Amdanom ni

Y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yw corff swyddogol llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am hawliau eiddo deallusol (IP) gan gynnwys patentau, dyluniadau, nodau masnach a hawlfraint.


Rydym yn gweithredu ac yn cynnal system eiddo deallusol glir a hygyrch yn y DU, sy’n annog arloesi ac yn helpu’r economi a chymdeithas i elwa ar wybodaeth a syniadau. Rydym yn helpu pobl i gael y math cywir o amddiffyniad ar gyfer eu creadigaeth neu ddyfais.

Pwy ydym n

Daeth y Swyddfa Eiddo Deallusol yn enw gweithredol y Swyddfa Batentau ar 2 Ebrill 2007. Sefydlwyd y Swyddfa Batentau ym 1852 i roi patentau, er bod gwreiddiau’r system batentau yn dyddio’n ôl 400 mlynedd arall.

Rydym bellach yn dîm o oddeutu 1600, gyda swyddfeydd yng Nghasnewydd a Llundain. Mae’r tîm yn cynnwys arbenigwyr ym meysydd rhoi hawliau, TG, cyllid ac AD.

Mae gennym ardystiad ISO ar gyfer y canlynol:

  • ISO 45001 ar gyfer ein system Rheoli Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
  • ISO 27001 ar gyfer ein diogelwch TG
  • ISO 14001 ar gyfer ein system rheoli amgylcheddol
  • ISO 9001 hoi a chofrestru Hawliau IP

Mae’r polisïau ansawdd ar gael ar gais.

Ar gyfer dogfennaeth patentau, rydym wedi ein hardystio i Safon BS 10008. BS 10008 yw’r Safon Brydeinig sy’n amlinellu arfer gorau ar gyfer cyflawni a gweithredu systemau rheoli gwybodaeth electronig, gan gynnwys storio a throsglwyddo gwybodaeth. Mae Nodau Masnach a Dyluniadau hefyd yn ceisio ennill Safon BS 10008 cyn bo hir.

Yn ogystal, mae gennym hefyd wobrau Buddsoddwyr mewn Pobl a Rhagoriaeth gyda Chwsmeriaid am ein hyfforddiant a datblygiad staff ac ymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid yn y drefn honno.

Ein cyfrifoldebau

Rydym yn gyfrifol am:

  • Polisi IP
  • addysgu busnesau a defnyddwyr am hawliau a chyfrifoldebau IP
  • cefnogi gorfodi IP
  • rhoi patentau, nodau masnach a hawliau dylunio yn y DU

Ein blaenoriaethau

Mae ein strategaeth a Blaenoriaethau Corfforaethol y Swyddfa Eiddo Deallusol 2024 i 2025  yn nodi sut rydym yn helpu’r DU i ddod y wlad fwyaf arloesol a chreadigol yn y byd drwy:

  • darparu gwasanaethau IP ardderchog
  • creu amgylchedd IP  sy’n arwain y byd
  • gwneud yr IPO yn lle gwych i weithio

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Publication scheme. Dysgwch am ein hymrwymiad i Welsh language scheme. Mae ein Personal information charter yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol.