Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn croesawu cyfnod newydd i Swyddfa Cymru with i'r swyddfa ddathlu 60 mlynedd
Cynhaliwyd digwyddiad yn Nhŷ William Morgan yng Nghaerdydd i nodi 60 mlynedd ers creu rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud y bydd Swyddfa Cymru yn “hyrwyddwr arbennig dros ein cenedl wrth Fwrdd y Cabinet” wrth i’r adran ddathlu 60 mlynedd.
Wrth i Jo Stevens gael ei phenodi dywedodd ei bod eisiau adfywio Swyddfa Cymru a’i bod eisoes wedi “creu partneriaeth newydd” gyda Llywodraeth Cymru yn ogystal â dechrau cyflawni rhai o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth y DU.
Ddydd Iau 17 Hydref, cynhaliwyd digwyddiad yn Nhŷ William Morgan yng Nghaerdydd, un o ddau safle Swyddfa Cymru ynghyd â Tŷ Gwydyr yn Llundain, i nodi 60 mlynedd ers creu rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Swyddfa Cymru yn bodoli i fod yn hyrwyddwr arbennig dros ein cenedl ac rwy’n credu ei bod yn hollbwysig bod gan Gymru lais wrth fwrdd y Cabinet, gan eirioli’n gadarn ar ran ein gwlad. Dyma etifeddiaeth y byddaf yn parhau i’w hyrwyddo a’i chryfhau.
Ond rydw i eisiau mynd ymhellach ac yn gyflymach i gryfhau llais ac effaith Swyddfa Cymru ar draws y llywodraeth ac ar brofiadau pobl ar hyd a lled Cymru.
Pan ddechreuais ar y swydd ym mis Gorffennaf, fe wnes i nodi fy nghynlluniau i adfywio Swyddfa Cymru a gosod gweledigaeth glir ar gyfer ei dyfodol.
Cafwyd perthynas anodd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros y ddegawd ddiwethaf, a’r peth cyntaf rydyn ni wedi’i wneud yw ailosod y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru aLlywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae’r Prif Weinidog a minnau’n creu partneriaeth newydd, sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, parch at ddatganoli, cydweithredu a chyflawni. Dyna’r sylfaen i adeiladu popeth arall.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei bod, yn ogystal â diwygio Swyddfa Cymru, wedi dechrau cyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd wrth iddi gael ei phenodi i’r swydd.
Ers mis Gorffennaf yng Nghymru, mae’r cyhoeddiadau wedi cynnwys:
-
Bargen well gyda Tata Steel sy’n sicrhau dyfodol uniongyrchol gwaith dur Port Talbot, yn gosod y sylfeini ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol ac yn gwella gwarchodaeth i’r gweithlu ym Mhort Talbot, Llan-wern, Trostre a Shotton.
-
Rhyddhau £13.5 miliwn o Fwrdd Pontio Port Talbot i gefnogi’r gymuned a’r gadwyn gyflenwi.
-
Llwyddiannau o ran mewnfuddsoddiad mawr gydag Eren Holdings a Kellanova yn gwneud buddsoddiadau enfawr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a fydd yn creu cannoedd o swyddi da.
-
Cynyddu nifer y trenau sy’n rhedeg ar brif reilffordd Gogledd Cymru 50%, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru.
-
Creu GB Energy sy’n eiddo i’r cyhoedd, sy’n rhyddhau’r potensial sydd gennym am bŵer glân yng Nghymru o brosiect niwclear newydd yn Ynys Môn, i ffermydd gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd. Roedd saith prosiect ffrwd lanw, solar ac ynni gwynt ar y môr ledled Cymru wedi llwyddo i sicrhau contractau yn gynharach eleni.
-
Partneriaeth newydd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ostwng rhestrau aros y GIG ar ddwy ochr y ffin.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd ein Swyddfa Cymru newydd yn fwy mentrus, yn fwy dylanwadol ac yn gosod gweledigaeth gadarnhaol i’n gwlad, yn chwarae rhan ganolog unwaith eto yn y gwaith o wella bywydau pobl o ddydd i ddydd beth bynnag fo’u cefndir a ble bynnag y maen nhw’n byw.
Byddwn yn gweithio ar draws y ddwy lywodraeth i sicrhau sefydlogrwydd economaidd a thwf, pŵer glân erbyn 2030, diogelwch ar y ffin, strydoedd mwy diogel, a gwasanaethau cyhoeddus sy’n addas i’r dyfodol.
Byddwn yn cyflawni ein cenadaethau dros y llywodraeth, dros ac ar ran pobl Cymru.”
Cafodd swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei chreu ar 17 Hydref 1964 ac AS Llanelli, Jim Griffiths, oedd y cyntaf i ddal y swydd.
Pan sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, cafodd Swyddfa Cymru newydd ei chreu i ddisodli’r Swyddfa Gymreig er mwyn cyflawni’r swyddogaethau a oedd ar ôl gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Penodwyd Jo Stevens AS i’r swydd ar ôl Etholiad Cyffredinol 4 Gorffennaf eleni, a hi yw’r 22ain i ddal y swydd. Hi yw’r fenyw gyntaf o’r Blaid Lafur i ddal y swydd.
Roedd gwesteion y digwyddiad pen-blwydd yn 60 oed ddydd Iau yn cynnwys nifer o gyn Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, aelodau o wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau mewn lifrai ac unigolion o fywyd cyhoeddus Cymru. Roedd yno hefyd arddangosfeydd o hanes yr adran, a ddarparwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.