Cynllun iaith Gymraeg

Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y bydd y Comisiwn yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yn Gymraeg.


Rhagair

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o Gynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn Elusennau. Mae llawer iawn wedi newid o fewn y Comisiwn ers cymeradwyo fersiwn ddiwethaf ein Cynllun. Mae’r Cynllun hwn yn adlewyrchu’r newidiadau hyn, o’n symudiad i ddyluniad canllawiau mwy hygyrch hyd at gyflwyno ein porth dwyieithog i ymddiriedolwyr, Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau.

Mae’r Cynllun hwn yn parhau i adlewyrchu ein cefnogaeth i’r Gymraeg a’n hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith. Mae’n dogfennu’n glir sut y byddwn yn mynd ati i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, lle bo’n bosibl, er mwyn sicrhau profiad defnyddiwr cadarnhaol i gwsmeriaid a chydweithwyr fel ei gilydd.

Byddwn yn monitro ein cydymffurfiad â’r Cynllun hwn ac yn sicrhau bod ein harlwy Cymraeg yn esblygu’n barhaus drwy roi ein cynllun gweithredu ar waith.

Dywedodd Helen Stephenson, Prif Weithredwr

Rwy’n falch iawn bod y Comisiwn wedi cymryd camau i adolygu a diweddaru ei ddull o ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o ddiwylliant a hunaniaeth Gymreig ac fel rheoleiddiwr elusennau Cymru a Lloegr, mae gennym ddyletswydd i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg lle y gallwn. Rydym yn gwybod, i lawer o siaradwyr Cymraeg, y bydd gallu cyrchu gwasanaethau’r Comisiwn yn Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w profiad cwsmer cyffredinol ac rwy’n falch bod y cynllun hwn yn ymrwymo’r sefydliad i safon mor uchel.

Pippa Britton OBE, Aelod Bwrdd Cymru

Cyflwyniad

Deddf yr Iaith Gymraeg

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru. O dan y Ddeddf, mae’n ofynnol i rai cyrff cyhoeddus baratoi cynllun iaith Gymraeg, gan gynnwys Comisiwn Elusennau Lloegr a Chymru (y Comisiwn).

Pwrpas y Cynllun hwn

Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y bydd y Comisiwn yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn Gymraeg. Fe’i paratowyd yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac fe’i gymeradwywyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 28/05/2024.  Mae’n adeiladu ar ein cynllun blaenorol a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg gynt yn 2010.

Mae’r Comisiwn wedi mabwysiadu’r egwyddor y byddwn, wrth gynnal ein busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y bydd y Comisiwn yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, tra’n mabwysiadu dull cymesur ac ymarferol.

Cwmpas y Cynllun hwn

Yng nghyd-destun y cynllun hwn, mae’r term cyhoedd yn golygu unigolion, pobl cyfreithiol a chyrff corfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd yn ei gyfanrwydd, neu ran o’r cyhoedd, yn ogystal ag aelodau unigol o’r cyhoedd. Mae’r term yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol, elusennau yn ogystal â chyrff cyhoeddus, megis byrddau iechyd. Mae cyfarwyddwyr ac eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig hefyd o fewn ystyr y term ‘cyhoedd’. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys pobl sy’n gweithredu mewn swyddogaeth sy’n cynrychioli’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth.  O ganlyniad, nid yw pobl sy’n cyflawni swyddogaethau swyddogol o natur gyhoeddus, er eu bod yn bobl cyfreithiol, yn dod o fewn ystyr y gair ‘cyhoedd’ pan fyddant yn cyflawni’r swyddogaethau swyddogol hynny.

Gallwch ddarllen mwy yn Cynlluniau Iaith Gymraeg: Eu paratoi a’u cymeradwyo yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu o fewn pedair blynedd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu’n gywir y gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn. Ni fyddwn yn diwygio’r cynllun hwn heb ganiatâd o flaen llaw gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Am y Comisiwn Elusennau

Amdanom ni 

Y Comisiwn Elusennau yw adran annibynnol, anweinidogol y llywodraeth sy’n cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yn Lloegr a Chymru. Ein diben yw sicrhau y gall elusengarwch ffynnu ac ysbrydoli ymddiriedaeth fel y gall pobl wella bywydau a chryfhau cymdeithas.

Rydym yn gweithio ar draws pedwar safle: Lerpwl, Llundain, Casnewydd a Taunton.

Ein cyfrifoldebau 

Rydym yn gyfrifol am:

  • gofrestru sefydliadau cymwys yn Lloegr a Chymru sydd wedi’u sefydlu at ddibenion elusennol yn unig
  • gymryd camau gorfodi pan fod camymddwyn
  • sicrhau bod elusennau yn bodloni eu gofynion cyfreithiol, gan gynnwys darparu gwybodaeth am eu gweithgareddau bob blwyddyn
  • sicrhau bod gwybodaeth briodol am bob elusen gofrestredig ar gael yn eang i’r cyhoedd
  • ddarparu arweiniad i helpu elusennau i redeg mor effeithiol â phosibl
  • ddarparu gwasanaethau ar-lein i elusennau

Ein gwerthoedd

Rydym yn Gomisiwn Elusennau arbenigol sy’n deg, yn gytbwys ac yn annibynnol.

Rydym yn deg:

  • rydym yn sicrhau bod cysondeb yn y ffordd rydym yn trin pobl – gan ymddwyn mewn ffordd sy’n rhydd o ragfarn
  • rydym yn sicrhau bod ein prosesau a’n harweiniad yn glir, yn drylwyr ac yn bodloni safonau proffesiynol
  • rydyn ni’n cymryd yr amser i esbonio beth rydyn ni’n ei wneud, pam rydyn ni’n ei wneud a beth yw ein rôl

Rydym yn gytbwys:

  • rydym yn ymchwilio i bryderon, yn dwyn elusennau i gyfrif i safonau sylfaenol ac yn delio’n gadarn â drwgweithredwyr bwriadol
  • rydym yn cefnogi ymddiriedolwyr ac eraill i redeg eu helusennau’n dda
  • rydym yn deall y gall y cynlluniau gorau fynd o chwith a helpu elusennau i gywiro’r camgymeriadau hynny pan fyddant yn digwydd

Rydym yn annibynnol:

  • rydym yn gweithredu’n ddiduedd, gan wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth
  • rydyn ni’n gwrando ar bob pryder gyda’r parch y maen nhw’n ei haeddu – ond ni allwn ni weld neb wrth gymhwyso’r gyfraith
  • rydym yn gweithredu heb ofn na ffafr gan unrhyw endid arall – boed hynny’n Llywodraeth, y sector neu’r cyhoedd

Ein hymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid

Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i ddarparu profiad defnyddiwr o ansawdd uchel i bawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau, gan gynnwys ein cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth yn y modd rydym yn trin ein gilydd ac yn rhyngweithio â’r rhai rydym yn ymgysylltu ac yn eu rheoleiddio. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu sut y byddwn yn sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg i arfer dewis iaith wrth ddefnyddio ein gwasanaethau, lle bod modd. Byddwn hefyd yn gwarchod ac yn hyrwyddo hawliau ein staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Ein hunaniaeth gorfforaethol

Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i hyrwyddo hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog yng Nghymru. Bydd ein henw, ein manylion cyswllt, ein logo a gwybodaeth safonol arall yn ymddangos yn Gymraeg a Saesneg ar bob deunydd sy’n dangos ein hunaniaeth gorfforaethol yng Nghymru.

Gallwch ddarllen mwy am y Comisiwn Elusennau yn ein hadroddiad blynyddol diweddaraf.

Am y sector elusennol yng Nghymru

Mae’r sector elusennol yng Nghymru yn gymysgedd amrywiol o sefydliadau, gydag ystod eang o ddibenion elusennol, megis addysg a hyfforddiant, cadwraeth a chwaraeon amatur.

Mae dros 169,000 o elusennau yng Nghymru a Lloegr gyda 8,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru. Mae yna dros 700,000 o ymddiriedolwyr yng Nghymru a Lloegr gyda mwy na 40,000 o ymddiriedolwyr unigol yng Nghymru. Mae mwyafrif yr elusennau yng Nghymru yn sefydliadau bach neu ficro, sydd ag incwm o lai na £10,000. Mae gan elusennau yng Nghymru incwm cyfun o dros £3.6bn, gyda’r rhan fwyaf o’r incwm hwn yn cael ei gynhyrchu o fasnachu elusennol. Mae 46% o elusennau yng Nghymru yn gweithredu yng Nghymru yn unig, mae 51% yn gweithio ar draws y DU ac mae 3% o elusennau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn gweithredu’n rhyngwladol.

Cynllunio a darparu gwasanaethau

Polisïau

Bydd ein polisïau yn gyson â’r cynllun hwn. Pan fyddwn yn datblygu polisïau newydd neu’n diweddaru polisïau presennol byddwn yn ystyried yr effeithiau ar gyfleoedd i bobl, gan gynnwys ein staff, ddefnyddio’r Gymraeg.

Gwasanaethau

Bydd ein gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg ac yn Saesneg o ansawdd cyfartal a, lle bynnag y bod modd, yn cael eu darparu o fewn yr un amserlen. Byddwn yn defnyddio gwasanaeth cyfieithu proffesiynol ar gyfer y rhan fwyaf o’n cynnwys sydd angen ei gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd cynnwys byr, ad-hoc y mae angen ei gyfieithu fel arfer yn cael ei wneud gan aelodau staff sy’n siarad Cymraeg.

Cynhyrchu/diweddaru systemau TG

Pan fyddwn yn datblygu systemau newydd neu’n diweddaru systemau presennol, byddwn yn ystyried effeithiau posibl ar y Gymraeg o’r cychwyn, gan ddefnyddio canllawiau Comisiynydd y Gymraeg ar Dechnoleg, Gwefannau a Meddalwedd.

Darparu gwasanaethau i’r cyhoedd

Dewis iaith

Gall y cyhoedd yng Nghymru ddewis ymgysylltu’n uniongyrchol â’r Comisiwn yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Gohebiaeth ysgrifenedig – e-byst a llythyrau copi caled

  • byddwn yn parhau i groesawu gohebiaeth gan y cyhoedd yn Gymraeg neu Saesneg
  • bydd ein templed llythyr safonol yn cynnwys logos Cymraeg a Saesneg y Comisiwn
  • bydd ymatebion i unrhyw ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu hanfon yn Gymraeg
  • pan fyddwn yn dechrau gohebu ag aelod o’r cyhoedd yng Nghymru ac nad ydynt yn ymwybodol o’u dewis iaith, byddwn yn ysgrifennu atynt yn ddwyieithog, gyda’r testun Cymraeg yn ymddangos gyntaf
  • anfonir unrhyw ohebiaeth ddilynol yn unol â’u dewis iaith. Byddwn yn pennu hyn trwy ddefnyddio’r iaith y maent yn dewis gohebu â ni ynddi
  • yr un fydd ein hamser targed ar gyfer ymateb ar gyfer gohebiaeth Gymraeg a Saesneg

Cyfathrebu dros y ffôn

  • gall cwsmeriaid ddewis cysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg
  • mae ein system ffôn awtomataidd yn gofyn i gwsmeriaid ddewis eu hiaith ddewisol
  • os bydd cwsmer yn dewis Cymraeg, bydd eu galwad yn cael ei hateb gan aelod o staff sy’n siarad Cymraeg
  • os nad oes siaradwyr Cymraeg ar gael, gofynnir i’r cwsmer adael neges a bydd siaradwr Cymraeg yn eu ffonio’n ôl cyn gynted â phosibl
  • mae ein siaradwyr Cymraeg wedi’u hyfforddi’n llawn i ddelio ag ystod o ymholiadau. Fodd bynnag, os gofynnir wedyn i gwsmer ysgrifennu i mewn, gallant gyflwyno eu hymholiad yn Gymraeg a byddant yn derbyn ymateb yn Gymraeg

Cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus yng Nghymru

  • pan fyddwn yn trefnu digwyddiad cyhoeddus yng Nghymru, fel ein Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol, byddwn yn hysbysebu’r digwyddiad yn ddwyieithog
  • ps byddwn yn gwahodd siaradwr gwadd i ddigwyddiad a drefnir gan y Comisiwn yng Nghymru, byddwn yn gofyn os yw’n well ganddynt gymryd rhan yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Os mai Cymraeg yw eu dewis iaith, byddwn yn trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg
  • byddwn yn gofyn i’r rhai sy’n bwriadu mynychu’r digwyddiad, ar adeg cofrestru, os yw’n well ganddynt gymryd rhan yn y Gymraeg neu’r Saesneg
  • bydd ein dull o ddarparu cyfieithu ar y pryd yn amrywio yn ôl natur, maint a lleoliad unrhyw gyfarfod cyhoeddus a gynhelir yng Nghymru
  • byddwn yn hysbysu pobl sy’n mynychu digwyddiadau a drefnir gan y Comisiwn os oes gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gael, er mwyn annog cyfraniadau yn Gymraeg
  • bydd unrhyw ddeunydd copi caled a ddyluniwyd gan y Comisiwn, a arddangosir mewn digwyddiad o’r fath, yn ddwyieithog

Cyfarfodydd preifat gyda’r cyhoedd yng Nghymru

Pan fyddwn yn trefnu cyfarfod gydag aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn gofyn os ydynt yn dymuno cyfrannu i’r cyfarfod yn Gymraeg neu yn Saesneg. Os mai Cymraeg yw eu dewis iaith, byddwn yn gwneud pob ymdrech i gael aelod o staff sy’n siarad Cymraeg yn y cyfarfod. Ar adegau pan nad yw hyn yn bosibl, oherwydd natur dechnegol y mater neu argaeledd staff sy’n siarad Cymraeg, gwahoddir yr unigolyn i ohebu yn Gymraeg yn ysgrifenedig neu i drafod y mater yn Saesneg.

Ceisiadau i gofrestru elusen

Mae cofrestru sefydliadau cymwys yn Lloegr a Chymru, a sefydlwyd at ddibenion elusennol, yn un o ddyletswyddau statudol y Comisiwn. Mae’r cais cofrestru ar-lein ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a gyflwynir yn Saesneg.

Ar adeg cofrestru, gall yr ymgeisydd ddewis ei ddewis iaith. Bydd eu dewis iaith yn cael ei gofnodi a bydd pob gohebiaeth gofrestru yn y dyfodol gyda chyswllt yr elusen yn adlewyrchu hyn, gan gynnwys e-byst awtomataidd.

Mae’r gofrestr elusennau ar-lein ar gael yn Gymraeg a Saesneg.  Gall defnyddwyr newid rhwng ieithoedd gan ddefnyddio’r togl iaith.

Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau

Gall defnyddwyr Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau lywio drwy’r system yn eu dewis iaith, gan ddefnyddio’r togl iaith. Pan fydd defnyddiwr yn dewis iaith, bydd yr iaith hon yn cael ei ddangos iddynt am weddill ei daith, heblaw ei fod yn penderfynu newid iaith. Pan fyddant ar gael, bydd adnoddau cysylltiedig megis ffurflenni a chanllawiau, yn cyfateb i ddewis iaith y defnyddiwr.

Ein hwyneb cyhoeddus

Ymgyrchoedd

Bydd ymgyrchoedd sydd wedi’u hanelu at gynulleidfaoedd yn Lloegr a Chymru yn cael eu cynnal yn Saesneg yn unig. Byddwn yn cynnal unrhyw ymgyrch hyrwyddo, a anelir yn benodol at gynulleidfa yng Nghymru, yn ddwyieithog. Bydd unrhyw ddeunydd sy’n cefnogi ymgyrch o’r fath yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog.

Arddangosfeydd neu stondinau

Yng Nghymru, bydd yr holl ddeunyddiau yn ddwyieithog neu’n cael eu harddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Rhoddir yr un amlygrwydd i’r ddwy iaith. Lle bod modd, bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn bresennol. Bydd staff sy’n siarad Cymraeg, neu staff sy’n dysgu Cymraeg, yn cael eu hannog i wisgo bathodyn ‘Iaith Gwaith’.

Cynnwys digidol a chyhoeddiadau

Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i wella profiad defnyddwyr a thaith y cyhoedd drwy ein gwefan. Byddwn yn anelu at gynyddu nifer y tudalennau sydd ar gael yn Gymraeg dros amser, yn unol â’n system sgorio gwrthrychol, ac ar dudalennau o fewn ein rheolaeth. Pan fydd tudalen ar gael yn Gymraeg, byddwn yn defnyddio togl iaith i alluogi’r defnyddiwr i newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Pan fydd tudalen wê yn cysylltu â gwefan neu dudalen we arall sydd ar gael yn Gymraeg, bydd y defnyddiwr yn cael ei gyfeirio at dudalennau Cymraeg y wefan.

Bydd rhybuddion, penderfyniadau, adroddiadau a datganiadau’r Comisiwn Elusennau yn Saesneg yn unig, oni bai eu bod yn ymwneud yn benodol â Chymru, megis adroddiad ymchwiliad neu ddiweddariad rheoleiddiol cyhoeddus i elusen sydd wedi’i lleoli yng Nghymru.

Byddwn yn defnyddio ein system sgorio fewnol i benderfynu’n wrthrychol pryd y dylid cyfieithu deunydd i’r Gymraeg. Gellir cyhoeddi deunyddiau yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd) neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Os byddant yn cael eu cyhoeddi ar wahân, bydd y ddwy fersiwn yn yr un fformat, wedi’u cynhyrchu i’r un safon ac yr un mor hygyrch.

Cyfarwyddyd

Byddwn yn parhau i gyhoeddi ein canllawiau lefel mynediad ar bynciau craidd, sy’n berthnasol i bob elusen, yn Gymraeg. Bydd y broses o gyfieithu canllawiau eraill yn cael ei lywio gan ein system sgorio fewnol.

Adroddiadau ymchwil

Wrth gynnal ymchwil cyhoeddus ledled Lloegr a Chymru, lle bod modd, byddwn yn sicrhau bod pob agwedd ar gyfathrebu yn newis iaith y person. Gall ein methodoleg samplu a’n data atal hyn o bryd i’w gilydd. Wrth gynnal ymchwil cyhoeddus i Gymru’n unig, byddwn yn gwneud hynny’n ddwyieithog. Bydd y safon gwasanaeth hon yn berthnasol i ymchwil cyhoeddus a wneir yn uniongyrchol gan y Comisiwn a chan unrhyw is-gontractwr penodedig.

Datganiadau i’r wasg

Bydd datganiadau i’r wasg fel arfer yn Saesneg yn unig, heblaw eu bod yn ymwneud yn benodol â Chymru, megis ymchwiliad i elusen sydd wedi’i lleoli yng Nghymru neu ymweliad neu ddigwyddiad yng Nghymru.

Cyfryngau cymdeithasol

Pan fyddwn yn derbyn neges cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, byddwn yn ymateb yn Gymraeg, os yw ymateb yn briodol.

Bydd cynnwys o ddiddordeb penodol i gynulleidfa Gymreig, megis ymweliad elusennol neu ddigwyddiad yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Staffio, Recriwtio, dysgu a datblygu

Byddwn yn ymdrechu i recriwtio a chadw niferoedd digonol o siaradwyr Cymraeg, i’n galluogi i ddarparu profiad defnyddiwr o ansawdd uchel, i’n cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg am unrhyw swydd a hysbysebir.

Byddwn yn penderfynu os yw’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd fesul achos.

Os yw’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, caiff hyn ei ddatgan yn glir yn yr hysbyseb swydd, gyda’r rhesymeg yn cael ei egluro yn y pecyn cais ehangach.

Lle mae ein swyddfa yng Nghasnewydd wedi’i rhestru fel opsiwn lleoliad, bydd yr holl hysbysebion swydd, disgrifiadau a phecynnau cais, yn cael eu hysbysebu yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil.

Bydd y broses gyfweld yn adlewyrchu’r anghenion ieithyddol a nodir yng ngofynion y swydd. Os hysbysebir y Gymraeg fel un hanfodol, caiff y broses gyfweld ei strwythuro yn unol â hynny i asesu cymhwysedd ieithyddol.

Byddwn yn annog ac yn cefnogi ein siaradwyr Cymraeg a’n dysgwyr Cymraeg i ddefnyddio ac ymarfer y Gymraeg, gan ddefnyddio cyfleoedd fel rhwydwaith Iaith Gymraeg y Gwasanaeth Sifil.

Gwasanaethau a ddarperir gan eraill ar ran y Comisiwn

Pan fyddwn yn contractio â phobl eraill i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn ei wneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r cynllun hwn. Rhoddir copi o’r cynllun i ddarparwyr gwasanaethau lle ei fod yn berthnasol.

Gweithredu, Cyfathrebu a monitro’o cynllun  

Er mwyn gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cynllun hwn, byddwn yn:

  • cyhoeddi’r cynllun hwn ar ein gwefan
  • ymgorffori gwybodaeth am y cynllun yn ein rhaglen sefydlu gorfforaethol
  • creu, a chynnal ar ein mewnrwyd, restr o eiriau ac ymadroddion defnyddiol i annog y di-Gymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
  • trefnu sesiynau gloywi ar y cynllun a’n cyfrifoldebau, lle bod angen
  • hyrwyddo a dathlu’r Gymraeg yn frwd ar ddiwrnodau megis Dydd Gŵyl Dewi

Bydd staff sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg yn cael eu hannog i wisgo’r bathodyn ‘Iaith Gwaith’ wrth fynychu digwyddiadau cyhoeddus. Gall staff hefyd ddewis defnyddio’r logo ‘Iaith Gwaith’ yn eu llofnod e-bost.

Byddwn yn monitro ein cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn y cynllun gweithredu cysylltiedig ac yn adrodd ar ein cynnydd i Gomisiynydd y Gymraeg yn flynyddol. Byddwn hefyd yn adrodd ar nifer a chwmpas unrhyw gwynion a dderbynnir.

Byddwn yn adolygu’r cynllun hwn o fewn pedair blynedd i’w gymeradwyo. Ni wneir unrhyw ddiwygiadau i’r cynllun heb ganiatâd ymlaen llaw gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Ymholiadau a chwynion

Mae’r Comisiwn yn cymryd camau’n barhaus i wella’r ffordd rydym yn rheoleiddio ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd. Croesewir awgrymiadau ar sut y gallem wella ein gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd sy’n siarad Cymraeg. Dylid cyflwyno unrhyw awgrymiadau gan ddefnyddio ein ffurflen ymholiad ar-lein, neu ffoniwch ni ar 0300 066 9197.

Mae’r Comisiwn yn cymryd cwynion am ein safonau gwasanaeth o ddifrif. Dylid gwneud cwynion am ein gwasanaeth Cymraeg neu fethiant honedig i weithredu’r cynllun hwn gan ddefnyddio ein ffurflen gwyno. Os ydych yn cael anhawster i ddefnyddio ein ffurflen gwyno ar-lein, ffoniwch ni ar 0300 066 9197.  Os dymunwch gwyno am ein hymddygiad neu safon ein gwasanaeth, rhaid i chi wneud hynny o fewn tri mis. Darllenwch ein polisi sy’n esbonio ein proses ymdrin â chwynion yn llawn.