Ein llywodraethiant
Rydym yn cael ein rheoli gan fwrdd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a’r pwyllgor rheoli gweithredol. Mae gennym hefyd bwyllgor archwilio.
Bwrdd HMPPS
Mae’r bwrdd yn gyfrifol am holl benderfyniadau lefel uchaf yr asiantaeth, gan gynnwys:
- strategaeth
- cyllid
- asesu risg
- rheoli perfformiad
Mae’n rhoi cyfarwyddyd i’r pwyllgor rheoli gweithredol ar:
- rheoli
- cynllunio
- cyfrifeg a chyllid
- rheolaethau mewnol
- dilyn deddfwriaeth a rheolau
- cyflawni amcanion yr asiantaeth
Mae’r bwrdd yn cefnogi’r pwyllgor rheoli gweithredol i wneud yn siŵr ei fod yn cynnal gwerthoedd y sefydliad ac yn darparu ei wasanaethau.
Pwyllgor Rheoli Gweithredol HMPPS
Mae’r pwyllgor rheoli gweithredol yn cynghori’r bwrdd ac yn adrodd ar yr holl weithgarwch o ddydd i ddydd yn yr asiantaeth. Mae gan y pwyllgor y pŵer i wneud penderfyniadau rheoli am yr asiantaeth rhwng cyfarfodydd bwrdd, er mwyn sicrhau bod yr asiantaeth yn gallu darparu ei gwasanaethau a chyflawni ei hamcanion.
Pwyllgor Archwilio HMPPS
Mae’r pwyllgor archwilio yn grŵp rheoli ar wahân sy’n rhoi cyngor annibynnol ar y canlynol:
- risgiau
- llywodraethu a rheoli
- y rhaglen archwilio
- adroddiadau archwilio mewnol
Drwy gydol y flwyddyn, mae’n adolygu cynnydd cynlluniau ac yn gwirio bod y rhain ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau. Mae hefyd yn edrych ar sut mae argymhellion archwiliadau sefydliadau eraill yn cael eu cyflawni ac a yw’r rhain yn llwyddiannus.
Dogfen fframwaith HMPPS
Mae
yn egluro trefniadau llywodraethu, atebolrwydd, cyllido, staffio a gweithredol HMPPS.