Ysgrifennydd Cymru yn nodi ‘mis i fynd’ tan y Gemau Olympaidd
Gyda mis yn unig nes seremoni agoriadol Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn mynegi ei chefnogaeth…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Gyda mis yn unig nes seremoni agoriadol Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn mynegi ei chefnogaeth i athletwyr Cymru sydd wedi cael eu recriwtio i Dim Prydain Fawr wrth iddynt wneud eu paratoadau terfynol ar gyfer y Gemau.
Bydd Cymru’n anfon ei chriw mwyaf erioed i’r Gemau, gyda 19 o athletwyr eisoes wedi cael eu cadarnhau fel aelodau o Dim Prydain Fawr. Bydd y nifer hwn yn cynyddu gydag athletwyr arbenigol, Dai Greene a Christian Malcolm a lwyddodd i gyflawni amseroedd cymwys ar gyfer y Gemau Olympaidd yn nhreialon Gemau Olympaidd Prydain y penwythnos diwethaf.
Ar ben hynny, mae 24 o aelodau o Gymru yn nhim Prydain Fawr ar gyfer y Gemau Paralympaidd, ac mae’r tim athletau a’r tim rhwyfo i’w cyhoeddi eto.
Mae’r garreg filltir o fis i fynd (27 Mehefin) hefyd yn nodi agor y ddesg newyddion yn y Ganolfan Ddarlledu Ryngwladol ym Mharc y Gemau Olympaidd - canolfan y cyfryngau 24-awr a fydd yn cynnwys hyd at 20,000 o ddarlledwyr, ffotograffwyr a newyddiadurwyr ac yn dod a’r Gemau i tua phedwar biliwn o bobl o gwmpas y byd.
Mae Euroclad, y gweithgynhyrchwyr yng Nghaerdydd, ymysg y nifer o’r rhai sydd wedi ennill contract yng Nghymru ac sydd wedi helpu i ddod a’r Ganolfan Ddarlledu Ryngwladol i fodolaeth. Cafodd y cwmni hwn ei recriwtio i gynhyrchu a chyflenwi cladin ar gyfer waliau a tho’r cyfleuster hwn, yn ogystal a rhai eraill yn y Parc. Mae wedi defnyddio’r cyfle hwn i gryfhau partneriaethau sydd eisoes yn bodoli a datblygu cyfleoedd busnes newydd o ganlyniad i’w cyfraniad at y Gemau Olympaidd.
Dywedodd Jon Dore, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Busnes Euroclad:
“Mae rhai pobl yn awgrymu bod pawb yn canolbwyntio ar Lundain ar gyfer y Gemau Olympaidd, a bod y rhanbarthau’n colli allan. Rwy’n anghytuno, yn arbennig wrth ystyried yr ymdrech fawr y mae contractwyr o bob cwr o’r DU yn ei gwneud y tu ol i’r llenni, a’r budd a ddaw iddyn nhw yn y tymor hwy.
“Yn Euroclad, rydyn ni’n falch o elwa o ennill y contract i ddarparu cladin ar gyfer waliau a tho’r Ganolfan Ddarlledu Ryngwladol. “Rydyn ni wedi datblygu rhwydwaith ehangach o gysylltiadau yn y diwydiant ac wedi creu cysylltiadau cryfach gyda’n partneriaid presennol o ganlyniad i’n cyfraniad at y Gemau Olympaidd. Ac nid ni yw’r unig rai - alla i ddim siarad ar ran y wlad gyfan, ond mae nifer o gyflenwyr a chontractwyr eraill o dde Cymru yn chwarae rhan bwysig wrth wneud yn siŵr bod Gemau Llundain 2012 cystal ag y medrant fod, ac yn creu gwaddol gwych i bobl a busnesau hyd a lled y DU. “
Dywedodd Mrs Gillan:
“Gyda mis yn unig ar ol tan y gemau, rydyn ni’n dod yn nes at ddangos y dalent orau yn y maes chwaraeon yng Nghymru a thynnu sylw at y cyfraniad pwysig y mae busnesau Cymru, fel Euroclad, wedi ei wneud i helpu i wneud y gemau’n realiti.
“Mae heddiw’n ddechrau cyfnod o baratoadau trylwyr ar gyfer Tim Prydain Fawr, wrth iddyn nhw edrych ymlaen at ddechrau’r digwyddiad chwaraeon gwych.
“Mae Cymru gyfan yn barod i groesawu’r byd i Gaerdydd pan fydd y gystadleuaeth yn dechrau yn Stadiwm y Mileniwm, a chefnogi ein hathletwyr pan fyddan nhw’n cystadlu yn Llundain y mis nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at wneud fy rhan yn eu croesawu.”