Datganiad i'r wasg

Cefnogaeth Llywodraeth y DU i fenywod a merched yng Nghymru

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn derbyn grant o gronfa’r Dreth ar Damponau, ac mae ymgyrchydd ifanc yn cael ei hanrhydeddu â Gwobr Points of Light am ei gwaith ar dlodi mislif.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Molly Fenton's Love Your Period campaign has reduced stigma and highlighted the issue of period poverty in schools across Wales / Mae ymgyrch Love Your Period Molly Fenton wedi lleihau stigma ac wedi tynnu sylw at fater tlodi mislif mewn ysgolion ledled Cymru

Mae ‘Cryfder Sector Cymru’ Cymorth i Ferched Cymru ymhlith 14 o elusennau menywod a merched a fydd yn derbyn cyfran o rownd olaf Cronfa’r Dreth ar Damponau’r Llywodraeth, sy’n werth £11.25.

Mae’r grantiau ar gyfer y DU gyfan yn deillio o TAW a delir ar nwyddau mislif, ac sy’n cael eu buddsoddi’n uniongyrchol mewn prosiectau hanfodol sy’n mynd i’r afael â materion mae menywod a merched yn eu hwynebu.

Yn ystod y chwe blynedd diwethaf, mae Cronfa’r Dreth ar Damponau wedi dyfarnu £79 miliwn, gyda’r rownd olaf hon yn gwneud y cyfanswm yn £90.25 miliwn.

Ym mis Mawrth y llynedd, cyhoeddodd y Canghellor y byddai’r taliad o 5% TAW yr UE ar nwyddau mislif yn cael ei ddileu yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE ar 1 Ionawr 2021, gan leihau costau cysylltiedig y nwyddau hyn yn barhaol.

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cael grant o £507,512 tuag at eu prosiect hwy, sy’n cynnig cymorth wedi’i dargedu a chyfleoedd grantiau agored i aelodau Cymorth i Ferched ledled Cymru sy’n galluogi datblygu, profi a darparu gwasanaethau, gweithgareddau, dulliau, ymchwil neu dechnolegau newydd o safon uchel sydd â’r nod cyffredinol o wella ansawdd bywyd i fenywod a merched sydd wedi’u heffeithio gan drais yn erbyn menywod.

Mae Best Beginnings a White Ribbon Alliance UK hefyd yn rhedeg eu prosiect, Safer Beginnings, ledled y DU, gan gynnwys Cymru.

Ar yr un pryd, cyhoeddodd y Prif Weinidog fod y wobr Points of Light ddiweddaraf wedi’i dyfarnu i Molly Fenton, am ei chyfraniad eithriadol at leihau tlodi mislif. Mae Molly yn rhedeg yr ymgyrch Love Your Period, sy’n ceisio lleihau stigma a thlodi mislif mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru. Mae hi’n cael ei chydnabod am ei gwaith ysbrydoledig drwy wobr bwysig y Prif Weinidog.

Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Nadine Dorries:

Rwyf mor falch bod Cymorth i Ferched Cymru ymhlith y 14 o fudiadau sy’n cael grant tuag at eu prosiectau neilltuol sy’n helpu menywod a merched difreintiedig.

Yn ystod y chwe blynedd diwethaf, mae Cronfa’r Dreth ar Damponau wedi helpu elusennau o bob rhan o’r DU, ac rwyf yn falch dros ben ein bod wedi gallu defnyddio TAW ar nwyddau mislif i helpu’r achosion pwysig hyn.

Hoffwn hefyd longyfarch Molly ar ei gwobr haeddiannol iawn, a diolch iddi am ei gwaith caled diflino.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae helpu mudiadau fel Cymorth i Ferched Cymru, sy’n gwneud gwaith mor hanfodol ar ran goroeswyr trais domestig, mor bwysig. Ac rwyf yn falch bod Cronfa’r Dreth ar Damponau yn cael ei defnyddio’n uniongyrchol i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar fenywod a merched yng Nghymru.

Ac mi hoffwn dalu teyrnged i Molly Fenton, sy’n cael ei chydnabod gan y wobr bwysig hon am ei chyfraniad gwerthfawr. Mae hi wedi gwneud gwaith arbennig iawn i godi ymwybyddiaeth o dlodi mislif, ac i ddechrau sgwrs bwysig sy’n effeithio ar gymaint o fenywod yng Nghymru. Llongyfarchiadau mawr iddi.

Meddai Molly Fenton:

Mae hi’n anrhydedd cael gwobr o’r fath, ac mae mor braf gweld y newidiadau rhyfeddol yn digwydd i drechu tlodi misglwyf a stigma ar hyd a lled y wlad. Nid yw fy ngwaith wedi’i wneud eto, ac ni fyddaf yn rhoi’r gorau iddi nes bydd pob unigolyn sy’n cael mislif yn cael yr urddas maent yn ei haeddu.

Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr, Cymorth i Ferched Cymru:

Rydym yn falch iawn o fod yn derbyn cyllid gan Gronfa’r Dreth ar Damponau. Bydd prosiect Cryfder Sector Cymru yn galluogi ein gwasanaethau arbenigol i aelodau i ymateb i anghenion goroeswyr, ac i ddatblygu neu ddarparu gweithgareddau a dulliau newydd o safon uchel a fydd yn gwella ansawdd bywyd menywod a merched sy’n cael eu heffeithio gan drais yn erbyn menywod yng Nghymru.

Nodiadau i Olygyddion

Mae Best Beginnings a Safer Beginners White Ribbon Alliance UK yn gweithio i wella canlyniadau i fenywod beichiog a diogelwch ôl-enedigol 70,950 o fenywod, ac yn eu plith 13,350 o fenywod o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban erbyn 2023, drwy ddatblygu gwybodaeth, gwasanaethau ac ymyriadau arbenigol sy’n galluogi hunan eirioli mewn diogelwch ymysg mamau a cham-drin/trais domestig a FGM/FGC.

Gwobrau Points of Light

  • Mae’r gwobrau Points of Light yn cydnabod gwirfoddolwyr a phobl neilltuol sy’n gwneud newidiadau yn eu cymuned ac sy’n ysbrydoli eraill.
  • Mae’r Prif Weinidog yn gwneud cyhoeddiadau dyddiol ar fuddugwyr i ddathlu, annog a hybu gwirfoddoli a’r gwerth sy’n dod i’r wlad yn ei sgil.
  • Os gwyddoch chi am rywun a all fod yn Point of Light ysgrifennwch at y Prif Weinidog yn 10 Stryd Downing.
  • Am ragor o fanylion ewch i wefan Points of Light
Cyhoeddwyd ar 16 November 2021