Yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â llwyddiannau busnes Gorllewin Cymru
Alun Cairns: Mae’r busnesau yma’n dangos sut gall ychydig o ymgais Cymreig fynd yn bell.
O frandiau denim byd-eang a ffafrir gan rai o’r teulu brenhinol i derfynfa nwy sy’n helpu i roi hwb i ddiogelwch ynni’r Deyrnas Unedig, mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns wedi ymweld ag arfordir Gorllewin Cymru heddiw i gwrdd ag aelodau o weithlu’r rhanbarth sy’n helpu i yrru economi cefn gwlad y genedl yn ei blaen. (14 Mehefin).
Ymwelodd yr Ysgrifennydd Gwladol â’r brand denim premiwm Hiut Denim Co – sef label a ddaeth i sylw byd-eang pan wisgodd Duges Sussex un o’i ddyluniadau yn ystod ymweliad â Chaerdydd ym mis Ionawr.
Ers hynny mae’r cwmni teulu a leolir yn Aberteifi wedi cael llwyth o sylw ac archebion yn fyd-eang, gan arwain at symud i eiddo mwy yn y dref yng Ngheredigion yr hwyrach eleni a rhestr aros o dri mis ar gyfer archebion o bob cwr o’r byd.
Croesawyd Yr Ysgrifennydd Gwladol - a roddodd gefnogaeth i Hiut yn ystod arddangosfa ar y cyd yn ystod Wythnos Grefftau Llundain gyda dylunwyr celfi Danaidd, Carl Hansen & Son, i bencadlys y cwmni gan David Hieatt. Sefydlodd David y brand gyda’i wraig, Clare yn 2011. Gan fod yn hynod falch o’u gwreiddiau Cymreig, symudodd y pâr o Lundain yn ôl i Aberteifi gan fynd ati i atgyfodi hanes gweithgynhyrchu denim y dref pan fu’n gartref i wneuthurwr dillad, Dewhirst.
Cyflwynodd Mr Hieatt Mr Cairns i’r tîm o brif feistri, y’u gelwir o ganlyniad i’w degawdau o brofiad ym maes denim yn Dewhirst. Mae pob un yn enghraifft fyw o arwyddair y cwmni sef “gwnewch un peth yn dda” trwy grefftio pob pâr o jîns yn unigol ar gyfer cwsmeriaid o bedwar ban y byd.
Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns:
Mae Hiut yn gwmni sy’n ymfalchïo mewn gwneud un peth yn dda - gan osod ei hun ar wahân i gewri’r diwydiant a’u dulliau hynod fecanyddol a helpu i yrru’r stamp ‘Gwnaed yng Nghymru’ o amgylch y byd.
Trwy ei gynlluniau i ehangu a buddsoddi parhaus yn yr economi leol, mae Hiut Denim Co yn enghraifft ddisglair o gwmni sy’n ceisio manteisio ar y galw byd-eang am ei nwyddau – a dangos sut gall ychydig o ymgais Cymreig fynd yn bell.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i roi cefnogaeth i unrhyw fusnes yng Nghymru sy’n ceisio dilyn yn ei olion troed a manteisio ar bob cyfle ar agor iddynt i dyfu ac ehangu i farchnadoedd newydd.
Meddai David Hieatt, cyd-sylfaenydd ‘Hiut Denim Co’:
Dros y chwe mis diwethaf rydym wedi profi’r cyfnod twf mwyaf ym mywyd y cwmni. Rydym eisoes 60% yn uwch na 2017. Mae hyn diolch yn bennaf i’r sylw yn y wasg a dderbyniom ym mis Rhagfyr 2017 ac, wrth gwrs, ers i Meghan Markle gael ei gweld yn gwisgo ein jîns ym mis Ionawr.
Ers hynny rydym wedi cyflogi pedwar prentis newydd yn y ffatri. Rydym hefyd wedi tyfu’n rhy fawr i’n ffatri bresennol a byddwn yn symud i ffatri fwy yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddwn yn cyflogi rhagor o brif feistri i weithio yn y ffatri unwaith y byddwn wedi agor y ffatri newydd.
Mae Hiut Denim Co. yn gwmni denim byd-eang sy’n creu jîns ar gyfer dynion a menywod creadigol y byd. Mae ei gyrch yn union fel yr oedd ar y diwrnod cyntaf: ennill swyddi yn ôl i 400 o bobl.
Rydym yn ymladd am yr hawl i wneud. Mae hon yn dref wneuthurwyr. Rydym yn trosglwyddo’r sgiliau hynny i’r genhedlaeth nesaf.
Hefyd pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Gwladol dirwedd ynni-gyfoethog y rhanbarth trwy ymweld â Therfynfa LNG South Hook yn Aberdaugleddau. Mae’r Derfynfa wedi bod yn mewnforio nwy naturiol hylifedig (LNG) o Qatar ers iddi gael ei chomisiynu’n llawn yn 2010. Â’r capasiti i brosesu tua 20% o anghenion nwy naturiol presennol y Deyrnas Unedig, mae’n un o’r terfynfeydd mwyaf yn Ewrop.
Ychwanegodd Alun Cairns:
Mae South Hook yn chwarae rôl hanfodol yng ngwead sector ynni Cymru ac mae’r cyfleuster yn Aberdaugleddau’n elfen allweddol o sicrhau diogelwch ynni y Deyrnas Unedig. Gan gyflogi ychydig dros 200 o bobl yn Aberdaugleddau, a’r mwyafrif llethol ohonynt yn dod o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, mae’n gyflogwr allweddol yn rhanbarth Gorllewin Cymru.
Mae buddsoddi gan Qatar yn Llundain, gan gynnwys cyflwyno ehediad dyddiol Qatar Airways o Doha i Gaerdydd yn ddiweddar, yn dangos bod y Deyrnas Unedig yn hynod ddeniadol i fuddsoddwyr tramor, gan greu swyddi a thwf gartref.
Meddai Rob Else, Rheolwr Cyffredinol Terfynfa LNG South Hook:
Roedd yn falch iawn gennym groesawu’r Ysgrifennydd Gwladol i’n Terfynfa, lle y seilir dibynadwyedd gweithrediadol ar y safonau diogelwch o’r radd uchaf.
Daeth diwrnod Mr Cairns i ben ag ymweliad â stiwdios Mumph Cartoons ger Aberteifi. Er bod enw Cymru fel magwrfa dawn greadigol ac animeiddio wedi bod yn tyfu yn fyd-eang yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Mal Humphreys wedi bod yn gweithio fel cartwnydd llawn amser ers 1991 ac mae ei waith wedi’i gynnwys ar y dalennau llydain ac ar sgriniau teledu S4C.