Ysgrifennydd Cymru yn dathlu Pen-Blwydd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn 10 Oed
Gall diwydiannau creadigol chwarae rhan allweddol yn ein hadferiad economaidd, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mewn digwyddiad…
Gall diwydiannau creadigol chwarae rhan allweddol yn ein hadferiad economaidd, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mewn digwyddiad yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, i ddathlu pen-blwydd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn 10 oed.
Er mwyn dathlu ei gyfraniad at y diwydiant cerddoriaeth dros y degawd diwethaf, mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn cynnal rhaglen ddigwyddiadau a gynhelir dros ddeuddydd ar 10fed ac 11eg Medi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ar gyfer y ddau ddiwrnod hyn mae cyntedd y Ganolfan wedi cael ei weddnewid er mwyn cyfleu gŵyl gerddoriaeth, a hynny gan drefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Mrs Gillan: “Mae cerddoriaeth yn llifo drwy wythiennau Cymru, ond mae’n bwysig cefnogi’r seilwaith er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth wrth galon ein hadferiad economaidd. Mae gan y diwydiannau creadigol botensial enfawr sydd heb ei gyflawni i greu swyddi, i ysgogi mewnfuddsoddiad ac i ychwanegu at ein hunaniaeth ddiwylliannol.
“Mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, Cyngor Celfyddydau Cymru a chynrychiolwyr y diwydiant i gyd yn chwarae rol allweddol i ddatblygu’r celfyddydau ymhellach er mwyn manteisio ar bob cyfle. Wrth i’r sefydliad ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed, mae hynny’n brawf o’r camau breision y mae wedi’u cymryd wrth ddatblygu’r sector, ac yn ddathliad go iawn o’r gwaith caled a wneir i gefnogi’r doniau sydd gan Gymru.”