Gweithio i HMPS

Rydym yn cyflogi pobl mewn amrywiaeth o rolau swyddog, gofal iechyd, caplaniaeth, rheoli, cefnogi a gweinyddol.


I gael gwybod mwy am yrfa yn y gwasanaeth carchardai ac i wneud cais am y cyfleoedd diweddaraf, ewch i www.prisonandprobationjobs.gov.uk

Gallwch hefyd chwilio am swydd ar:

Yn ogystal â bodloni rheolau’r gwasanaeth sifil, rhaid i unrhyw un sy’n gwneud cais i ymuno â Gwasanaeth Carchardai EF:

  • bod yn rhydd o reolaeth mewnfudo a heb unrhyw gyfyngiadau amser
  • peidio â bod yn aelod o grŵp neu sefydliad y mae’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn ystyried bod ganddo athroniaeth, nodau, egwyddorion neu bolisïau hiliol
  • peidio â bod yn fethdalwr heb ei ryddhau

Lawrlwythwch y Proffiliau Llwyddiant: Trosolwg yr Ymgeisydd i ddysgu mwy am beth yw pob elfen wahanol.

Buddion Staff

Ar ben eich cyflog, byddwch yn cael hawl hael i wyliau blynyddol a gallwch fanteisio ar amrywiaeth o fuddion y Gwasanaeth Sifil, yn cynnwys: 

  • aelodaeth campfa am bris gostyngol (os ydych yn gweithio mewn carchar, bydd gennych fynediad at gampfa am ddim ar y safle)
  • benthyciadau tocyn tymor, cynllun beicio i’r gwaith a benthyciadau beic i helpu i reoli costau teithio i’ch gweithle
  • talebau gwobrwyo a chydnabod
  • gostyngiadau mewn siopau
  • gostyngiadau technoleg a ffonau clyfar
  • hyfforddiant gwych
  • cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa
  • 25 diwrnod o wyliau cyhoeddus a gwyliau banc (pro rata lle bo hynny’n berthnasol)
  • pensiwn y gwasanaeth sifil
  • opsiynau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Cymorth yn y carchar

Rydym yn cyflogi graddau cymorth gweithredol (OSG) ar gyfer amrywiaeth eang o ddyletswyddau, yn cynnwys:

  • cofnodi ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd
  • goruchwylio ymwelwyr
  • patrolio’r perimedr a’r tir
  • tywys contractwyr a cherbydau
  • chwilio adeiladau
  • chwilio eiddo carcharorion

Hyfforddiant cymorth gweithredol

Byddwch yn mynd ar gwrs hyfforddi 2 wythnos yng Ngholeg y Gwasanaeth Carchardai yn Newbold Revel, Rugby, neu un o’r canolfannau hyfforddi lleol wrth ymuno neu’n fuan ar ôl hynny. Bydd hyn yn rhoi’r holl wybodaeth, sgiliau a gwerthoedd angenrheidiol sydd eu hangen arnoch i fod yn hyderus yn eich swydd cymorth gweithredol.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon ac i wneud cais, ewch i www.prisonsupportroles.co.uk

Swyddog Carchar

Mae gweithio mewn carchar yn brofiad cwbl unigryw. Nid oes yr un dau ddiwrnod byth yr un fath. Mae’n rhaid i chi fod yn wydn, yn hyderus ac yn gyfathrebwr gwych.

Mae ein swyddogion carchar yn chwarae rhan hanfodol mewn cymdeithas, mewn amgylchedd unigryw. Rydyn ni’n bobl sy’n cadw heddwch, yn athrawon ac yn gwnselwyr. 

I ddechrau, yn dibynnu ar eich lleoliad a’r oriau contract, gallech ennill rhwng £32,000 a £38,000 pan fyddwch yn dechrau, yn ogystal ag ystod lawn o fuddion.

Hyfforddiant sylfaen swyddog carchar

Fel swyddog carchar, byddwch yn cael eich hyfforddi ar gyfer pob sefyllfa. Beth bynnag fo’r her, byddwch yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch gan eich tîm.

Cyn i chi ddechrau ar eich rôl, byddwch yn cwblhau hyfforddiant sylfaen swyddog carchar. Yn ystod yr hyfforddiant, byddwch yn dysgu ac yn ymarfer yr holl sgiliau a’r ymddygiadau sy’n hanfodol ar gyfer y rôl.

Gofynion cymhwysedd ychwanegol

Yn ogystal â gofynion cymhwysedd arferol y Gwasanaeth Carchardai, rhaid i bob ymgeisydd am swydd swyddog carchar:

  • fod yn 18 oed o leiaf pan fyddwch yn dechrau gweithio
  • pasio gwiriadau diogelwch ac adnabod llawn cyn ymgymryd â’r swydd
  • pasio prawf ffitrwydd a sgrinio iechyd
  • wedi bod yn breswylydd yn y DU am o leiaf 3 blynedd (ystâd diogelwch uchel yn unig)
  • pasio cyfnod prawf o 12 mis
  • datgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sydd ddim yn cyd-fynd â gwerthoedd amrywiaeth a chynhwysiant y gwasanaeth carchardai

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon, ewch i Trosolwg o rôl swyddog carchar – Swyddi mewn Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf

Seicolegydd Fforensig

Gallwch ymuno â Charchardai Ei Fawrhydi drwy 3 llwybr gwahanol:

Hwylusydd ymyriadau

I wneud cais, mae’n rhaid i chi fod â 5 TGAU (Gradd A* i C) neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys mathemateg a Saesneg.

Seicolegydd fforensig dan hyfforddiant

I wneud cais, rhaid i chi fod â gradd mewn seicoleg sy’n rhoi Sylfaen Graddedig ar gyfer Aelodaeth Siartredig o Gymdeithas Seicolegol Prydain a bod yn gymwys i ymgymryd ag ymarfer dan oruchwyliaeth. Mae hyn fel arfer yn golygu y byddwch wedi cwblhau MSc achrededig mewn seicoleg fforensig.

Seicolegydd cymwysedig

Mae hyn yn cynnwys rolau rheoli neu strategol, yn arwain staff eraill. Neu gall fod yn rôl fwy arbenigol, sy’n cynnwys gwasanaethau asesu ac ymyrryd uniongyrchol.

I wneud cais, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i psychologycareersinside.co.uk

Swyddogion hyfforddiadol

Mae swyddogion hyfforddiadol yn darparu hyfforddiant galwedigaethol i garcharorion, fel peirianneg, plastigau, argraffu, teilwra, esgidiau, garddwriaeth, rheoli gwastraff a gwaith coed ac ati.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon ac i wneud cais, ewch i Trosolwg o rolau addysg, sgiliau a gwaith mewn carchardai – Swyddi mewn Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf.

Arlwyo

Mae gweithio fel arlwywr carchar yn gyfle gwych i roi eich sgiliau a’ch cymwysterau arlwyo ar waith, gan gael effaith ymhell y tu hwnt i’r gegin.

Y sgiliau sydd eu hangen: profiad o weithio mewn cegin ddiwydiannol, ddyfeisgar a chefnogol.

Rhaid meddu ar dystysgrif lefel 2 o leiaf mewn hylendid bwyd a chynhyrchu bwyd mewn lletygarwch.

Caplaniaeth

Rydym yn gweithio gyda chaplaniaid o amrywiaeth eang o grefyddau ac yn penodi caplaniaid ar sail eu sgiliau a’u gallu i ddiwallu anghenion carcharorion.

Swyddi Rheoli

Mae cyfleoedd gwych i symud ymlaen ym maes rheoli yn y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf. Gallai eich gwaith gynnwys:

  • rheoli ac arwain tîm o staff cymorth
  • darparu cymorth arbenigol mewn meysydd fel TG, Adnoddau Dynol, neu hyfforddiant
  • gweithredu fel rhywun sy’n gwneud penderfyniadau
  • helpu i greu polisïau newydd

Ar gyfer rhai swyddi, efallai y bydd angen i chi feddu ar rai cymwysterau addysgol neu broffesiynol sylfaenol. Bydd y rhain yn yr hysbyseb swydd.

Gweinyddu

Gall prif ddyletswyddau cynorthwy-ydd gweinyddol gynnwys:

  • cadw cofnodion
  • ffeilio papurau a dogfennau electronig
  • mewnbynnu data
  • llungopïo
  • dyletswyddau switsfwrdd
  • ysgrifennu llythyrau
  • delio ag ymholiadau ffôn neu ysgrifenedig
  • trefnu ymweliadau â charchardai

Mae prif ddyletswyddau cynorthwy-ydd gweinyddol fel arfer yn cynnwys:

  • darparu cefnogaeth glercyddol fel prosesu a derbyn gwybodaeth
  • cadw ffeiliau a chofnodion
  • dadansoddi data
  • cysylltu neu groeswirio gwybodaeth a hel achosion at ei gilydd
  • caffael nwyddau neu wasanaethau
  • gwneud archebion, delio â chyflenwyr, a mynd ar ôl danfoniadau