Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cyfarfod ag Uned Cymorth Personol cyn i ganolfan agor yng Nghaerdydd fis Ionawr

Heddiw, bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cyfarfod a chynrychiolwyr o’r Uned Cymorth Personol, cyn i ganolfan gyntaf yr elusen…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cyfarfod a chynrychiolwyr o’r Uned Cymorth Personol, cyn i ganolfan gyntaf yr elusen yng Nghymru agor fis Ionawr.

Mae’r elusen annibynnol yn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i bobl sy’n mynychu’r llys sifil, i deuluoedd ac i dystion. Ar hyn o bryd, mae gan yr elusen ganolfannau yn Llundain ac ym Manceinion, ond mae’n bwriadu agor ei chanolfan gyntaf yng Nghymru yng Nghanolfan Llysoedd Sifil Caerdydd fis Ionawr.

Gall gwirfoddolwyr yn yr uned fynd i’r llys gyda’r rheini sy’n defnyddio’r gwasanaeth, trafod achosion a chynnig rhywle i gael tawelwch cyn ac ar ol gwrandawiadau. Gallant hefyd helpu ymgyfreithwyr i ddod o hyd i atebion i’w cwestiynau a chynorthwyo ag achosion methdaliad. Mae’r gwasanaeth yn ddi-dal, yn gyfrinachol ac yn annibynnol, ac fe’i cynigir yn deg i bawb sy’n gofyn.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r Uned Cymorth Personol yn cynnig help llaw i unigolion sy’n wynebu cyfnod anodd a thrawmatig yn eu bywydau. Gall mynd i’r llys fod yn brofiad digon anodd ac arswydus i rai - yn enwedig y rheini heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

“Rwy’n hynod o falch felly fod yr Uned Cymorth Personol yn agor canolfan yng Nghaerdydd, gan roi cyfle i lawer iawn o bobl gael budd o gymorth arbenigol a phrofiad gwirfoddolwyr yr Uned, a fydd yn gallu arwain a chynorthwyo pobl drwy broses y llys. Hoffwn ddymuno’n dda i’r Gwirfoddolwyr a’r Ymddiriedolwyr gyda’r ganolfan newydd yng Nghaerdydd, gan obeithio y caf gyfle i ymweld a nhw yn y dyfodol agos.”

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 December 2010