Ysgrifennydd Cymru yn cael y Fraint o Gynrychioli Cymru yn y Croeso Swyddogol i’r Pab Benedict XVI
Heddiw (16 Medi), roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ymysg pobl amlwg o Gymru a groesawodd y Pab Benedict XVI ar ei ymweliad a…
Heddiw (16 Medi), roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ymysg pobl amlwg o Gymru a groesawodd y Pab Benedict XVI ar ei ymweliad a’r DU.
Roedd Mrs Gillan ym Mhalas Holyrood yng Nghaeredin i gyfarch y Pab ar ddechrau’i ymweliad Pabyddol pedwar diwrnod a’r DU. Hefyd yn bresennol oedd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ac Archesgob Cymru, Y Gwir Barchedig Dr Barry Morgan.
Bydd Ysgrifennydd Cymru hefyd yn cynrychioli Cymru yn y Dathliad hanesyddol o’r Offeren yn Eglwys Gadeiriol Westminster ddydd Sadwrn, pan fydd y Pab yn rhoi homili a chyfarchiad i bobl Cymru. Mae cerflun cysegredig o’r Forwyn Fair yn cael ei drosglwyddo o Aberteifi i Eglwys Gadeiriol Westminster i’w fendithio gan y Pab yn yr Offeren.
Dywedodd Mrs Gillan wrth siarad o Gaeredin: “Roeddwn wrth fy modd yn cael fy ngwahodd i seremoni’r Croeso swyddogol ym Mhalas Holyrood pan gyfarchodd Ei Mawrhydi’r Frenhines y Pontiff ar ei ymweliad cyntaf a’r DU.
“Er na fydd y Pab Benedict yn ymweld a Chymru yn ystod ei daith, bydd yn cyfarch pobl Cymru wrth ddathlu’r Offeren yn Eglwys Gadeiriol Westminster a bydd llawer o Gatholigion Cymru’n gwneud pererindodau i’w weld yn yr Alban, Llundain neu Birmingham dros y pedwar diwrnod nesaf.”
Dywedodd Mrs Gillan y byddai’r Pab Benedict hefyd yn cyfarfod a’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog yn ystod ei ymweliad.
Dywedodd: “Mae’r Llywodraeth yn croesawu’r cydweithredu ymysg grwpiau ffydd i gefnogi nodau megis datblygu rhyngwladol a mynd i’r afael a newid yn yr hinsawdd, a’r rol gadarnhaol y gall ffydd a grwpiau ffydd ei chwarae mewn cymdeithas sifil, gan gynnig cyfle i amlygu esiampl sydd eisoes yn ffynnu o’r Gymdeithas Fawr.”
Yn dilyn y Croeso Swyddogol, dychwelodd Mrs Gillan i Gaerdydd i fynychu Seremoni Seinio’r Drwm i Encilio a Derbyniad Brigad 160 (Cymru) yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.