Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a manylion am sut mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu monitro.


Amcanion Cydraddoldeb

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF wedi ymrwymo i drin pawb yn deg. Rydyn ni’n trin ein staff â pharch ac yn cynnig cyfle cyfartal i bawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Rydyn ni’n mynnu ymddygiad parchus a chwrtais gan staff, y rheini yn ein gofal ac eraill rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Rydym yn cydnabod y gall gwahaniaethu, aflonyddu a bwlio ddigwydd o hyd ac rydym yn cymryd camau cyflym a phriodol pryd bynnag y bydd hyn yn digwydd.

Mae rhagor o wybodaeth am ein hamcanion cydraddoldeb ar gael yn ein Cynllun Busnes 2018 i 19.

Adolygiadau ac Adroddiadau Blynyddol Cydraddoldeb

Rydym yn cyhoeddi dau adroddiad cydraddoldeb bob blwyddyn, un ar gyfer staff ac un ar gyfer y rhai sydd yn ein gofal, yn disgrifio’r gwaith rydym wedi’i wneud i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb. Mae’r adroddiadau hyn hefyd yn cyfrannu at ein gallu i fodloni’r gofynion penodol yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Gwybodaeth am Droseddwyr

Gwybodaeth am Staff

Roedd y wybodaeth am gydraddoldeb staff yn atodiad i adroddiad amrywiaeth a chynhwysiant blynyddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn flaenorol.

Cyswllt Cydraddoldeb

HMPPSDiversity_Inclusion@justice.gov.uk