Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn gweld cynlluniau ar gyfer canolfan ynni glân newydd i roi hwb i swyddi a sicrhau twf economaidd

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymweld â Associated British Ports a Dow yn y Barri fel rhan o genhadaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau twf economaidd.

Welsh Secretary Jo Stevens at ABP Barry.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymweld â dau gyflogwr mawr yn y Barri fel rhan o genhadaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau twf economaidd.

Cafodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru, daith o amgylch Porthladd y Barri a chlywodd am gynllun Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP) a px Group ar gyfer Canolfan Twf Glân. Nod y cynllun yw sefydlu cyfleuster arloesol lle gall busnesau ddenu buddsoddiad uniongyrchol a chreu swyddi.

Gobaith arall y cynllun yw trawsnewid ardal fawr o’r porthladd gweithredol yn ardal o fuddsoddiad mewn seilwaith gwyrdd, twf uchel. Mae wedi’i ddylunio i ddenu cwmnïau sy’n ymwneud â diwydiannau arloesol fel deunyddiau batri, prosesu metelau mwynol prin, a gweithgynhyrchu ynni gwyrdd.

Yn gynharach y diwrnod hwnnw, ymwelodd yr Ysgrifennydd â Dow, cwmni gwyddorau deunyddiau ar Heol Caerdydd yn y Barri. Mae’r cwmni’n gweithgynhyrchu siliconau i’w defnyddio yn y diwydiannau modurol, awyrofod, seilwaith ynni, adeiladu ac eraill ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Mae’n cyflogi dros 600 o bobl, y mwyafrif ohonynt yn byw ym Mro Morgannwg, ac mae ganddo bartneriaeth â channoedd o gyflenwyr – llawer ohonynt yn y Barri a’r cyffiniau, ac ar draws y De.

Clywodd Ysgrifennydd Cymru sut mae Dow yn cyfrannu at dwf yr economi leol ac am gynlluniau’r cwmni ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:

Fy nghenhadaeth bwysicaf yw sicrhau buddsoddiad a thwf i Gymru, felly roedd hi’n wych clywed am gynlluniau cyffrous Porthladd y Barri ar gyfer Canolfan Ynni Glân, a fydd yn denu busnesau a buddsoddwyr, ac yn helpu i gyflawni ein cenhadaeth o wneud Prydain yn archbŵer ynni glân.

Rydyn ni’n awyddus i weithio mewn partneriaeth â busnesau i sbarduno twf, cyfleoedd a ffyniant, felly roedd hi’n wych treulio amser yn Dow hefyd i weld y gwaith maen nhw’n ei wneud i wireddu’r uchelgeisiau hyn yn y De.

Dywedodd Ralph Windeatt, Pennaeth Datblygu Busnes Grŵp ABP:

Roedd hi’n bleser croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Borthladd y Barri i drafod ein cynlluniau ar gyfer Canolfan Twf Glân.

Mae pum porthladd Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yn ne Cymru eisoes yn ganolfannau pwysig yn y broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy gwyrdd. Gyda’n partneriaid px Group, rydyn ni’n dymuno trawsnewid Porthladd y Barri i dyfu’r buddsoddiad mewn seilwaith twf uchel, carbon isel. Bydd y cynlluniau hyn yn adeiladu ar y seilwaith carbon isel sydd yn ei le eisoes, gan gynnwys cynhyrchu ynni solar, ynni gwynt a hydrogen gwyrdd gyda’n partneriaid yn EDF Hynamics ac ESB International.

Bydd ein cynlluniau ar gyfer Canolfan Twf Glân yn creu swyddi, yn denu mewnfuddsoddiad, ac yn rhoi hwb i ffyniant a chyfleoedd yn yr ardal leol.

Dywedodd Andrew Laney, Uwch Gyfarwyddwr Gweithgynhyrchu’r Safle yn Dow, y Barri:

Mae Dow yn fusnes allweddol yn y De o ran y gymdeithas a’r economi. Rydyn ni’n falch bod y siliconau rydyn ni’n eu cynhyrchu i gynifer o sectorau diwydiannol ar draws Cymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop wedi cael eu creu yn y Barri.

Roedd hi’n bleser dangos gweithrediadau’r safle i’r Ysgrifennydd Gwladol a thrafod sut mae cydnabod gwaith gweithgynhyrchu’r De yn ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ei Strategaeth Ddiwydiannol.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 October 2024