YSGRIFENNYDD CYMRU’N CROESAWU GOSTYNGIAD MEWN DIWEITHDRA: YSTADEGAU’R FARCHNAD LAFUR WEDI’U CYHOEDDI HEDDIW
Mae Ysgrifennydd Gwlad Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw (15fed Chwefror), sy’n dangos bod lefelau cyflogaeth…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Mae Ysgrifennydd Gwlad Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw (15fed Chwefror), sy’n dangos bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu a bod lefelau diweithdra wedi gostwng ryw ychydig. Dywedodd Ysgrifennydd Cymru ei bod yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU a Chymru yn parhau i gydweithio er mwyn rhoi hwb i swyddi a thwf yng Nghymru.
Dangosodd arolygon y Sefydliad Llafur Rhyngwladol bod lefel a chyfradd cyflogaeth wedi codi tra bod lefel a chyfradd diweithdra wedi gostwng ryw ychydig. Mae lefel a chyfraddau’r anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn arwyddocaol hefyd.
Dywedodd Mrs Gillan: “Roedd ystadegau’r mis diwethaf yn dynodi bod rhywfaint o newyddion cadarnhaol wedi bod; dyma’r ail gyfres yn olynol o ffigurau i ddangos bod diweithdra’n gostwng a chyflogaeth yn codi ac rwy’n croesawu hynny.
“Er bod y gyfradd ddiweithdra’n parhau’n annerbyniol o uchel yn 9.0%, rydym ni’n gweld rhai arwyddion calonogol bod pethau’n gwella. Er hynny, mae’n rhaid i ni gydnabod bod adfer ar ol y diffyg gwaethaf mewn hanes heb fod yn ystod cyfnod o ryfel yn cymryd amser. Ddoe, dywedodd y Canghellor bod gennym ni nifer o broblemau i’w hwynebu yn y wlad hon, ond mai delio a’n dyledion ni yw un o’n blaenoriaethau ac rwy’n ategu hynny.
“Rydw i’n gwbl ymroddedig i gydweithio a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau cymaint ag y bo modd o gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru ac, yn ddiweddar iawn, cefais gyfarfod gyda’r Gweinidog Busnes a Menter, Edwina Hart, i drafod y mater. Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i hybu Cymru fel cyrchfan busnes. Mae gennym ni weithlu, lleoliad a gwybodaeth fusnes y gallwn ni fod yn falch ohonynt yng Nghymru ac rydw i’n hyderus bod y ffactorau hyn yn parhau’n ddewis cystadleuol ac atyniadol i fuddsoddwyr yn y wlad hon ac yn rhyngwladol.”
**Nodiadau i olygyddion: **
- Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 68.5%, cynnydd o 0.8% ar y chwarter diwethaf
- Roedd y gyfradd ddiweithdra yn 9.0%, gostyngiad o 0.3% ar y chwarter diwethaf, ond 0.7% yn uwch na’r un chwarter yn 2010
- Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn 24.6%, gostyngiad o 0.7% ar y chwarter diwethaf a gostyngiad o 1.3% ar yr un chwarter y llynedd
- Roedd cyfradd ddiweithdra nifer yr hawlwyr budd-daliadau yn 5.6% ym mis Ionawr, cynnydd o 0.1% ers mis Rhagfyr 2011 a 0.6% yn uwch o gymharu a’r llynedd
- Roedd lefel y Bobl Ifanc Sy’n Hawlio Budd-daliadau Diweithdra yn 28,200, cynnydd o 3,600 ar fis Ionawr 2011.
- Mae diweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn cyfrif y rhai sydd allan o waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi mynd ati i chwilio am waith yn ystod y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn ystod y pythefnos nesaf; a hefyd y rhai sydd allan o waith, wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i ddechrau yn ystod y pythefnos nesaf.