Datganiad i'r wasg

Arweinwyr y byd yn mynd i giniawa yn adeiladau eiconig Cymru

Bydd gwesteion rhyngwladol yn mynd i giniawau gwaith yn adeiladau eiconig Cymru ar gyfer Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cardiff Castle

Mae Castell Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi cael eu dewis fel dau o’r lleoliadau ciniawa, yn ogystal â Bae Caerdydd, lle bydd HMS Duncan, llong ddistryw math 45 ddiweddaraf y Llynges Frenhinol, wedi docio drwy gydol yr uwchgynhadledd.

Royal Welsh College of Music and Drama

Gyda’i gilydd ar ddydd Iau 4 Medi, byddant yn croesawu Penaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau, Gweinidogion Tramor a Gweinidogion Amddiffyn o 28 o wledydd y Gynghrair.

HMS Duncan

Bydd yr uwchgynhadledd hefyd yn arddangos Tŷ Tredegar, Casnewydd, lle bydd derbyniad ar gyfer cannoedd o gynrychiolwyr o’r cyfryngau rhyngwladol a fydd yn rhoi sylw i’r cyfarfod.

Tredegar House

Bydd bwyd a diod o Gymru’n cael eu gweini wrth i lywodraethau Cymru a’r DU fanteisio ar y cyfle i arddangos Cymru i’r byd.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yn Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd bydd y casgliad mwyaf o arweinwyr rhyngwladol ym Mhrydain erioed, ac mae hefyd yn gyfle heb ei ail i arddangos Cymru i’r byd.

Mae yma leoliadau hynod ysblennydd yng Nghymru. Rwy’n falch y bydd cynrychiolwyr o bob cwr o’r byd yn cael cyfle i fwynhau hanes cyfoethog a threftadaeth ddiwylliannol Cymru eu hunain, yn ogystal â mwynhau ein lletygarwch a’n croeso cynnes traddodiadol.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

Rwy’n falch iawn y bydd rhai o adeiladau mwyaf trawiadol Casnewydd a Chaerdydd yn cael eu defnyddio i gyflwyno lletygarwch gorau Cymru yn ystod Uwchgynhadledd NATO. Mae’r cyhoeddiad hwn yn ychwanegu at y cyffro ynghylch y digwyddiad.

Bydd llygaid y byd ar Gymru, ac mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i sicrhau y bydd yr uwchgynhadledd yn rhedeg yn llyfn ac yn llwyddiannus, gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio’n agos i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle unigryw hwn.

Mae’r ddwy lywodraeth wedi gweithio gyda heddlu Gwent a heddlu De Cymru i sicrhau y bydd y digwyddiadau hyn yn tarfu ar drigolion lleol cyn lleied â phosib.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Llun Tŷ Tredegar trwy law Russell Ede ar Flickr, defnyddiwyd trwy Creative Commons. Llun HMS Duncan trwy law Mark Harkin ar Flickr, defnyddiwyw trwy Creative Commons.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 August 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 August 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation