Pêl-droedwraig ryngwladol Cymru a ddaeth yn arweinydd menter gymdeithasol yn ennill Gwobr y Gymdeithas Fawr
Gweinidog yn Swyddfa Cymru i gyflwyno gwobr i Kelly Davies
Mae pêl-droedwraig Vi-Ability a ddaeth yn arweinydd busnes a Phrif Swyddog Gweithredol wedi cael ei chydnabod heddiw gan y Prif Weinidog gyda Gwobr y Gymdeithas Fawr am ei gwaith yn ymdrin â diweithdra ieuenctid a chynaliadwyedd masnachol mewn clybiau pêl-droed.
Sefydlodd Kelly Davies, sy’n 29 oed, fenter gymdeithasol Vi-Ability yng Nghonwy yn 2010 gyda help a chefnogaeth Canolfan Cydweithredol Cymru. Cafodd Vi-Ability ei gymeradwyo am ei waith yn trawsnewid clybiau pêl-droed lleol i ganolfannau o gyfleoedd ac arweinyddiaeth ar gyfer eu cymuned drwy addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Ar ran y Prif Weinidog, bydd Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson heddiw yn cyflwyno gwobr y Gymdeithas Fawr i Vi-Ability yn ystod ymweliad â Chlwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy. Bydd yn cyfarfod ag aelodau staff ac unigolion yma sy’n dilyn rhaglenni cyflogaeth wedi’u cefnogi gan Vi-Ability.
Yn ddiweddarach, bydd y Gweinidog yn mynd gyda Kelly Davies ar ymweliad i Ysgol Bro Cernyw yn Llangernyw lle bydd yn gweld ‘Prosiect Meddylfryd Ennill’, cysyniad sy’n cael ei gyflawni mewn ysgolion cynradd er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o gyfranogi mewn ymarfer corff er mwyn gwella lles.
Gan gredu bod clybiau sy’n ffynnu yn mabwysiadu synnwyr o berthyn ac ysbryd cymunedol, a bod chwaraeon yn chwarae rhan hanfodol mewn ymdrin â materion cymdeithasol, cyfunodd Kelly ei hangerdd a’i sgiliau ar ôl cwblhau ei MBA a chychwynnodd i ddatblygu ateb a allai wella cynaliadwyedd mewn clybiau pêl-droed wrth ddarparu cyfle addysg ar gyfer pobl ifanc yn ogystal.
Mae Vi-Ability yn lleoli pobl ifanc mewn clybiau pêl-droed, yn adeiladu gallu ac yn gweithredu strategaethau, yn ennill hyfforddiant a phrofiad tra bod y clwb, fel busnes, yn cael hwb hanfodol. Y clwb pêl-droed cyntaf i gynnig y rhaglen oedd y clwb yn nhref enedigol Kelly, sef Bae Colwyn, lle cwblhaodd ugain o bobl ifanc di-waith rhwng 16 a 20 oed - yn bennaf yn gyn-droseddwyr neu rai a oedd wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar - y rhaglen mewn tridiau’r wythnos dros 20 wythnos. Cwblhawyd y cwrs gan bob un o’r 20 ac aeth 18 ohonyn nhw i swyddi amser llawn.
Dywedodd David Cameron, y Prif Weinidog:
Roedd gan Kelly Davies, Prif Swyddog Gweithredol Vi-Ability, y weledigaeth i weld y gallai clybiau pêl-droed dderbyn hwb busnes drwy ymestyn allan i’w cymunedau a chefnogi pobl ifanc i ennill y sgiliau y maen nhw eu hangen ar gyfer y dyfodol.
Mae Gwobr y Gymdeithas Fawr yn cydnabod ymdrechion Kelly a phawb yn ei thîm a’r effaith y mae eu gwaith wedi’i gael drwy Gymru.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Mae’n bleser gennyf gael yr anrhydedd o gyflwyno Vi-Ability gyda’r wobr bwysig hon. Fel rhan o’m swyddogaeth, rydw i’n cael cyfleoedd yn aml i gyfarfod grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau lleol i drafod syniadau a dulliau newydd a allai annog a chefnogi twf mewn partneriaethau a mentrau cymdeithasol yn eu cymdogaethau.
Mae Vi-Ability yn stori o wir lwyddiant ac yn un y gall sefydliadau eraill sy’n cychwyn edrych arno am ysbrydoliaeth.
Mae’n dangos os ydym yn annog pobl i gamu ymlaen a chwarae eu rhan, nid ydym yn gwneud ein cymdeithas yn decach a mwy cydlynol yn unig; rydym yn creu’r amodau ar gyfer diwylliant mwy ysbrydoledig, entrepreneuraidd.
Ymwelodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru â Vi-Ability ym mis Gorffennaf 2012. Dywedodd wrth longyfarch Ms Davies ar y wobr:
Rydw i’n adnabod Kelly Davies ers sawl blwyddyn ac rydw i wedi gweld drosof fy hun y gwaith ardderchog y mae hi’n ei wneud yn ei chymdeithas. Mae Vi-Ability yn awr yn cael effaith wirioneddol drwy Gymru ac yn helpu unigolion i ddatblygu sgiliau allweddol ar gyfer bywyd a chyflogaeth. Mae’r wobr yn un haeddiannol iawn a dymunaf bob llwyddiant i’r fenter yn y dyfodol.
Dywedodd Kelly Davies:
Menter gymdeithasol yw Vi-Ability yn ei hanfod gyda chenhadaeth i geisio a sicrhau bod pob cymuned yng Nghymru neu Loegr gyda chlwb pêl-droed neu glwb chwaraeon sy’n sefydlog yn ariannol fel canolbwynt iddi. Yn ogystal, mae’n ceisio sicrhau bod clybiau yn darparu cyfleoedd ar gyfer pob aelod o’r gymuned i ddatblygu sgiliau ac ehangu’u gorwelion.
Nid rhaglenni addysg yr ydym yn eu cynnig yn unig yn awr - rydym yn cefnogi cyflogaeth, cyflawni cymwysterau hyfforddiant a lleoliadau gwaith. Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n anweithredol yn economaidd fel unig rieni, cyn-droseddwyr a phobl ddigartref - y rhain yw ein prif fuddiolwyr. Mae cael cydnabyddiaeth gyda’r Wobr hon yn golygu llawer iawn i bawb ohonom yma.
Fel rhan o’i hymweliad i ogledd Cymru, bu’r Farwnes Randerson yn ymweld ag enillwyr Gwobr y Gymdeithas Fawr ym Menter Gydweithredol Crest yn Llandudno.
Mae Menter Gydweithredol Crest yn fenter ailgylchu gymdeithasol sy’n gweithio wrth galon y gymdeithas er mwyn darparu swyddi, sgiliau a phrydau bwyd i unigolion sydd mewn angen. Mae’n creu cyflogaeth i’r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor, pobl gydag anableddau, a chyn-droseddwyr yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli sy’n datblygu sgiliau hanfodol.