Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymry yn croesawu £200m o hyblygrwydd diwedd blwyddyn ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru

Heddiw croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan gadarnhad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys y bydd y Llywodraeth yn caniatau i Lywodraeth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan gadarnhad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys y bydd y Llywodraeth yn caniatau i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddefnyddio oddeutu £200m o hyblygrwydd diwedd blwyddyn eleni.

Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn adolygiad ledled y DU o hyblygrwydd  diwedd blwyddyn gan Adrannau’r Llywodraeth a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ac mae’n rhan o gyhoeddiad ehangach Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch lleihau gwariant yn dibynnu ar faint o danwario a fu.  

Meddai Mrs Gillan: “Yn dilyn yr adolygiad, mae’n amlwg bod angen i ni dynhau’r mynediad at hyblygrwydd diwedd blwyddyn ond wrth gadw at yr agenda o barch, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu defnyddio stociau penodol o hyblygrwydd diwedd blwyddyn eleni. 

“Mae hyn yn golygu er gwaethaf yr heriau enfawr a wynebwn o ran y gyllideb ein bod wedi llwyddo i sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu defnyddio oddeutu £200m o arian hyblygrwydd diwedd blwyddyn eleni.  Rwy’n gwybod y bydd hyn o fudd sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”

Nodiadau:

Mae’r stociau o hyblygrwydd diwedd blwyddyn, mewn gwirionedd, yn cynrychioli tanwariant sydd wedi cronni dros y blynyddoedd blaenorol.

Mae’r Llywodraeth wedi bod yn adolygu’r weithred o hawlio hyblygrwydd diwedd blwyddyn eleni fel rhan o’i gwaith i leihau’r diffyg yng nghyllideb y DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 July 2010