Datganiad i'r wasg

Busnesau Bychain Cymru yn derbyn hwb fawr drwy gynllun band eang y Llywodraeth

Alun Cairns: "Mae Cymru yn gartref i rai cwmnïau cyffrous ac arloesol, sy’n cipio’r cyfleoedd y mae band eang cyflym iawn yn ei ddarparu"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government
  • Mae cynllun y Llywodraeth wedi helpu creu mwy o swyddi a chynyddu elw i BBaChau
  • Cyflenwyr bychain sydd wedi elwa fwyaf o’r cynllun
  • Mae cyflenwyr yn awr yn hepgor cost gosod o ganlyniad i’r cynllun

Mae mwy na 55,000 o fusnesau bychain a chanolig (BBaChau), sy’n cyflogi hyd at un filiwn o bobl drwy’r DU, wedi manteisio ar gynllun y Llywodraeth i hybu eu cysylltedd band eang, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw. Mae 5% o’r busnesau hyn wedi’u lleoli yng Nghymru, gyda thros 2,800 o fusnesau wedi derbyn y cynnig.

Roedd Cynllun Talebau Cysylltiad Band Eang y Llywodraeth wedi cael ei gynllunio er mwyn cael BBaChau i symud i farchnad ddigidol gyflymach a chael eu cysylltu â band eang cyflym iawn.

Y mae’r fenter – sy’n awr wedi dyrannu’r cyfan o’r cyllid o £40m a oedd ar gael ers Ebrill 2015 – wedi rhoi cyfle i fusnesau ymgeisio am grantiau o hyd at £3,000 yr un er mwyn cynnwys y costau o osod band eang cyflymach a gwell. Y mae’r cynllun, sy’n llwyddiant ysgubol, wedi helpu amrywiaeth o fusnesau, yn cynnwys penseiri, gwerthwyr tai, mecanyddion, cydlynwyr digwyddiadau, caffis, dylunwyr graffig ac arlwywyr.

Dywedodd Ed Vaizey, Y Gweinidog Economi Ddigidol:

Mae ein Cynllun Talebau Cysylltiad Band Eang wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae mwy na 55,000 o fusnesau bychain drwy’r DU wedi manteisio ar y cyfle, mae llawer ohonyn nhw eisoes yn gweld hwb sylweddol i’w busnesau o ganlyniad i gyflymder band eang gwell.

Rydym yn trawsnewid y dirwedd ddigidol yn y DU, yn cynorthwyo dinasoedd i greu swyddi newydd ac yn denu buddsoddiad er mwyn gwneud y DU yn gyrchfan fusnes ddymunol“.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae Cymru yn gartref i rai cwmnïau cyffrous ac arloesol, sy’n cipio’r cyfleoedd y mae band eang cyflym iawn yn ei ddarparu.

Mae’r cynllun talebau band eang wedi bod yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru, yn galluogi dros 2,800 o fusnesau i fod un cam ar y blaen o’u cystadleuwyr.

Dros y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gyflwyno band eang cyflym iawn drwy Gymru er mwyn sbarduno twf, hybu economi Cymru a sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn gallu cael budd o’r chwyldro digidol.

Rhanbarth Talebau a roddwyd
Yr Alban 2,899
Cymru 2,887
Gogledd Iwerddon 2,411
Gogledd-orllewin Lloegr 8,260
Gogledd-ddwyrain Lloegr 1,721
Swydd Efrog a Humber 7,377
Canolbarth Lloegr 6,799
Llundain 14,545
Dwyrain Lloegr 1,459
De-ddwyrain Lloegr 3,114
De-orllewin Lloegr 3,630

Roedd busnesau yn gallu defnyddio eu taleb i gael cysylltiad band eang gan amrywiaeth eang o gyflenwyr. Roedd mwy na 800 o gyflenwyr yn cymryd rhan yn y cynllun ac roedd mwyafrif mawr (86 y cant) o werth y cynllun yn mynd i gyflenwyr bychain o gwmpas y DU. Roedd y Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd, sef y “tri mawr” – BT, Virgin Media a TalkTalk – yn gyfrifol am 14 y cant o gyfanswm gwerth y talebau yn unig.

Mae busnesau sy’n elwa o gysylltiad band eang a gafodd ei gyflawni gan y cynllun yn adrodd, ar gyfartaledd, am gynnydd o £1,300* y flwyddyn mewn elw, gydag un swydd newydd yn cael ei chreu am bob pedwar cysylltiad newydd. Y mae hyn yn golygu am bob £1 a fuddsoddwyd yn y cynllun gan Lywodraeth y DU, bydd mwy na £5 yn cael ei ddychwelyd i economi’r DU.

Mae’r buddion y mae busnesau bychain yn eu gweld o ganlyniad i gysylltiad cyflymach yn cynnwys:

  • Tyfu a chael mynediad at farchnadoedd newydd drwy well cyfathrebu gyda chwsmeriaid a chyflenwyr.
  • Mwy o ddiogelwch drwy storio data wrth gefn yn ddiogel.
  • Mwy o gynhyrchedd a gwell gwasanaeth cwsmer drwy gyflymder lanwytho a lawrlwytho cyflymach.
  • Mwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gan weithwyr.

Tra bod y cynllun yn awr wedi dod i ben, mae’i lwyddiant wedi ysgogi’r farchnad, gyda rhai cyflenwyr yn cynnig cefnogaeth debyg yn awr drwy gynnig gosod a darparu cyfarpar yn rhad ac am ddim. Y mae hyn yn golygu fod y rhai hynny na wnaeth ymgeisio am dalebau Cysylltiad Band Eang y Llywodraeth gyda digon o amser i wneud cais am hwb band eang rhad ac am ddim neu’n rhatach ar gyfer eu busnesau.

Mae gwybodaeth bellach am fuddion y cynllun ar gael yn www.connectionvouchers.co.uk

Dinas Nifer o Dalebau a roddwyd
Aberdeen 367
Abertawe 530
Belfast 2,142
Birmingham 3,273
Bournemouth 901
Brighton a Hove 1,185
Bryste 2,222
Caerdydd 2,083
Caeredin 1,200
Caerefrog 751
Caergrawnt 826
Caerliwelydd 52
Caerloyw 178
Caerlŷr 590
Casnewydd 274
Chelmsford 79
Coventry 1,458
Derby 445
Derry 269
Dundee 80
Exeter 153
Glasgow 902
Hull 1,137
Inverness 77
Ipswich 246
Leeds 4,738
Lerpwl 1,844
Llundain 14,545
Manceinion Fwyaf 6,013
Middlesbrough 247
Milton Keynes 490
Newcastle 1,376
Norwich 85
Nottingham 419
Perth 133
Peterborough 120
Plymouth 110
Portsmouth 315
Preston 351
Reading 93
Rhydychen 590
Sheffield 751
Southampton 297
Southend-On-Sea 103
Stirling 140
Stoke 219
Sunderland 98
Swindon 66
Trefi Caint 144
Wolverhampton 395
Cyfanswm 55,102
  • seiliedig ar arolwg o sampl o fusnesau gyda chysylltiadau’n bodoli am gyfnod o rhwng 3 a 9 mis.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 November 2015