Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi Strategaeth Ddiwydiannol Niwclear
Ac yntau newydd ddychwelyd o’i ymweliadau â safleoedd niwclear yn Japan, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi dangos ei gefnogaeth heddiw (26 Mawrth) ar gyfer lansio strategaeth sydd wedi’i dylunio i alluogi’r DU i achub ar y cyfleoedd ar gyfer twf economaidd yn y diwydiant niwclear.
Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol Niwclear yn rhoi’r sylfaen ar gyfer partneriaeth tymor hir rhwng llywodraeth a diwydiant er mwyn helpu i roi’r DU ar y trywydd iawn i fod yn un o’r prif wledydd niwclear. Ei nod yw rhoi mwy o sicrwydd tymor hir i fusnesau, buddsoddwyr a’r cyhoedd a chynyddu’r cyfleoedd ar gyfer creu twf a swyddi newydd. Mae’n edrych ar y farchnad niwclear yn ei chyfanrwydd – gorsafoedd newydd, rheoli gwastraff a datgomisiynu, gwasanaethau cylchoedd tanwydd, gweithrediadau a chynnal a chadw.
Yn ystod ei ymweliad ag Asia (13-23 Mawrth), cafodd Mr Jones ei groesawu i Hitachi City yn Tokyo lle clywodd sut mae cynlluniau i adeiladu gorsafoedd niwclear newydd yn y DU – gan gynnwys Wylfa B ar Ynys Môn – yn mynd rhagddynt.
Bu hefyd yn ymweld â gorsaf bŵer niwclear Ohma, a manteisiodd ar y cyfle i drafod y cyfoeth o gyfleoedd cadwyn cyflenwi ar gyfer cwmnïau’r DU yn ystod cyfnod adeiladu’r adweithyddion niwclear arfaethedig ar Ynys Môn ac yn Oldbury yn Swydd Gaerloyw. Mae Hitachi eisoes wedi dweud y mae’n disgwyl y bydd o leiaf 60% o’r gadwyn gyflenwi a fydd yn gysylltiedig ag adeiladu’r gorsafoedd niwclear yn gwmnïau o’r DU.
Wrth nodi’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Mr Jones: “Yn ystod fy ymweliad â Japan yn gynharach y mis yma, cefais gyfle i weld a chlywed fy hun faint o gyfleoedd y bydd buddsoddiad Hitachi mewn niwclear newydd yn ei olygu i ni, nid yn unig yng Nghymru, ond y DU drwyddi draw.
“Yng Ngogledd Cymru yn unig, mae’n mynd i olygu prosiect adeiladu mawr a fydd yn golygu creu hyd at 6,000 o swyddi, gyda 1,000 arall o swyddi tymor hir o ansawdd uchel yn cael eu creu ar ôl hynny. Mae eu buddsoddiad yn hwb enfawr – nid yn unig i economi Ynys Môn ond i sector ynni’r DU i gyd.
“Bydd lansio’r strategaeth heddiw yn newyddion sydd i’w groesawu gan y rheini sydd â diddordeb mewn gweld datblygiad niwclear newydd yng Nghymru. Bydd yn helpu i gefnogi cadw a chreu swyddi crefftus iawn ac yn rhoi hwb mawr i gwmnïau yn y gadwyn cyflenwi niwclear hir.”
Caiff y strategaeth ei goruchwylio gan Gyngor Diwydiant Niwclear, sy’n cael ei gadeirio ar y cyd gan weinidogion a’r diwydiant.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 April 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.