Neges Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi
Mae Jo Stevens yn dathlu llwyddiannau Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Welsh Secretary Jo Stevens.
Am y tro cyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae’n bleser mawr gennyf ddymuno Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb ledled Cymru!
Yn dilyn yr etholiad mis Gorffennaf diwethaf, bu inni addo i gyflawni newid a dyna’n union beth rydym wedi dechrau ei wneud.
Bu inni addo strydoedd diogelach, ynni gwyrdd, a phwysicaf oll, swyddi newydd a thwf economaidd i bobl ledled Cymru. Yn sail i hyn i gyd oedd yr addewid i drawsnewid y berthynas rhwng llywodraethau Cymru a’r DU – partneriaeth sy’n cyflawni i bobl Cymru.
Ac rydym wedi cychwyn ar y gwaith i gyflawni ein cenadaethau canllaw ledled y wlad. Bydd y gwaith hwn yn parhau i symud yn ei flaen yn gyflym yn ystod 2025.
Rydym eisiau system iechyd sy’n addas i ddyfodol Cymru ac yng Nghyllideb yr Hydref bu i ni ddarparu’r setliad mwyaf erioed o £21 biliwn i Lywodraeth Cymru. Bellach mae ganddi £1.7 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig gwella’r GIG a lleihau amseroedd aros.
Mae gennym ddwy lywodraeth yng Nghymru bellach, sy’n cydweithio i sicrhau ein bod yn diwygio’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus fel eu bod yn cyflawni i chi.
Wrth i ni wneud ein strydoedd yn fwy ddiogel, gall pobl yng Nghymru ddisgwyl gweld mwy o’r heddlu allan yn y gymuned.
Rydym yn buddsoddi mewn 13,000 o swyddogion cymdogaeth, swyddogion cymorth cymunedol (PCSO) a chwnstabliaid arbennig ledled Cymru a Lloegr, a bydd y swyddogion hyn yn gweithio i adfer ffordd gweledol a hygyrch o blismona y mae ein cymunedau yn ei haeddu.
Mae cenhadaeth Llywodraeth y DU i wneud Prydain yn un o gewri’r maes ynni glân yn darparu cyfleoedd anferthol i Gymru.
Yn gynharach yr wythnos hon, roedd gen i’r pleser mawr o gyhoeddi buddsoddiad mawr o £600 miliwn ym mharciau ynni gwynt ar y tir Bute Energy. Bydd y parciau hyn yn cael eu hadeiladu ledled Cymru a byddant yn cynhyrchu’r ynni glân rydym ei angen, a chreu 2,000 o swyddi wrth wneud hynny.
Mae’r buddsoddiad hwn yn fargen o bwys i’r sector yng Nghymru, ac mae’n sicrhau ein lle fel canolbwynt ar gyfer buddsoddiad mawr mewn ynni glân.
Yn yr un modd, bydd y cyfle anhygoel i greu ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn rhan hollbwysig o’n cenhadaeth ynni glân. Gall Cymru arwain y byd yn creu tyrbinau anferth ym moroedd ein harfordir a fydd yn helpu i ostwng biliau ynni a chreu swyddi i’r dyfodol. Mae denu mwy o’r buddsoddi hyn i Gymru yn flaenoriaeth eleni.
Yn fwy na dim, ein cenhadaeth yw sbarduno twf economaidd.
Rydym eisoes wedi gweld buddsoddiad anferth yn dod i Ogledd Cymru yn Eren Holding’s a Kellanova, gan greu a sicrhau cannoedd o swyddi.
Mae’r ddwy ardal fuddsoddi yng Nghaerdydd a Chasnewydd ac yn Wrecsam a Sir y Fflint yn rhan hanfodol o’n gwaith gyda Llywodraeth Cymru i roi hwb anferthol i gryfhau sectorau fel y diwylliannau creadigol, gwyddorau bywyd a gweithgynhyrchu uwch.
Rydym wedi cymeradwyo porthladdoedd rhydd Cymru i ddatgloi biliynau mewn buddsoddiadau preifat a chreu bron i 20,000 o swyddi yn ein cymunedau porthladd fel Aberdaugleddau, Port Talbot a Chaergybi.
Bydd ein cynlluniau yn ein gweld yn sbarduno twf yng nghymunedau unigol. Yn gynharach y mis hwn, bu inni gyhoeddi pecyn cyllid gwerth £15 miliwn ar gyfer dau brosiect diwylliannol mawr yng Nghymru – £10 miliwn ar gyfer Venue Cymru yng Nghonwy a £5 miliwn ar gyfer Pont Gludo Casnewydd. Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod y tirnodau hyn yn parhau i fod yn adnoddau gwerthfawr ar gyfer eu hardaloedd nhw. Nid diogelu treftadaeth yn unig mae’r prosiectau hyn; maen nhw hefyd yn ymwneud â sbarduno twf economaidd, yn creu swyddi, ac yn arddangos Cymru fel gwlad sy’n arwain ym meysydd twristiaeth a diwylliant.
Ac mae ein buddsoddiad yng nghymuned Port Talbot yn destament i’n penderfyniad i sbarduno twf, ac i beidio a derbyn dirywiad yn ein hardaloedd diwydiannol.
O fewn wythnos o ddod i’r swydd, bu inni sicrhau bargen well gyda Tata Steel. Ac ychydig wythnosau’n ddiweddarach, dechreuodd degau o filiynau o bunnoedd gael eu rhyddhau i’r gymuned – arian nad oedd wedi’i wario’n flaenorol er bod angen clir i gefnogi’r gweithlu, busnesau lleol a’r gymuned.
Hyd yma mae dros £50 miliwn wedi’i gyhoeddi. Mae’r arian hwnnw yn ariannu mentrau ym Mhort Talbot sy’n amrywio o greu safle diwydiannol gwerth £8.2 miliwn yn y dref, gan greu cynhyrchion newydd i’r diwydiannau dur a metel, i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant unigol i weithwyr dur Tata neu eu teuluoedd.
Yn y flwyddyn i ddod, byddaf yn sicrhau bod gweddill arian y Bwrdd Pontio yn cael ei fuddsoddi yng nghymuned Port Talbot.
Mewn dim ond ychydig fisoedd, mae Llywodraeth newydd y DU wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda thrawsnewid Cymru, gan adeiladu ar ein cryfderau o ran diwydiant, ynni gwyrdd, a phwysicaf oll, ein pobl. Mae rhagor o waith i’w wneud, ond rwy’n gwybod y bydd Cymru yn parhau i fod yn le gwych i gynnal busnes.
Hoffwn anfon fy nymuniadau gorau i bawb sy’n dathlu ein diwrnod cenedlaethol yng Nghymru a ledled y byd.