Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

Cynnydd pellach mewn lefelau cyflogaeth yng Nghymru yn arwydd cadarnhaol o adferiad economaidd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Labour Market

Mae’r ffigurau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw (16 Hydref) yn dangos bod Cymru dal ar y llwybr iawn tuag at adferiad economaidd, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.

Mae’r ffigurau’n dangos cynnydd pellach mewn cyflogaeth yng Nghymru dros y chwarter diwethaf, gyda 11,000 mwy o bobl mewn gwaith. Mae 1,000 yn llai o bobl ddi-waith yng Nghymru a gwelwyd gostyngiad derbyniol iawn mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc.

Mae nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru 2,100 yn llai ers Awst 2013 ac mae 10,100 yn llai nag oedd ym Medi y llynedd. Gwelwyd 3,000 yn llai o bobl economaidd anweithgar yng Nghymru hefyd dros y chwarter.

Dywed Ysgrifennydd Gwladol, David Jones:

Mae mis arall o ystadegau cyflogaeth mwy calonogol yn dangos bod y Llywodraeth hon yn creu’r amodau cywir ar gyfer twf, a’n bod yn dechrau gweld y buddiannau yng Nghymru.

Mae’r gostyngiad yn ffigurau diweithdra ymhlith pobl ifanc yn arbennig o foddhaol. Yn gynharach yn yr wythnos, gwelais enghreifftiau ardderchog o brentisiaid ifanc yn gweithio yn un o gwmnïau gweithgynhyrchu amlycaf Cymru. Bydd y sgiliau a’r galluoedd y maent hwy, a phobl ifanc eraill ar raglenni gwaith, yn eu datblygu heddiw yn chwarae rhan allweddol wrth sbarduno twf ledled y Deyrnas Unedig yn y blynyddoedd i ddod.

Dros y mis diwethaf, yr wyf wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae busnesau yng Nghymru wedi bod yn derbyn yr her. O’r 50 a enillodd wobr Twf Cyflym, i egin-gwmnïau meddygol sy’n allforio eu cynhyrchion a’u gwasanaethau i bedwar ban byd, mae gennym lu o fusnesau bach yma yng Nghymru sy’n dangos bod ganddynt y cymhelliant a’r uchelgais sydd eu hangen i danio’r economi tuag at adferiad.

Ac yn awr, bydd entrepreneuriaid ar hyd a lled y wlad yn gallu elwa ar gefnogaeth nawdd hollbwysig gan Lywodraeth y DU ar ffurf benthyciad ad-daladwy ynghyd â mentor busnes, i’w helpu i roi cig ar esgyrn eu syniadau busnes. Mae’r cynllun Benthyciad i Gychwyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn Lloegr. Rwyf am weld hwn yn cael ei efelychu yng Nghymru, a gweld busnesau Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn a gynigiwyd iddynt.

Mae angen gwir dwf ar Gymru, twf a fydd yn parhau, a hwnnw wedi’i seilio ar economi sy’n fwy effeithiol, sy’n ystyriol o fusnesau ac sydd â chydbwysedd newydd. Fodd bynnag, ni allwn laesu’n dwylo. Roedd cyhoeddiad First Milk ddoe, eu bod yn bwriadu cau eu safle yn Wrecsam, yn nodyn sobreiddio i’n hatgoffa o’r sialensiau sylweddol sydd o’n blaenau.

Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynnal cysylltiadau clos gyda busnesau llawr gwlad yng Nghymru, a chanolbwyntio ar gadw swyddi a chreu swyddi, yn ogystal â denu cyfleoedd busnes newydd ledled y wlad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 October 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 October 2013 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.