Ysgrifennydd Cymru: ymateb i Ystadegau Marchnad Lafur yr ILO
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol heddiw [12 Hydref 2011] fod Ystadegau Marchnad Lafur yr ILO yn newyddion siomedig, tra’n croesawu cyhoeddiad…
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol heddiw [12 Hydref 2011] fod Ystadegau Marchnad Lafur yr ILO yn newyddion siomedig, tra’n croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ar Academiau Gwaith Seiliedig ar Sector.
Mae cyfradd gyflogaeth Cymru, ar 67.3&, 3.1 pwynt yn is na’r cyfartalog cenedlaethol, gan ostwng 1.2 pwynt ar y chwarter. Roedd cyfradd ddiweithdra’r
ILO i fyny 1.1 pwynt i 9.0%, a 0.9 pwynt yn uwch na’r cyfartalog ar gyfer y DU. Daeth y lleihad o 26,000 yn y lefel gyflogaeth law yn llaw a chynnydd o 16,000 yn y lefel ddiweithdra a chynnydd o 8,000 yn y lefel anweithgarwch (cyfradd i fyny 0.4 pwynt). Roedd nifer yr hawlwyr i fyny 800 ar y mis a’r gyfradd i fyny 0.1 pwynt i 5.6% dros yr un cyfnod - 0.6 pwynt yn uwch na’r cyfartalog cenedlaethol.
Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol Cheryl Gillan: “Mae ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw heb os yn siomedig, ond mae’r Llywodraeth yn benderfynol o wneud ei gorau glas i geisio datrys hyn. Ni fyddwn yn cefnu ar yr her yma a dyna pam ein bod wedi lansio academiau sector ar draws y DU, a fydd yn cynnig cyfuniad o hyfforddiant, profiad gwaith a chyfweliad sicr am swydd i hyd at 50,000 o bobl dros y ddwy flynedd nesaf.
“Pan fum yn ymweld a Working Links yng Nghaerffili gyda’r Prif Weinidog yn yr haf, gwelais drosof fy hun fod pobl yn awchus iawn am fwy o ddatblygiad a chyfleoedd i bobl ifanc sy’n chwilio am gyfle i dyfu Mae’n bwysig ein bod yn coleddu a darparu’r cyfleoedd hyn i bobl ifanc, i brofi bod gwaith bob amser yn talu.
“Rwyf yn bwyllog groesawu rhaglen Twf Swyddi Llywodraeth Cymru , oherwydd mae unrhyw gyfleoedd am waith yn newyddion da, ond mae’n bwysig bod y rhain yn gynaliadwy a manteisiol er mwyn cael swyddi hirdymor.
“Er fy mod yn sicr yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar y Parthau Menter, rwyf yn gobeithio y bydd yn gweithio’n gynt i’w gweithredu fel nad yw Cymru’n colli tir o’i gymharu a gwledydd eraill y DU.”
**Nodiadau i’r golygyddion: **
- Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cymryd camau pendant i leihau’r diffyg ariannol ac i adfer sefydlogrwydd economaidd. Yn ogystal ag ymrwymo i dorri trethi busnes i fod yn un o’r cyfraddau isaf ymhlith y G7, mae Gweinidogion yn cyhoeddi hwb o £173 miliwn i sbarduno twf gweithgynhyrchu.
- Mae mwy o wybodaeth am ystadegau’r ILO ar gael yn here