Stori newyddion

Sylwadau Ysgrifennydd Cymru ar ‘garreg filltir bwysig’ i Tata Steel

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae heddiw’n garreg filltir bwysig yn y gwaith o adeiladu Ffwrnais Chwyth Rhif 4 yn Tata…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae heddiw’n garreg filltir bwysig yn y gwaith o adeiladu Ffwrnais Chwyth Rhif 4 yn Tata Steel. Bydd y pedwar mis nesaf yn gyfnod o weithgarwch peirianyddol dwys wrth i fodiwlau sy’n pwyso dros 500 tunnell gael eu codi i’w lle gan ymestyn tua’r awyr ar ei safle ym Mhort Talbot.”

“Yn amlwg, mae Tata yn gweithredu mewn marchnad hynod heriol - yn y wlad hon ac yn rhyngwladol - ond rwyf wedi cael sicrwydd bod Tata wedi ymrwymo’n llwyr i’w fuddsoddiad yn y DU. Y cwmni yw un o’n cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld y ffwrnais newydd yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

“Fel Llywodraeth, rydym yn gwybod bod gyrru ein heconomi ymlaen yn wyneb y gwyntoedd cryfion sy’n chwythu yn ein herbyn o Ardal yr Ewro yn dasg enbyd. Rydyn ni’n gwybod y bydd yn cymryd amser. Ac rydyn ni’n gwybod nad oes ffordd hawdd a di-boen allan o’r llanast y gwnaethom ei etifeddu. O gofio’r hyn sy’n digwydd yn y byd, mae angen i ni ganolbwyntio’n ddiwyro ar yr economi ac mae’r cyhoeddiadau diweddar am seilwaith a benthyca yn profi mai dyma’n union beth rydyn ni’n ei wneud.”

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 July 2012