Ysgrifennydd Cymru yn sbarduno 'cyfnod newydd o ffyniant a thwf i Gymru'
Bydd y Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd yn hybu twf, siapio strategaeth ddiwydiannol y DU, a gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân.
- Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cadeirio cyfarfod cyntaf o Grŵp Ymgynghori Economaidd arloesol i hybu twf, siapio strategaeth ddiwydiannol y DU, a gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân.
- Y tro cyntaf i gynrychiolwyr o’r ddwy lywodraeth, byd busnes, addysg a diwydiant ac undebau yn dod at ei gilydd i lunio polisi trawslywodraethol y DU.
- Bydd y corff newydd yn hybu ffyniant ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru, wedi sbarduno ymgyrch i roi hwb i dwf economaidd a siapio strategaeth ddiwydiannol y DU drwy gadeirio grŵp sy’n dod â busnesau, diwydiant, prifysgolion ac arweinwyr undebau at ei gilydd.
Cynhaliodd y grŵp ei gyfarfod cyntaf y bore yma (dydd Llun 2il Rhagfyr) gyda chenhadaeth i wella ffyniant a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Fel rhan o fenter Ysgrifennydd Cymru, cynhaliodd drafodaeth ddwys hefyd gydag arweinwyr o sector technoleg a digidol ffyniannus Cymru i glywed am y cyfleoedd ar gyfer twf.
Yr wythnos diwethaf, bu Jo Stevens hefyd yn cadeirio trafodaeth gyda diwydiannau creadigol Cymru. Roedd hyn yn cynnwys taith o amgylch Wolf Studios ym Mae Caerdydd, sef cartref cynyrchiadau fel Doctor Who, a gynhyrchwyd gyda BBC Studios, A Discovery of Witches ac Industry.
Wrth siarad ar ôl cyfarfod Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd Cymru, dywedodd Jo Stevens:
Roeddwn wrth fy modd yn cwrdd â rhai o feddyliau mwyaf talentog ac uchelgeisiol Cymru a chlywed eu syniadau am sut rydym yn dechrau cyfnod newydd o ffyniant.
Mae’r bartneriaeth newydd hon wedi bwrw iddi a bydd yn gweithio’n gyflym i sicrhau ein bod yn cael y twf angenrheidiol er mwyn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Mae cymaint o egni ac angerdd dros gydweithio, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, i ail-greu gwreiddiau diwydiannol balch Cymru gyda swyddi a diwydiannau’r dyfodol.
Bydd y grŵp hefyd yn gweithio gydag Ysgrifennydd Cymru i lywio Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU i roi hwb i ddiwydiannau allweddol Cymru, ac i lywio blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr Adolygiad nesaf o Wariant. Mae disgwyl y ddau beth hyn yn ystod gwanwyn 2025.
Twf economaidd yw prif flaenoriaeth Llywodraeth y DU. Ers mis Gorffennaf, mae dros £1bn a channoedd o swyddi wedi cael eu creu ar gyfer gogledd Cymru, mae Parthau Buddsoddi a Bargeinion Twf Cymru wedi cael eu cadarnhau, mae bargen ddur well wedi cael ei chyhoeddi, sy’n sicrhau dyfodol y diwydiant yng Nghymru, ac mae’r setliad Cyllideb uchaf erioed wedi cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru ei wario ar wasanaethau cyhoeddus.
Bydd y Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd yn dechrau gyda chyfres o gyfarfodydd dros y chwe mis nesaf, wrth i Lywodraeth y DU ddatblygu ei blaenoriaethau ar gyfer twf economaidd ac ynni glân.
Dywedodd Alison Orrells, Cadeirydd, CBI Cymru:
Rwy’n croesawu’r cyfle i rannu mewnwelediad ein haelodau ar y camau gweithredu sydd eu hangen i ddatgloi a sbarduno twf economaidd cynaliadwy ac adeiladu ffyniant mewn cymunedau ledled Cymru.
O fuddsoddiadau rhanbarthol a phrosiectau twf gwyrdd, megis y porthladdoedd rhydd, i glystyrau lled-ddargludyddion, gweithgynhyrchu a thechnoleg, cyflogwyr yn y sector gwasanaethau i weithlu medrus, mae busnesau Cymreig o bob maint a sector yn cael eu cynrychioli gan y CBI a gallant chwarae rhan hanfodol mewn galluogi’r llywodraeth i gyflawni ei chenhadaeth twf.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
Rydym yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y grŵp ymgynghori hwn i lunio’r weledigaeth ar gyfer twf economaidd, strategaeth ddiwydiannol ac ynni glân. Mae llawer o rannau Cymru wedi’u creithio gan ddad-ddiwydiannu a thanfuddsoddi, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â hyn.
Bydd y cynlluniau hyn yn siapio dyfodol gweithwyr ledled Cymru, a byddwn yn hyrwyddo buddsoddiad mewn gweithgynhyrchu, gwaith o safon a thrawsnewid i net sero nad yw’n gadael unrhyw gymuned ar ei hôl hi.
Oriel Petry, Uwch Is-lywydd, Pennaeth Materion Cyhoeddus Airbus Group UK:
Rwy’n falch iawn o ymuno â Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd Cymru ar adeg pan fo datgloi potensial y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau wrth wraidd cenhadaeth y llywodraeth i sicrhau’r twf parhaus uchaf yn y G7.
Edrychaf ymlaen at ddarparu eiriolaeth gref ar yr ysgogiadau ar gyfer twf economaidd a sut y gall Cymru fanteisio ar ei chryfderau sectoraidd wrth fanteisio ar ddiwydiannau’r dyfodol.
Dywedodd Dr Jenifer Baxter, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Cymru:
Mae Diwydiant Cymru’n edrych ymlaen at gydweithio ar lunio strategaeth ddiwydiannol sy’n manteisio ar gryfderau Cymru mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, ynni glân, technolegau meddygol a systemau trafnidiaeth i sbarduno arloesedd, cysylltedd digidol a thwf economaidd ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Dywedodd Syr Derek Jones, Cynghorydd Annibynnol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd Keolis UK:
Mae consensws clir erbyn hyn bod rhaid i dwf economaidd fod yn brif flaenoriaeth i’r Deyrnas Unedig, ac mae hynny’n sicr yn wir i Gymru. Felly, rwy’n croesawu menter yr Ysgrifennydd Gwladol yn sefydlu’r Grŵp ac yn edrych ymlaen at gyfrannu’n bersonol at y gwaith hollbwysig hwn.
Nodiadau i Olygyddion
Dyma’r rhai a oedd yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd Cymru:
- Alison Orrells, Cadeirydd, CBI Cymru
- Dr Jenifer Baxter, Diwydiant Cymru
- Ben Francis, Cadeirydd Polisi Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach
- Shavanah (Shav) Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru
- Sarah Williams-Gardner, Cadeirydd FinTech Wales
- Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau – Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru
- John-Paul (JP) Barker - Arweinydd y Gorllewin a Chymru, PwC
- Jessica Hooper, Cyfarwyddwr, RenewableUK Cymru
- Oriel Petry, Uwch Is-lywydd, Airbus
- Syr Derek Jones, cynghorydd annibynnol ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o fwrdd y King’s Trust yng Nghymru, Keolis UK ac IQE.