Datganiad i'r wasg

Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc wedi gostwng bron i draean yng Nghymru

Stephen Crabb: “Dyma adferiad economaidd y gall pobl o bob cwr o Gymru fod yn rhan ohono.”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc wedi gostwng bron i 1,100 yn ystod y mis diwethaf, a bron i draen dros y flwyddyn, yn ôl ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (13 Mai).

Mae cyflogaeth wedi cynyddu 5,000 dros y chwarter diwethaf, ac mae ffigurau heddiw’n dangos bod 1.38 miliwn o bobl yn gweithio yng Nghymru nawr.

Mae diweithdra’n gyffredinol wedi gostwng 1,000 dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gwelwyd gostyngiad o 600 yn nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru yn y mis diwethaf, gostyngiad o bron i 17,000 yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn ostyngiad am y 25ain mis yn olynol a’r lefel isaf ers bron i saith mlynedd.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r ffigurau calonogol iawn hyn yn dangos ein bod yn ysgogi adferiad y gall pobl o bob cwr o Gymru fod yn rhan ohono.

Rwy’n falch bod cyflogaeth yn gyffredinol yn cynyddu ac mae’r gostyngiad sylweddol mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc yn newyddion arbennig o dda.

Rydyn ni’n creu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc elwa o hyfforddiant neu gael prentisiaeth a sicrwydd cyflog rheolaidd yn y pen draw.

Rwyf am i bawb yng Nghymru fwynhau manteision yr adferiad economaidd hwn ac mae’r ffigurau heddiw’n dangos ein bod ni’n gwneud cynnydd go iawn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 May 2015