Ysgrifennydd Cymru yn croesawu prynwr i Peacocks
Wrth ymateb i’r newyddion bod cwmni ffasiwn Peacocks wedi cael ei brynu gan Edinburgh Woollen Mill ar ol bod yn nwylo’r gweinyddwyr, dywedodd…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/default_news_organisation_image_data/file/203/s300_UKG_Logo__2_.png)
Wrth ymateb i’r newyddion bod cwmni ffasiwn Peacocks wedi cael ei brynu gan Edinburgh Woollen Mill ar ol bod yn nwylo’r gweinyddwyr, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Rwy’n falch eu bod wedi gallu dod o hyd i brynwr i Peacocks. Bydd hyn yn sicrhau bod gan y cwmni ffordd ymlaen gynaliadwy, a bydd miloedd o swyddi’n cael eu diogelu. Mae’r prynu yn arwydd o ddechrau newydd i’r cwmni ac i nifer o’r cyflogeion, ond caf ar ddeall y bydd rhai swyddi’n diflannu yn anffodus.
“Mae’r Llywodraeth yn dal i ganolbwyntio ar greu’r amodau priodol ar gyfer twf economaidd, ac rwyf yn hyderus y bydd Cymru’n dal yn lle cystadleuol i wneud busnes.”