ei safle MRO yn Nantgarw yn ddiweddar, gan gryfhau ei alluoedd ymhellach a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang mewn cynnal a chadw ac atgyweirio injans. Mae’r buddsoddiad yn rhan o wariant MRO byd-eang, aml-flwyddyn GE Aerospace a gyhoeddwyd yr hydref diwethaf.
Mae’r ymweliad yn dilyn cyhoeddiad cyllid diweddar y Canghellor Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI), sy’n darparu cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth y DU ar gyfer ymchwil i dechnolegau hedfan y genhedlaeth nesaf, gan atgyfnerthu arweinyddiaeth y DU yn y diwydiant.
Dywedodd y Fonesig Nia Griffith AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru:
Mae sector awyrofod y DU yn gonglfaen i’n heconomi, ac mae Cymru’n chwarae rhan hanfodol yn ei llwyddiant.
Mae ein Strategaeth Ddiwydiannol yn rhan hanfodol o gyflawni ein prif genhadaeth o dyfu’r economi, ac rydym wedi ymrwymo i weld bod cwmnïau fel GE Aerospace yn cael y gefnogaeth a’r buddsoddiad sydd eu hangen arnynt i aros ar flaen y gad o ran arloesi mewn sector hynod gystadleuol, er mwyn ein helpu i gyflawni’r twf economaidd hwnnw.
Mae’r cyhoeddiad cyllido ATI diweddar yn dangos ymhellach ein hymrwymiad i ddatblygu technolegau hedfan gwyrddach, mwy effeithlon tra’n sicrhau swyddi o ansawdd uchel ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Steve Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr safle GE Aerospace yng Nghymru:
Mae tîm Cymru yn falch o ddarparu gwasanaethau MRO o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid cwmnïau hedfan byd-eang. Er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch, ansawdd, darpariaeth a chost yn y drefn honno, rydym yr un mor gyffrous am y dyfodol. Wrth edrych ymlaen, bydd ein safle yn dod yn gartref newydd ar gyfer yr injan GE9X, yr injan awyrennau masnachol mwyaf a mwyaf pwerus a adeiladwyd erioed.
Bydd cefnogaeth y llywodraeth, gan gynnwys mentrau fel y Bartneriaeth Twf Awyrofod ynghyd â chyllid hirdymor ar gyfer y Sefydliad Technoleg Awyrofod, yn parhau i roi’r hyder i gwmnïau fel GE Aerospace dyfu, buddsoddi a gwella technolegau a galluoedd newydd yn y DU.
Dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Mae Cymru yn le rhagorol ar gyfer gweithgareddau gweithgynhyrchu a chynnal a chadw sy’n gysylltiedig ag awyrofod, ac mae’r safle hwn sy’n arwain y byd gan GE Aerospace yn bluen arall yng nghap ein sector awyrofod ffyniannus.
Mae ein cyfraniad ariannol o £5 miliwn wedi helpu i ddarparu’r safle a’r gweithlu presennol i uwchsgilio, wrth ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr awyrennau trwy hyfforddiant a phrentisiaethau. Mae hyn yn golygu cyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel i bobl sy’n byw yn y cymunedau cyfagos.
Tanlinellodd yr ymweliad y bartneriaeth gref rhwng y diwydiant a’r llywodraeth wrth ysgogi arloesedd a buddsoddiad, gan sicrhau bod cwmnïau fel GE Aerospace a’r sector awyrofod ehangach yn parhau i fod ar flaen y gad yn strategaethau diwydiannol Llywodraeth Cymru a’r DU.