Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n Ymweld â Busnesau Llwyddiannus Abertawe

Fel rhan o’i hymrwymiad parhaus a’i chefnogaeth i dwf busnesau, heddiw (26 Ionawr) cyfarfu ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan a busnesau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Fel rhan o’i hymrwymiad parhaus a’i chefnogaeth i dwf busnesau, heddiw (26 Ionawr) cyfarfu ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan a busnesau yn Abertawe sy’n gwneud cynnydd mawr o ran helpu i yrru economi Cymru ymlaen.

Yn ystod yr ymweliad a’r ddinas, gwelodd Mrs Gillan a’i llygaid ei hun fel y mae’r sector preifat ac entrepreneuriaid yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o greu amgylchedd economaidd mwy sefydlog.

Cyfarfu Mrs Gillan gyntaf a Rachel Flanagan, entrepreneur 24 oed a chyfarwyddwr y cwmni glanhau Mrs Bucket.

Sefydlodd Ms Flanagan Wasanaethau Glanhau Mrs Bucket yn 18 oed, gyda dim ond sugnydd llwch a thaflenni gwybodaeth. Heddiw, mae’n cyflogi 80 o staff, mae ganddi 110 o gleientiaid yn Abertawe, Llanelli a Phort Talbot, dros 90 o gontractau masnachol yn ymestyn o Saundersfoot i Gasnewydd, ac mae’n anelu at gyrraedd trosiant o dros £1m yn y chwe mis nesaf.

Meddai Ms Flanagan: “Rydym wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd safonau hynod uchel o ran gofal cwsmer a glanhau, yn y maes masnachol a domestig fel ei gilydd. Gwn y bydd 2012 yn flwyddyn wych i mi, i’r tim ac i fy musnes.”

Bu iddynt gyfarfod yng nghanolfan un o gontractau newydd Mrs Bucket, sef Trojan Electronics yn Swansea Vale. Mae’r cwmni trwsio ac adnewyddu nwyddau sy’n ehangu’n gyflym wedi cyhoeddi’n ddiweddar ei fwriad i greu 60 o swyddi newydd yn Abertawe dros y 18 mis nesaf, ac fe sicrhaodd le  ar Restr Fast Track 100 y Sunday Times yn 2010.

Yn dilyn yr ymweliad aeth Ysgrifennydd Cymru ymlaen i ganol dinas Abertawe ac i ddatblygiad newydd £25 miliwn y Pentref Trefol. Yno cyfarfu a chynrychiolwyr o Mi-space sydd wedi ymgymryd a’r gwaith ar y prosiect ar ran Cymdeithas Dai Coastal Housing. Mae’r prosiect wedi hyrwyddo cyfranogaeth gymunedol drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, profiad gwaith, ymweliadau addysgol a chefnogaeth ar gyfer elusennau a mentrau lleol.

Dywedodd Alan Hope, Prif Weithredwr Grŵp Midas (Rhiant-gwmni Mi-space):

“Rydym yn falch mai ni yw’r contractwyr ar brosiect y Pentref Trefol sy’n un o’r cynlluniau adfywio mwyaf arwyddocaol o’i fath yn Abertawe ers degawdau. Mae gweledigaeth eofn Coastal Group, ynghyd ag ‘effaith lluosydd’ gwario arian ar waith adeiladu wedi creu swyddi lleol, wedi cynnal y gadwyn gyflenwi leol a chynhyrchu datblygiad defnydd cymysg a fydd yn helpu i adfywio canol y ddinas yn awr ac yn y dyfodol.”

Yn dilyn ei hymweliadau, dywedodd Mrs Gillan:

“Mae creu twf hirdymor a swyddi hirdymor yn flaenoriaeth allweddol i ni yng Nghymru, ac mae’r busnesau hyn yr wyf wedi’u cyfarfod heddiw yn ymgorffori’r weledigaeth honno’n llwyr.

“Mae Rachel Flanagan yn fenyw wirioneddol ysbrydoledig. Mae ei hysbryd entrepreneuraidd wedi caniatau iddi ddatblygu’r hyn a oedd unwaith yn fusnes un fenyw a’i droi’n gwmni hynod lwyddiannus a llewyrchus. Mae’r llu o wobrau a’r anrhydeddau a dderbyniodd yn tystiolaethu i’w chymwysterau cadarn fel gwraig fusnes, ac mae’n llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth a roddir iddi nawr gan fyd busnes.

“Roedd yn wych hefyd i gwrdd a Trojan Electronics yn eu canolfan newydd drawiadol. Maent yn chwarae rhan allweddol o ran creu a chynnal swyddi drwy ehangu eu cwmni’n barhaus.

“Crewyd argraff fawr arnaf o weld gymaint o effaith y mae datblygiad y Pentref Trefol newydd wedi ei gael ar adfywio canol y ddinas.  Mae’n enghraifft wych o’r ffordd y gall busnes wir ymgysylltu’n gadarnhaol a’r gymuned drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer swyddi a dysgu.

“Does dim amheuaeth ein bod mewn amodau economaidd anodd iawn. Fodd bynnag, mae’r busnesau hyn wedi torchi’u llewys a dangos bod lle gwirioneddol i fod yn entrepreneuraidd, i ehangu eu busnes presennol ac, yn bwysicach na hynny, i greu swyddi cynaliadwy yng Nghymru. Mae eu cymhelliant a’u penderfyniad i’w ganmol.”

Cyhoeddwyd ar 26 January 2012