Am ein gwasanaethau
Ni waeth beth yw natur eich ymholiad neu eich rheswm dros gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), rydym am sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i chi.
Y canlyniad cywir
- Byddwn yn darparu gwasanaethau archwilio rheoliadol, arbenigedd gwyddonol, milfeddygol a thechnegol, a gwasanaeth labordai o ansawdd da
- Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi sy’n berthnasol i’ch busnes/eich anghenion
- Byddwn yn ymchwilio i achos unrhyw broblemau ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i unioni pethau os byddant yn mynd o chwith
Y driniaeth gywir
- Byddwn yn eich trin yn gwrtais a phroffesiynol
- Byddwn yn ceisio adborth ac yn gwrando ac yn gweithredu arno
- Byddwn yn cydymffurfio â Chod y Rheoleiddwyr
Yn brydlon
- Byddwn yn ymateb ar unwaith i adroddiadau lle amheuir bod achos o glefyd egsotig hysbysadwy sy’n fygythiad uniongyrchol i iechyd pobl neu anifeiliaid
- Lle y cytunir ar apwyntiadau gyda chi, byddwn yn anelu at fod yn brydlon
- Byddwn yn cydnabod gohebiaeth ac yn ymateb i gwynion o fewn 15 diwrnod gwaith
- Byddwn yn anelu at fodloni safonau ac amserlenni a gyhoeddwyd gennym
Hygyrch
- Byddwn yn sicrhau y gallwch gysylltu â ni mewn ffyrdd sy’n syml a diffwdan
- Byddwn yn darparu gwasanaeth 24 awr ar gyfer rhoi gwybod am achosion brys yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid
- Byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r bobl gywir i ddelio â’ch ymholiad
Cwsmeriaid
Hefyd, byddem yn disgwyl i’n cwsmeriaid wneud y canlynol:
- Trin staff yn gwrtais
- Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am newidiadau perthnasol i’ch gwybodaeth
- Cadw unrhyw apwyntiad sydd gennych gyda ni, neu roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os na fyddwch yn gallu mynd i’r apwyntiad