Gweithdrefn gwyno

Sut i gwyno os nad ydych yn hapus â’r gwasanaeth rydych yn ei dderbyn gan DVLA.


Os oes gennych gwestiwn neu broblem y mae angen ei datrys

Dylech gysylltu â’r adran rydych wedi bod yn delio â hi yn gyntaf gan mai dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf o ddatrys eich ymholiad yn aml. Er mwyn trin â’ch ymholiadau, bydd angen inni wybod y canlynol:

  • eich enw a’ch cyfeiriad llawn
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif gyrrwr (ar gyfer ymholiadau am eich trwydded yrru)
  • rhif cofrestru eich cerbyd, gan gynnwys gwneuthuriad a model y cerbyd (ar gyfer ymholiadau am drwyddedu cerbyd, cofrestru neu orfodi)
  • unrhyw gyfeirnod rydym wedi’i ddarparu ar ohebiaeth flaenorol

Gwneud cwyn ffurfiol

Cam 1

Yn ddiweddar, rydym wedi symleiddio ein proses gwyno. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol, gallwch ysgrifennu i’n tîm cwynion a dweud wrthynt am eich gofidion.

I wneud cwyn, cysylltwch â’n tîm cwynion neu ysgrifennwch i:

Tîm Cwynion
DVLA
Abertawe
SA6 7JL

Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cwyn a cheisio anfon ymateb llawn atoch o fewn 10 diwrnod gwaith.

Cam 2

Os ydych wedi cymryd Cam 1 ac rydych yn teimlo nad yw’ch cwyn wedi’i hadfer, gallwch ysgrifennu at ein Pennaeth Cwynion, a fydd yn sicrhau y caiff eich achos ei adolygu a’ch bod yn derbyn ymateb. Rydym yn anelu at ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gallwch gysylltu â’n Pennaeth Cwynion yma. Nodwch nad yw ein Pennaeth Cwynion yn gallu delio ag ymholiadau cyffredinol.

Neu gallwch ysgrifennu i:

Pennaeth Cwynion
DVLA
Abertawe
SA6 7JL

Adolygiad annibynnol

Os ydych yn teimlo nad yw’ch cwyn wedi’i hadfer drwy’r weithdrefn cwynion ffurfiol 2 gam, gallwch ofyn inni gyfeirio’ch cwyn at Aseswr Cwynion Annibynnol (ACA).

Byddant yn adolygu’r modd y cafodd eich cwyn ei thrin a byddant yn disgwyl eich bod wedi ceisio adfer eich cwyn yn uniongyrchol gyda ni, yn unol â’n gweithdrefn cwynion, cyn ystyried eich cwyn. Cael gwybod rhagor o wybodaeth am waith yr ACA.

Yr Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd

Os nad ydych yn fodlon â’r canlyniad ac mae’r ACA hefyd wedi adolygu’ch cwyn, gallwch ofyn i Aelod Seneddol (AS) gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd.

Rydym yn croesawu pob adborth gan gynnwys pryderon, cwynion neu sylwadau ar yr hyn rydym wedi’i wneud yn dda. Rydyn ni am wneud popeth o fewn ein gallu i ddysgu i wneud mwy o’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn dda a gwella lle gallwn ni wneud yn well.

Ein nod yw bodloni Safonau Cwyno Llywodraeth Ganolog y DU y PHSO wrth ymdrin â chwynion. Mae’r safonau hyn yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaeth ymdrin â chwynion cyflymach a symlach sydd:

  • yn hyrwyddo diwylliant dysgu
  • yn croesawu cwynion mewn ffordd bositif
  • yn drwyadl a theg
  • yn rhoi ymatebion teg ac atebol

Gallwch gael gwybod rhagor ar wefan y PHSO.

Hysbysiad preifatrwydd

Am wybodaeth bellach am sut rydym yn prosesu eich data, eich hawliau a phwy i gysylltu ȃ nhw, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.

Ein hymrwymiad

Ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein busnes ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu safon uchel o wasanaeth i bawb. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth ac wedi ymrwymo i weithredu ar unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.

Ein nod yw:

  • ymchwilio’n wrthrychol i bob cwyn a gwneud pethau’n iawn ichi pan mae’n bosib
  • dysgu o ble aethom yn anghywir
  • sicrhau nad ydym yn gwneud yr un camgymeriad eto