Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn dangos ei chefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw, (25 Tachwedd), wedi mynegi ei chefnogaeth i Ddiwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn Erbyn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw, (25 Tachwedd), wedi mynegi ei chefnogaeth i Ddiwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn Erbyn Merched (Diwrnod Rhuban Gwyn)

O heddiw, bydd ymgyrch rhyngwladol, 16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Trais yn Erbyn Merched, yn cychwyn a bydd yn gorffen ar Ddiwrnod Hawliau Dynol ar y 10 Rhagfyr.   Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn arwyddo  llw’r Ymgyrch Rhuban Gwyn, gan addo i beidio byth a chyflawni, cydoddef, neu gadw’n fud  am drais dynion yn erbyn merched, yn ei holl ffurfiau..

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn hanfodol i amlygu’r materion sy’n amgylchu trais domestig a’i oblygiadau i ferched, plant a theuluoedd.   Mae’n symbol o obaith a chryfder, nid yn unig o’r rhai sydd wedi dod drwy drais domestig, ond hefyd o’r cryfder sydd gennym fel cymuned, wrth beidio cydoddef na chadw’n fud am drais domestig.

“Mae trais yn erbyn merched a genethod yn symptomatig o’r ffaith bod ein hagweddau tuag at ferched dal angen newid.   Fel cyn Weinidog dros Ferched, rwy’n  ymwybodol iawn ei bod yn broblem fyd-eang y mae’n rhaid mynd i’r afael a hi er mwyn i ferched a genethod gymryd rhan lawn a chyfartal ym mhob agwedd o gymdeithas.     Mae gan Lywodraeth y DU nifer o fesurau arfaethedig ar waith i fynd i’r afael a threisio a bygythio merched gan gynnwys ymgynghori ar ganlyn (stalking) a chynllun datgelu trais domestig.   Rydym yn ymroddedig i wella’r ymateb i dreisio, i fwy o raglenni hyfforddi ac ymyrraeth fuan, pwerau newydd a gwell cefnogaeth i ddioddefwyr.”

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol hefyd wedi cynnig ei chefnogaeth i ddynion sy’n ddioddefwyr  trais domestig.   Dywedodd:   “Dymunaf hefyd estyn fy nghefnogaeth i ddynion sy’n ddioddefwyr trais domestig - yn aml gall eu cyflwr lithro i’r cysgodion a chael eu hanwybyddu.     Ni ddylai trais byth gael ei oddef na’i gyfiawnhau, ac mae’n hanfodol ein bod hefyd yn deall y gall merched hefyd fod yn rhai sy’n gallu cyflawni trais corfforol, seicolegol, rhywiol ac ariannol.   Daw oed, rol rhyw, hil ac anabledd yn anweladwy  lle digwydd  bygythio, ymosod a thrais.   Rhaid inni ddeall bod trais yn wenwynol i fywyd teuluol, a rhaid inni wneud popeth y gallwn i sicrhau bod dioddefwyr trais domestig yn cael eu diogelu a’u cefnogi.   Yr wythnos hon, byddaf  yn arwyddo’r llw i ddatgan na fyddaf yn cydoddef nac yn cadw’n fud am drais a gobeithiaf y bydd eraill yn gwneud yr un fath.

Nodiadau i’r golygyddion:

1.)     Enwir Diwrnod y Rhuban Gwyn ar ol Ymgyrch y Rhuban Gwyn sy’n gofyn i ddynion wisgo rhuban gwyn i symboleiddio’u haddewid i “byth gyflawni, cydoddef neu gadw’n fud am drais yn erbyn merched”.

2.)    I arwyddo’r llw, fel rhan o Ymgyrch y Rhuban Gwyn ewch i: http://www.whiteribboncampaign.co.uk/makepledge

Cyhoeddwyd ar 25 November 2011