Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn llongyfarch enillydd gwobr Merch Fusnes Ifanc

Heddiw [20 Medi 2012], mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones wedi llongyfarch Beth Coslett o Benarth am ennill gwobr Merch Fusnes Ifanc…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [20 Medi 2012], mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones wedi llongyfarch Beth Coslett o Benarth am ennill gwobr Merch Fusnes Ifanc.

Mae Ms Coslett yn rhedeg Glamour Fix, gwasanaeth sy’n darparu sesiwn harddwch sydyn ac yn cynnig gwasanaethau steilio gwallt a cholur proffesiynol yng Nghaerdydd. Enillodd y wobr am ei chymhelliant a’i phenderfyniad a gwnaeth ei sgiliau busnes argraff dda iawn.

Annette Burgess, sy’n Rheolwr-Gyfarwyddwr Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd gwledig ym Mhowys sydd wedi sefydlu’r Wobr Merch Fusnes Ifanc eleni.

Nod y cynllun yw cynorthwyo menywod rhwng 18 a 35 yng Nghymru i ddechrau neu ddatblygu eu busnesau eu hunain.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

“Hoffwn longyfarch Beth am ennill y wobr. Mae hi’n enghraifft wych o’r hyn sy’n bosib ei gyflawni drwy waith caled ac ymroddiad, ac mae hi wir yn haeddu’r wobr.”

“Mae rhaglenni fel Merch Fusnes Ifanc yn ffordd wych o dynnu sylw at entrepreneuriaid ifanc a’u cefnogi nhw - rydw i eisoes wedi dweud fy mod i am i economi Cymru dyfu, a drwy gydnabod y rhaglen a’r wobr hon, rwy’n gobeithio y bydd yn annog rhagor o fenywod ifanc yng Nghymru i ddatblygu syniadau gwych.”

Nodiadau i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, ewch i: http://youngwomanofbusiness.co.uk/

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y wobr, gallwch un ai enwebu eich hun neu gall rhywun arall eich enwebu.

Bydd yr enillydd yn cael y buddion hyn:

  • Annette Burgess yn ei mentora am chwe mis

  • Bydd Annette yn ei chysylltu a chysylltiadau busnes perthnasol

  • Cymorth busnes/gyrfa penodol ar gyfer yr enillydd

  • Bydd yn gallu cysylltu ag Annette i gynllunio strategaethau er mwyn cynllunio meysydd penodol yn y dyfodol

  • Sylw yn y wasg

- Lle i ysgrifennu blog ar wefan Merch Fusnes Ifanc

-Gwasanaeth cysylltiadau cyhoeddus am ddim am chwe mis (gan wispa Limited) ar gyfer yr enillydd a gweithgareddau’r enillydd

Cyhoeddwyd ar 20 September 2012