Annog myfyrwyr brwd yng Nghymru i Ymgeisio Nawr am gyllid i fyfyrwyr
Ceisiadau ar agor i fyfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru
Dylai myfyrwyr brwd yng Nghymru ymgeisio am eu cyllid i fyfyrwyr cyn gynted â phosibl. Dyma’r neges gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) wrth i geisiadau agor ar gyfer blwyddyn academaidd 19/20.
Gall myfyrwyr israddedig amser llawn ymgeisio am gyllid ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk hyd yn oed os nad ydynt wedi cael cadarnhad o le yn y brifysgol eto.
Y llynedd fe dderbyniodd SLC bron i 70,000 o geisiadau gan fyfyrwyr israddedig amser llawn o Gymru, gyda’r mwyafrif o’r rhain wedi eu derbyn cyn y dyddiad cau. Y dyddiad cau i fyfyrwyr newydd gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 19/20 yw 10 Mai 2019.
Meddai’r Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Derek Ross: “Y llynedd fe ymgeisiodd y mwyafrif o fyfyrwyr am eu cyllid yn gynnar, sy’n wych. Gobeithio y byddwn yn gweld y tuedd hwn yn parhau. Ymgeisio am eich cyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau yw’r ffordd orau i sicrhau’ch bod yn cael trefn ar eich cyllid cyn dechrau’r tymor.”
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau byr yn trafod popeth sydd angen i chi ei wybod am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 19/20, yn cynnwys faint allwch chi ei gael a sut i ymgeisio, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ar ad-dalu a llog.
Gellir gweld y Rhestr Chwarae yn cynnwys yr holl ffilmiau yma:: http://bit.ly/Repaying Gallwch weld y rhestr chwarae yn Gymraeg yma: http://bit.ly/Repaying Dylai myfyrwyr hefyd ddilyn sianeli facebook facebook.com/SFWales a twitter @SF_Wales CMC ar gyfer y newyddion diweddaraf.
Ymysg awgrymau eraill am wneud y broses ymgeisio mor ddidrafferth â phosibl mae:
Cael eich Rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort wrth law cyn i chi gychwyn eich cais ar-lein gan y gofynnir i chi ddarparu’r wybodaeth yma yn rhan o’r broses.
Cadwch nodyn o’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwch wrth ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr a sicrhau eich bod yn dewis cyfrinair y byddwch yn ei gofio. Peidiwch â phoeni os byddwch yn ei anghofio gan y byddwch yn gallu ei ailosod eich hun yn defnyddio ein gwasanaeth ailosod cyfrinair.
Dilynwch sianeli facebook facebook.com/SFWales a twitter @SF_Wales CMC ar gyfer y newyddion diweddaraf.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar 0141 306 2120 / press_office@slc.co.uk