Cyflogau gweithwyr Cymru yn codi gyda chyfraddau newydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Bydd hyd at 160,000 o weithwyr yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog wrth i'r cyfraddau Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol newydd ddod i rym.

- Bydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn rhoi mwy o arian ym mhocedi hyd at 160,000 o’r gweithwyr sy’n cael y cyflogau isaf yng Nghymru.
- Mewn termau real bydd y codiad cyflog yn golygu £1,400 ychwanegol y flwyddyn i weithwyr amser llawn cymwys.
- Mae’r cyfraddau newydd yn rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl sy’n gweithio, yn rhoi hwb i safonau byw ac yn sbarduno twf fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid.
Bydd hyd at 160,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael codiad cyflog heddiw (dydd Mawrth 1 Ebrill) wrth gyflwyno cyfraddau newydd y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Bydd gweithwyr amser llawn ar y Cyflog Byw Cenedlaethol yn gweld codiad cyflog termau real o £1,400 y flwyddyn, gan helpu i roi gwell sefydlogrwydd ariannol i deuluoedd, gwella safonau byw a sbarduno twf fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid.
Bydd y codiad hwn yn rhoi sicrwydd i bobl sy’n gweithio ac yn lleihau’r pwysau ar eu cyllid o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn caniatáu i ragor o weithwyr elwa o bosibl ar effeithiau cadarnhaol eraill, gan gynnwys cynnydd posibl mewn cyflog i’r rhai sydd eisoes yn ennill mwy na’r isafswm cyfreithiol.
Dywedodd Jonathan Reynolds, yr Ysgrifennydd Busnes:
Roedden ni wedi addo gadael cyflogau isel yn y gorffennol. Nawr, fel rhan o’n Cynllun i Wneud i Waith Dalu a’r newid mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth, rydym yn cyflawni hynny.
Mae cyflog isel yn wael i weithwyr ac mae’n eu hatal rhag gwario ar y stryd fawr a chaniatáu i fusnesau lleol gyflawni eu llawn botensial.
Drwy sicrhau bod pawb yn cael cyflog teg am yr oriau maen nhw’n eu gweithio, rydym yn rhoi’r sefydlogrwydd ariannol sydd ei angen i sbarduno twf economaidd a sicrhau bod ein gwlad yn barod at y dyfodol.
Dywedodd y Gweinidog Hawliau Cyflogaeth, Justin Madders:
Mae gwaith caled yn haeddu cael ei wobrwyo ac mae Cynllun y Llywodraeth hon i Wneud i Waith Dalu yn gwireddu hynny.
Rydym yn codi’r llawr i weithwyr o Gaerdydd i Gaergybi, yn rhoi mwy o arian yn eu pocedi ac yn cyflawni’r safonau byw uwch sydd eu hangen i sbarduno twf economaidd ledled Cymru.
Dyma’r codiadau llawn o 1 Ebrill 2025 ymlaen:
- Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol (21 oed a hŷn) wedi cynyddu 6.7%, o £11.44 i £12.21 yr awr
- Mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (18-20) wedi cynyddu 16.2% sef mwy nag erioed, o £8.60 i £10 yr awr
- Mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (o dan 18 oed) wedi cynyddu 18%, i £7.55 yr awr
- Mae’r Gyfradd i Brentisiaid wedi gweld y cynnydd mwyaf sef 18%, o £6.40 i £7.55 yr awr
- Gosod yn erbyn llety o £10.66 y dydd
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Heddiw, bydd miloedd o’r gweithwyr sy’n cael y cyflogau isaf yng Nghymru yn cael codiad cyflog gwerth £1,400 y flwyddyn i helpu gyda biliau’r cartref ac i wella safonau byw.
Bydd teuluoedd o Fôn i Fynwy yn gweld y cynnydd hwn yn eu cyflogau o heddiw ymlaen wrth i Lywodraeth y DU roi mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig o blaid gweithwyr a dyna pam eleni yw’r flwyddyn gyntaf i’r Comisiwn Cyflogau Isel, sef y corff sy’n argymell cyfraddau cyflog, gael cyfarwyddiadau i gynnwys costau byw a chwyddiant yn ei asesiad.
Yn ogystal â hyn, bydd y Bil Hawliau Cyflogaeth, un o bileri allweddol y Cynllun i Wneud i Waith Dalu, yn rhyddhau £600 ychwanegol y flwyddyn i rai o’r gweithwyr sy’n cael y cyflogau isaf. Bydd hyn yn sicrhau bod y gweithwyr hyn yn cael codiad cyflog sy’n sicrhau gwell ansawdd bywyd.
Mae ymchwil ddiweddar gan ReWAGE a Phrifysgol Warwick yn dangos y gall cyflog isel arwain at broblemau iechyd meddwl gan gynnwys iselder, sy’n golygu colli rhagor o ddiwrnodau a llesteirio cynhyrchiant, sy’n golygu bod cyflogwyr yn ysgwyddo’r baich o ran costau, ac mae’n cynyddu costau i wasanaethau cyhoeddus fel y GIG.
Mae gweithwyr yng Nghymru yn haeddu’r codiad cyflog hwn ac mae angen iddynt wneud yn siŵr eu bod yn ei gael. Ewch i gov.uk/checkyourpay i weld os ydych chi’n gymwys.