Ysgrifennydd Cymru: Cytundeb Hinkley yn nodi dadeni niwclear yn y DU.
Cyhoeddiad yn ‘gam cadarnhaol ymlaen’ ar gyfer datblygiad niwclear newydd ar Ynys Môn.
Mae’r cytundeb i adeiladu’r orsaf bŵer niwclear newydd gyntaf yn y DU ers 20 mlynedd, yn Hinkley Point, yn nodi dechrau dadeni’r diwydiant cynhyrchu pŵer niwclear yng Nghymru, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.
Heddiw (21 Hydref) tarodd Llywodraeth y DU a Grŵp EDF gytundeb masnachol ynglŷn â thelerau allweddol contract buddsoddi arfaethedig ar gyfer gorsaf bŵer niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf.
Pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Gwladol bod cyhoeddiad heddiw yn arwydd cryf o ymrwymiad y Llywodraeth i niwclear newydd, ac yn gam cadarnhaol ymlaen i ddatblygiad niwclear newydd ar Ynys Môn.
Fis Hydref y llynedd, cyhoeddodd y cwmni technegol o Japan, Hitachi - GE Nuclear Energy Cyf eu bod wedi prynu Pŵer Niwclear Horizon, a’u bod yn bwriadu datblygu hyd at 7.8GW o gapasiti niwclear newydd yn y DU o safleoedd yn Wylfa ar Ynys Môn ac Oldbury yn Swydd Gaerloyw.
Mae’r broses Asesu Dyluniad Generig - sy’n gwneud archwiliad manwl o bob agwedd yn ymwneud ag adweithyddion niwclear - ar waith yn barod.
Dywed Ysgrifennydd Gwladol, David Jones:
Bydd cyhoeddiad heddiw yn Hinkley Point yn rhoi sbardun ychwanegol i Gymru ymelwa ar ei photensial ei hun, o ran ynni. Mae’n tanlinellu safle’r DU fel un o’r marchnadoedd mwyaf deniadol ar gyfer cynhyrchu trydan yn y byd.
Mae gan fuddsoddiad Hitachi yn Wylfa B y potensial i ddwyn budd sylweddol i economi Cymru, yn enwedig Ynys Môn, drwy greu mwy o swyddi o safon a chyfleoedd i’r cadwyn cyflenwi.
Yn wir, bydd 60% o werth cynnwys yr orsaf gyntaf yn tarddu o’r DU, ac yr wyf yn awyddus i weld busnesau Cymru’n elwa o’r cyfleoedd hyn. Mae’n bwysig iawn ein bod yn dangos ein bod ymhlith y cyflenwyr gorau un, a dangos ansawdd ein gwaith a’r gwerth y gallwn ei gynnig.
Yn ystod fy ymweliad â Japan yn gynharach eleni, gwelais yn glir sut mae cadwyn cyflenwi byd-eang Hitachi yn gweithio, a chefais gyfle i dynnu sylw at y cryfderau sydd gan fusnesau Cymru i’w hychwanegu at brosiect Hitachi. Gall cwmnïau yn awr gofrestru i fod yn rhan o’r cadwyn cyflenwi niwclear yn Wylfa, a byddwn yn annog busnesau Cymru i astudio’r cyfleoedd sydd ar gael a chofrestru eu diddordeb mewn bod yn rhan o’r datblygiad pwysig hwn ar wefan Horizon.
Bydd cyhoeddiad heddiw, bod Llywodraeth y DU a Grŵp EDF wedi cytuno ar ‘bris taro’ ar gyfer Hinkley Point C, yn newyddion da i Hitachi a’r datblygiad arfaethedig yn Wylfa. Bydd Contractau ar gyfer Gwahaniaeth yn cefnogi buddsoddi mewn cynhyrchu carbon isel newydd gan y byddant yn lleihau’r risgiau a wynebir gan gynhyrchwyr drwy roi sicrwydd iddynt ynghylch refeniw.
Mae’r buddsoddiad hefyd yn golygu cyfleoedd ardderchog ar gyfer y gweithlu ac ar gyfer ein pobl ifanc. Bydd canolfan hyfforddi arbenigol newydd yng Ngholeg Menai, sy’n elwa ar yr offer diweddaraf a ddarparwyd gan Hitachi, yn helpu i hyfforddi ac ysbrydoli ein pobl ifanc er mwyn iddynt fod yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil yr orsaf bŵer newydd.
NODIADAU I OLYGYDDION
*Am fwy o wybodaeth, cysyllter â Lynette Bowley yn Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204 / lynette.bowley@walesoffice.gsi.gov.uk
*Am fwy o wybodaeth ynglŷn â buddsoddiad Hitachi yn Wylfa, ymweler â https://www.gov.uk/government/news/ministers-welcome-hitachi-new-nuclear-investment-programme
*Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyhoeddiad Hinkley Point C, ymwelwch â https://www.gov.uk/government/news/hinkley-point-c
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 October 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.