Treth Incwm, Hunanasesiad a mwy
Online
Ffurflen Ymholiadau Cyffredinol
Ffurflen Drosglwyddo ar gyfer Angen Cefnogaeth Ychwanegol (ACY)
E-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk:
- os oes gennych ymholiadau ynghylch treth
- i ofyn am ffurflen yn Gymraeg
Nodwch eich enw a’ch rhif ffôn. Os ydych yn gwneud cais am ffurflen yn Gymraeg, ychwanegwch enw a rhif y ffurflen (os yw’r wybodaeth honno ar gael).
Os yw CThEF yn ateb eich ymholiad drwy e-bost, nid yw’r wybodaeth yn ddiogel. Os oes angen iddynt gysylltu â chi ynglŷn ag unrhyw beth cyfrinachol, byddant yn gwneud hynny drwy lythyr neu dros y ffôn.
Phone
Ffoniwch CThEF am help gyda threth.
Mae gan ymholiadau tollau, ecséis a TAW rif gwahanol i’w llinell gymorth.
Telephone:
0300 200 1900
Opening times:
Ein horiau agor yw:
Dydd Llun i ddydd Gwener 8:30 — 17:00
Oriau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Mae oriau agor gwahanol yn berthnasol dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd:
- Dydd Llun 23 Rhagfyr: 8am i 6pm
- Dydd Mawrth 24 Rhagfyr: 8am i 4pm
- Dydd Mercher 25 i Ddydd Iau 26 Rhagfyr: ar gau
- Dydd Gwener 27 Rhagfyr : 8am i 6pm
- Dydd Sadwrn 28 i Ddydd Sul 29 Rhagfyr: ar gau
- Dydd Llun 30 Rhagfyr i Ddydd Mawrth 31 Rhagfyr: 8am i 6pm
- Dydd Mercher 1 Ionawr: ar gau
- Dydd Iau 2 Ionawr: 8am i 6pm
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau’r banc.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth drwy’r canlynol:
-
eich Cyfrif Treth Personol neu Gyfrif Treth Busnes gan ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF
Post
Anfonwch eich holl ohebiaeth Gymraeg sydd at sylw CThEF i’r cyfeiriad hwn:
Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post pan fyddwch yn ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn.
Dylai negeswyr ddefnyddio cyfeiriad gwahanol (yn agor tudalen Saesneg).
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
United Kingdom