Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur
Y ffigurau cyflogaeth diweddaraf yn dangos bod nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru yn uwch nag y buont ers tro
Mae’r farchnad lafur yng Nghymru’n mynd o nerth i nerth, meddai David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw, wrth i ffigurau cyflogaeth ddangos bod nifer y bobl mewn gwaith ledled Cymru yn uwch nag y buont ers tro.
Mae’r ffigurau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (13 Tachwedd 2013) yn dangos bod lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi codi 14,000 ers y chwarter diwethaf. Mae lefelau cyflogaeth ledled y DU hefyd yn uwch nag erioed.
Mae diweithdra yng Nghymru wedi gostwng 4,000 dros y chwarter diwethaf, ac mae diweithdra ymysg yr ifanc hefyd wedi gostwng 1,000 yn ystod y mis diwethaf.
Mae nifer y bobl sy’n hawlio lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru wedi gostwng 1,800 ers mis Medi 2013, ac mae’r nifer 12,800 yn is nag yr oedd ym mis Hydref y llynedd. Mae anweithgarwch economaidd yng Nghymru hefyd wedi gostwng 13,000 dros y chwarter, ac mae’r nifer 19,000 yn is nag yr oedd yr adeg hon y llynedd.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r tuedd cynyddol hwn yn y farchnad lafur yng Nghymru yn addawol iawn ac yn arwydd clir bod economi Cymru nawr yn codi stêm o ddifri ar y ffordd i adferiad.
Mae mwy o bobl mewn gwaith erbyn hyn nag a welwyd ers tro, ac mae nifer y bobl ifanc sy’n ddi-waith yn parhau i ostwng.
Mae’n amlwg fod cynllun economaidd y Llywodraeth hon yn gweithio. Mae hyder busnesau ledled y DU hefyd wedi cryfhau yn eithriadol - dyma’r uchaf y mae wedi bod yng Nghymru ers 2009. Mae ein sector busnesau preifat uchelgeisiol a llewyrchus wedi chwarae rhan allweddol yn hyn o beth ac mae’r Llywodraeth yn parhau i roi’r cymorth a bennwyd i sicrhau bod y momentwm hwn yn cael ei gynnal.
Yn gynharach y mis hwn, lansiwyd yr ymgyrch Mae Busnes yn GRÊT, ac, ym mis Rhagfyr, byddwn yn cyhoeddi strategaeth draws-Lywodraethol ar gymorth i fusnesau bach, gan ddarparu’r offer y mae arnynt ei angen i ffynnu yn y ras fyd-eang.
Mae gan y Llywodraeth hon gynllun hirdymor, ac rydym wedi ymrwymo i’r dasg o sicrhau adferiad llwyddiannus, cryf a pharhaus i Gymru ac i’r DU i gyd.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 November 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.