Ysgrifennydd Cymru’n croesawu ymddangosiad Danny Alexander gerbron un o Bwyllgorau’r Cynulliad
Mae ymddangosiad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys gerbron Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw [Dydd Llun 22 Tachwedd] yn cadarnhau…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Mae ymddangosiad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys gerbron Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw [Dydd Llun 22 Tachwedd] yn cadarnhau agenda parch y Llywodraeth rhwng Whitehall a Bae Caerdydd, meddai Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan.
Danny Alexander oedd y Gweinidog Cyntaf o Lywodraeth y DU i annerch Pwyllgor y Cynulliad a gofynnwyd cwestiynau iddo gan Aelodau’r Cynulliad ynghylch yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae gwleidyddiaeth wedi camu i mewn i gyfnod newydd - cyfnod o barch a chydweithio. Ymddangosiad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys gerbron y Pwyllgor heddiw yw’r enghraifft ddiweddaraf o’n hagenda parch ar waith. Mae hyn yn adeiladu ar nifer o ymweliadau eraill, gan gynnwys yr adeg y bu i mi annerch y Cynulliad ar y Gyllideb frys ym mis Mehefin.
“David Cameron oedd y Prif Weinidog cyntaf i ymweld a’r Senedd ychydig ddyddiau ar ol cychwyn yn ei swydd, ac fe’i dilynwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg ym mis Medi. Yr wythnos ddiwethaf euthum a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau Iain Duncan Smith i gwrdd a’r Prif Weinidog Carwyn Jones ym Mae Caerdydd. Mae’r Llywodraeth glymblaid wedi addo cydweithio a’r Cynulliad er budd y genedl, ac rwy’n gobeithio y ceir sawl enghraifft arall eto o Weinidogion y DU yn ymweld a Bae Caerdydd yn y dyfodol.”